Betsi Cadwaladr: Gweinidog iechyd yn cywiro sylwadau i鈥檙 Senedd
- Cyhoeddwyd
Mae gweinidog iechyd Cymru wedi cael ei gorfodi i gywiro ei sylwadau am adroddiad deifiol am gyllid Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Dywedodd Eluned Morgan wrth aelodau'r Senedd yr wythnos ddiwethaf bod y cyfrifwyr fforensig EY wedi dechrau edrych ar gyfrifon y corff "yn dilyn cyngor gan Lywodraeth Cymru".
Ond roedd dau o gyn-uwch swyddogion y bwrdd iechyd yn anghytuno 芒'i fersiwn hi o'r digwyddiadau.
Mae Ms Morgan bellach wedi cyfaddef nad oedd "sgwrs uniongyrchol" ar y mater.
'Camarweiniol ac anghywir'
Roedd cyn-gadeirydd Betsi Cadwaladr, Mark Polin, wedi dweud fod sylwadau Ms Morgan yn "gamarweiniol ac anghywir".
Doedd Llywodraeth Cymru "ddim yn rhan o'r penderfyniad mewn unrhyw ffordd", yn 么l cyn-is-gadeirydd Pwyllgor Archwilio Betsi Cadwaladr, Richard Micklewright.
Dywedodd adroddiad EY fod y bwrdd iechyd wedi cam-gofnodi gwariant o filiynau o bunnau, a bod swyddogion cyllid wedi gwneud cofnodion anghywir yn eu cyfrifon eu hunain yn fwriadol.
Mae'r astudiaeth wedi cael ei gweld gan 91热爆 Cymru, ond nid yw'n gyhoeddus ac mae yna bwysau ar Lywodraeth Cymru gan wleidyddion y gwrthbleidiau i'w chyhoeddi'n llawn.
'Gwallau sylweddol'
Dechreuodd ymchwiliad EY ym mis Medi 2022 ar 么l i'r corff rheoleiddio Archwilio Cymru ddod o hyd i "wallau sylweddol" yng nghyfrifon 2021-22 y bwrdd iechyd.
Roedd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth wedi ysgrifennu at y gweinidog iechyd yn gofyn am eglurhad ac unrhyw ddogfennaeth a allai "fwrw goleuni ar y sefyllfa".
Dywedodd bod "tryloywder mewn perthynas 芒'r holl faterion sy'n ymwneud 芒 Betsi Cadwaladr ar hyn o bryd yn hanfodol os ydy pobl am allu ymddiried yn ymdrechion y llywodraeth i roi trefn ar wasanaethau iechyd yn y gogledd".
Roedd Mr Polin a Mr Micklewright ymhlith yr 11 aelod annibynnol gafodd eu gorfodi i ymddiswyddo o'r bwrdd gan Ms Morgan ym mis Chwefror.
Wrth siarad yn y Senedd yr wythnos ddiwethaf dywedodd Eluned Morgan: "Yn dilyn cyngor gan Lywodraeth Cymru, comisiynodd pwyllgor archwilio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Ernst & Young i gynnal adolygiad fforensig o reolaeth cyfrifyddu ar 么l i Archwilio Cymru roi barn amodol ar gyfrifon y bwrdd iechyd ar gyfer 2021-22 a nodi methiannau rheoli mewnol".
Ond dywedodd Mr Micklewright, cyn-aelod annibynnol o'r bwrdd iechyd, fod ei bwyllgor wedi "defnyddio ei farn broffesiynol ei hun" wrth gomisiynu adroddiad Ernst & Young.
"Yn groes i ddatganiad y gweinidog yn y Senedd, nid oedd Llywodraeth Cymru yn rhan o'r penderfyniad mewn unrhyw ffordd ac ni ofynnwyd am ei mewnbwn," meddai.
Yn 么l Mr Polin, sy'n gyn-brif gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru: "Doedd EY yn sicr ddim wedi cael ei gomisiynu ar gyngor Llywodraeth Cymru."
Pan gododd y pwyllgor archwilio bryderon ag ef am anghysondebau ariannol yn y bwrdd, dywedodd Mr Polin wrth 91热爆 Cymru iddo ofyn am gyngor gan Judith Paget - cyfarwyddwr cyffredinol dros dro iechyd a gwasanaethau cymdeithasol Llywodraeth Cymru.
Yn 么l Mr Polin, fe ddywedodd hi wrtho am gael eglurhad gan brif weithredwr y bwrdd, Jo Whitehead.
Ond doedd hyn ddim "yn mynd i'r afael 芒'u pryderon".
"Wnaeth hi ddim, ar unrhyw bwynt, gynghori fi na chadeirydd y pwyllgor archwilio i gomisiynu EY," meddai Mr Polin.
"Cadeirydd y pwyllgor archwilio wnaeth gomisiynu EY, gyda'm cytundeb i."
Yn y Senedd brynhawn Mercher fe ofynnodd Aelod o'r Senedd y Ceidwadwyr dros ogledd Cymru, Darren Millar i'r gweinidog iechyd egluro "er mwyn cyrraedd y gwir".
Dywedodd Eluned Morgan fod pennaeth GIG Cymru, Judith Paget "wedi siarad yn uniongyrchol 芒 phrif weithredwr Betsi ar y pryd, Jo Whitehead, yn dilyn adroddiad Archwilio Cymru a ddaeth o hyd i honiadau o gamddatganiadau ariannol, ac argymhellodd y dylai'r bwrdd iechyd gynnal ymchwiliad llawn i ddeall sut mae'r camddatganiadau wedi digwydd".
"Ni chomisiynodd Llywodraeth Cymru yr adroddiad, a dydw i erioed wedi awgrymu bod Llywodraeth Cymru wedi comisiynu'r adroddiad.
"Ond mae'n debyg ei bod hi'n deg dweud na fu sgwrs uniongyrchol, hyd y gwn i, rhwng Llywodraeth Cymru a phwyllgor archwilio bwrdd Betsi, ond roedd sgwrs, fel rydw i wedi nodi, rhwng prif weithredwr y GIG yng Nghymru a phrif swyddog gweithredol Betsi, ac rwy'n hapus i gywiro'r cofnod ar y sg么r hwnnw."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd31 Mai 2023
- Cyhoeddwyd28 Mai 2023
- Cyhoeddwyd24 Mai 2023