Lluniau: Dydd Gwener Eisteddfod yr Urdd 2023
- Cyhoeddwyd
Dyma i chi flas ar yr awyrgylch a be' sydd yn digwydd ar y maes yn Llanymddyfri ar ddydd Gwener, 2 Mai.
Mae'r tri brawd yma, Iori, Gruff ac Ynyr o Ffarmers, Sir G芒r wedi codi'n gynnar i ddod i'r Maes i gael lliwio efo Gwasanaeth T芒n ac Achub De Cymru. Er iddyn nhw fod i Eisteddfod Tregaron llynedd dyma eu tro cyntaf yn Eisteddfod yr Urdd.
Mae llythrennau mawr Triban wedi cyrraedd y maes yn barod ar gyfer yr 诺yl sy'n dechrau heno. Dros y deuddydd bydd amryw o artistiaid yn chwarae gan gynnwys Morgan Elwy, Fleur de Lys, Adwaith, Meinir Gwilym, Mared, Dafydd Iwan ac Y Cledrau.
Everen a Yadigar o Dwrci ac Ayla o Forocco yw'r dair yma. Dywedodd Everen "Dyma ein pumed diwrnod ar y maes. Roedden ni yma am 7:30am dydd Llun! Mae'n anhygoel. Rydyn ni wedi gweld gymaint o bethau ac wedi bod yn y pafiliwn coch."
Mae criwiau Ambiwlans St John wedi bod ar y maes drwy'r wythnos i helpu gyda chymorth cyntaf. Dyma Katie, Melanie a Jorja. Dywedodd Melanie, "Dyw hi ddim edi bod yn rhy fishi. Lot o plasters ar gyfer blisters!! Mae'r ddwy yma'n dysgu, fel cadets, ac mae'r Eisteddfod wedi bod yn dda i gael gwahanol brofiadau."
Milfeddyg y dyfodol?! Dyma Ifan o Lanrug yn rhoi ffisig i'r anifeiliaid yn y GwyddonLe.
Adwaith ar eu newydd wedd. Heno bydd y gr诺p o Sir G芒r yn cau noson gyntaf G诺yl Triban eleni ond nid fel band o dair! Am y tro cyntaf erioed byddan nhw'n chwarae fel pedwarawd. Mae'r cerddor Gillie, sy'n adnabyddus am ganeuon fel 'i ti' a 'Llawn' wedi ymuno 芒'r band poblogaidd. Ar 么l Triban, byddan nhw'n perfformio yn Glastonbury am yr eildro ac yng ng诺yl End of The Road, ac yna'n dechrau gwaith ar eu trydydd albwm.
Bronwen Lewis ar lwyfan pabell Yr Adlen - dyma gartref G诺yl Triban eleni.
Roedd llond bol o chwerthin i'w gael dros ginio yn yr Arddorfa mewn sesiwn drafod gyda Elis James, Mel Owen ac Ellis Lloyd Jones.
Roedd Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones, yn rhan o lansiad prosiect '#FyIaith' sy'n galw ar bobl ifanc i rannu'r geiriau maen nhw'n defnyddio o ddydd-i-ddydd. Dywedodd bod "gwaith i'w wneud o ran codi hyder pobl ifanc yn eu Cymraeg." Mae'r prosiect, dan arweiniad Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yn dilyn llwyddiant casglu geiriau 'iaith babi' llynedd.
Mali Haf yn dweud 'Paid Newid Dy Liw' yng Ng诺yl Triban.
Mae Ffion Emyr wedi bod yn crwydro'r Maes drwy'r wythnos ar ran 91热爆 Radio Cymru ac wedi sgwrsio efo degau o bobl. Heddiw cafodd gwmni'r comed茂wr, Elis James, sydd hefyd yn Llywydd y Dydd. 'Sgwn i beth oedd y j么c?!
Owain Williams, Prif Lenor Eisteddfod yr Urdd 2023. Cystadlodd Owain eleni am y tro cyntaf a hynny dan yr enw 'Lleu' a teitl y gwaith buddugol yw 'Blodyn haul'. Dywedodd y llenor ifanc, "Mae ennill yn fraint arbennig, ac mi ydw i'n hollol ddiolchgar am y cyfle. Mae'n parhau i fod yn sioc llwyr ac yn fy ysbrydoli i barhau i ysgrifennu."
Hefyd o ddiddordeb: