91Èȱ¬

Eisteddfod: Cantorion ddim am berfformio heb newid rheol iaith

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Izzy ac Eadyth
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cantorion Izzy Morgana Rabey ac Eadyth wedi gwneud eu datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol

Mae dwy gantores wedi dweud na fyddan nhw'n perfformio yn gig y pafiliwn yr Eisteddfod eleni heblaw bod y polisi iaith ar gyfer "artistiaid sydd wedi'u gwahodd" yn newid.

Dywedodd Izzy Morgana Rabey ei bod hi ac Eadyth Crawford yn dymuno cwrdd â bwrdd yr Eisteddfod "er mwyn trafod sut y gall yr Eisteddfod fod yn fwy cynhwysol".

Daw'r sylwadau wedi i'r perfformiwr Sage Todz ddweud na fydd yn perfformio yn y Brifwyl eleni gan fod penaethiaid wedi dweud wrtho bod gormod o Saesneg yn ei ganeuon.

Dywedodd ei fod yn parchu'r rheol iaith ond na fyddai'n newid ei ganeuon am eu bod yn gyfansoddiadau gorffenedig.

Mae'r mater wedi denu cryn ymateb ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda rhai'n mynegi siom ac eraill yn cefnogi rheol yr Eisteddfod, sy'n nodi bod yn rhaid i artistiaid berfformio yn y Gymraeg.

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi dweud bod y rheol iaith yn "greiddiol i ni", gan ychwanegu y byddai'n ymateb i Izzy Rabey yn breifat.

'Blino ar ffitio i reol'

Mewn datganiad, dywedodd Izzy Rabey: "Mae Eadyth a minnau wedi bod yn trafod yr hyn sydd... wedi bod ar y cyfryngau cymdeithasol dros yr wythnos ddiwethaf ac mae wedi codi llawer o bryderon i ni ynglÅ·n ag uniondeb yr Eisteddfod a'i hymrwymiad i gynwysoldeb.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Izzy Morgana Rabey🌙🫧

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Izzy Morgana Rabey🌙🫧

"Mae gofyn i artistiaid, sy'n ysgrifennu'n ddwyieithog i newid geiriau nid yn unig yn cwestiynu gwir gymhellion pam y gwnaethoch ein cyflogi yn y lle cyntaf, mae hefyd yn awgrymu ac yn parhau'r syniad nad yw ein mynegiant o brofiad ein bywydau ni fel Cymry yn gynrychiolaeth o delerau a safonau sy'n cyd-fynd â'r hyn y mae'r Eisteddfod yn ei ystyried yn gadwraeth ddiwylliannol ac yn ddathliad ieithyddol."

Mae'r neges yn dweud eu bod yn deall y polisi iaith o ran cystadlu ond nid yng nghyd-destun gwahodd artistiaid i berfformio - yn enwedig os yw'r Brifwyl yn ymwybodol o eiriau'r caneuon o flaen llaw.

Ffynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sage Todz - neu Toda Ogunbanwo - yn artist dril amlwg yn y sin gerddoriaeth Gymraeg

"Unwaith eto dywedwyd wrth Eadyth a minnau... i gyfieithu geiriau o'r Saesneg i'r Gymraeg, pan fo dwyieithrwydd yn greiddiol i'r modd yr ydym yn mynegi ein hunaniaeth Gymreig ac yn ei dathlu," meddai neges Izzy Rabey ymhellach.

"Fy nghwestiwn i yw: ydy polisi iaith yn mynd i achub iaith? Dydw i ddim y meddwl ei fod?

"Yn hytrach, credaf mai pobl ifanc sy'n defnyddio'r Gymraeg yn rhydd ym mha bynnag ffurf y teimlant i fynegi eu hunain yn greadigol, i fod yn berchen arni, i deimlo mai nhw sy'n berchen arni, heb y pryder o feddwl nad yw byth yn 'ddigon da'.

"Mae cerddoriaeth Gymraeg, hip hop Cymraeg yn arbennig, yn cysylltu â chenhedlaeth hollol newydd o siaradwyr a dysgwyr Cymraeg."

