Cadarnhau Ynys M么n fel cartref Eisteddfod yr Urdd 2026
- Cyhoeddwyd
Ynys M么n fydd cartref Eisteddfod yr Urdd 2026.
Mewn cyfarfod yn Llangefni nos Iau, cafodd gwahoddiad swyddogol ei hestyn gan wirfoddolwyr.
Y tro diwethaf i'r 诺yl ymweld 芒'r ynys oedd yn 2004 ar faes Sioe M么n ger Gwalchmai.
Mae'r 诺yl yn denu dros 100,000 o ymwelwyr i'r maes bob blwyddyn.
Fe fydd yr 诺yl yn cael ei chynnal rhwng 25-31 Mai 2026.
Mewn cyfarfod cyhoeddus yn Ysgol Corn Hir, dywedodd Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, Si芒n Eirian, mai "braf iawn oedd gweld cefnogaeth unfrydol gan gynrychiolwyr ar hyd yr Ynys yn y cyfarfod heno i wahodd Eisteddfod yr Urdd n么l i Ynys M么n yn 2026".
"Fel Mudiad rydym yn edrych ymlaen yn fawr i ddychwelyd unwaith eto yn 2026 ac yn diolch o galon i Gyngor Sir Ynys M么n, ein hieuenctid, a'r holl wirfoddolwyr am eu brwdfrydedd a'u cefnogaeth arbennig."
Mae "eisoes llawer o frwdfrydedd a pharodrwydd yn lleol i groesawu'r Eisteddfod", meddai Arweinydd Cyngor M么n, Llinos Medi.
Dywedodd y byddai'n "gyfle unigryw i arddangos Ynys M么n ar lefel genedlaethol".
Yn ystod cyfarfod llawn o'r cyngor sir fis diwethaf, cafodd cynnig gan yr arweinydd i wahodd yr 诺yl ei basio'n unfrydol.
"Hoffwn ddiolch i fy nghyd-aelodau o'r Cyngor Sir am eu cefnogaeth unfrydol i ddod ag Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i'r Ynys.
"Rydym ni gyd yn cydnabod ei phwysigrwydd o ran ein pobl ifanc, yr economi leol a'r Gymraeg."
Llanymddyfri oedd lleoliad yr 诺yl eleni, ac yna ardal Meifod fydd ei lleoliad y flwyddyn nesaf.
Yn 2025, Parc Margam fydd cartref yr 诺yl, wrth i'r Eisteddfod ddychwelyd i Gastell-nedd Port Talbot am y tro cyntaf ers 2003.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mai 2023
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2023