91Èȱ¬

Gemau pêl-droed Cymru i barhau am ddim ar S4C tan 2028

  • Cyhoeddwyd
Aaron RamseyFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Fe fydd gemau tîm pêl-droed rhyngwladol dynion Cymru yn parhau i gael eu dangos am ddim ar S4C hyd at 2028.

Yn dilyn cytundeb rhwng y corff rheoli UEFA a'r darlledwr Viaplay, roedd amheuaeth dros ddarlledu'r gemau gyda sylwebaeth Gymraeg.

Mae S4C wedi bod yn darlledu'r gemau yn fyw am ddim ers 2017.

Daeth cadarnhad gan y sianel ddydd Iau y byddai'r drefn yn parhau yn dilyn cytundeb gyda Viaplay.

Fe fydd y cytundeb yn cynnwys ymgyrchoedd Cynghrair y Cenhedloedd, a gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2026 ac Euro 2028.

Mae'r cytundeb hefyd yn cynnwys gemau cyfeillgar yn ystod y cyfnod.