Gorffenna'r datganiad drwy ddweud eu bod nhw ac artistiaid Cymreig eraill yn gofyn am gael cyfle i gwrdd â bwrdd yr Eisteddfod i drafod eu pryderon a gwneud cais ffurfiol i newid y polisi iaith.

Os na fydd hynny'n digwydd ni fyddant yn canu yng nghyngerdd y pafiliwn fis Awst, meddent.

"Fel artistiaid rydym wedi blino o gael ein rhoi mewn sefyllfaoedd lle cawn ein cyfarwyddo i beryglu ein dewisiadau creadigol... er mwyn 'ffitio' rheol sy'n gosod yr hyn y dylai 'gwir' diwylliant Cymreig fod."

'Ymateb yn bersonol'

Wrth ymateb dywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol: "Rydyn ni wedi derbyn e-bost gan Izzy Rabey ynglŷn â'i pherfformiad yn yr Eisteddfod y bore 'ma.

"Byddwn yn ymateb iddi hi'n bersonol ac nid drwy'r wasg a'r cyfryngau."

Beth ydy'r cefndir?

Ddechrau wythnos diwethaf fe wnaeth un o'r bandiau a chwaraeodd ym Maes B y llynedd awgrymu y gallai'r Eisteddfod Genedlaethol lacio ei rheol iaith ar gyfer cerddorion sy'n perfformio yn y maes ieuenctid.

Dywedodd Gwenllian Anthony o'r band Adwaith ei bod hi'n ystyried safbwynt yr Eisteddfod yn "ddigon teg i ddechrau".

Ond wedyn mae'n dweud iddi sylwi fod nifer o ddysgwyr, ac eraill nad oedd yn hyderus yn eu Cymraeg, yn "teimlo bod yr Eisteddfod yn intimidating neu ddim yn accessible iddyn nhw".

Disgrifiad,

Adwaith: "Beth am slacio polisi iaith y Steddfod ar gyfer Maes B?"

"Falle byddai slacio'r polisi ym Maes B, a chadw [prif faes yr] Eisteddfod fel mae e o ran polisi iaith, yn 'neud e'n fwy accessible... i bobl sydd ddim yn iaith gyntaf Gymraeg," meddai.

Ychwanegodd ei bod hi'n "deall" y pryder gan rai y gallai agor y drws i fwy o Saesneg fod yn llethr llithrig.

"Gallen ni drial pethau, slacio'r polisi iaith, neu implementio rhywbeth arall... os yw e ddim yn gweithio, dyw e ddim yn gweithio, ond there's no harm in trying."

'Gŵyl Gymraeg yw'r Brifwyl'

Un arall sydd wedi galw am ailystyried y rheol iaith yw Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething.

Dywedodd ar Twitter y byddai cynnwys artist fel Sage Todz yn yr Eisteddfod yn dod â'r Gymraeg i gynulleidfa ehangach.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ashok Ahir bod negeseuon hiliol at Sage Todz a'i hun yn ei dristáu

Dywedodd cadeirydd Bwrdd Rheoli'r Eisteddfod Genedlaethol, Ashok Ahir y bydd y Brifwyl yn parhau i gydweithio gyda phartneriaid er mwyn cyflwyno'r iaith i ystod ehangach o unigolion a grwpiau ond atgyfnerthodd y neges mai gŵyl Gymraeg yw'r Brifwyl.

"Roedden ni'n awyddus i Sage Todz berfformio yn yr ŵyl ond rydyn ni'n parchu ei benderfyniad i beidio â pherfformio yn y Gymraeg yn unig," meddai Mr Ahir.

"Rydyn ni wedi ein tristáu'n fawr gan yr hiliaeth a anelwyd ato ef ac eraill, ar gyfryngau cymdeithasol, yn dilyn ei gyhoeddiad.

"Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn ymrwymedig i fod yn ŵyl gynhwysol sy'n parchu ac yn dathlu amrywiaeth yn ein holl weithgareddau a gweithdrefnau."