Rhys Webb yn ymddeol o rygbi rhyngwladol yn 34 oed
- Cyhoeddwyd
Rhys Webb yw'r chwaraewr rygbi rhyngwladol diweddaraf i gyhoeddi'n annisgwyl ei fod yn ymddeol o'r t卯m cenedlaethol.
Mae hyn yn golygu na fydd y mewnwr yn chwarae yng Nghwpan y Byd ym mis Medi, er iddo gael ei enwi yn y garfan estynedig gan brif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland.
Webb yw'r trydydd chwaraewr profiadol i gyhoeddi ei fod yn rhoi'r gorau iddi yn dilyn ymddeoliad Alun Wyn Jones a Justin Tipuric yn gynharach yn y mis.
Daw'r cyhoeddiad union 100 diwrnod cyn dechrau Cwpan Rygbi'r Byd yn Ffrainc.
Cafodd ei enwi yn seren y g锚m yn erbyn Yr Eidal ym mis Mawrth eleni, y g锚m gyntaf iddo ddechrau ynddi yn y Chwe Gwlad ers 2017.
Fe ddywedodd wedi hynny ei fod yn awyddus i sicrhau ei le yng ngharfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd.
'Ansicrwydd presennol'
Chwaraeodd 200 o weithiau i'w ranbarth y Gweilch ac fe dreuliodd gyfnodau yn Ffrainc a Lloegr gyda Toulon a Chaerfaddon rhwng 2018-2020.
"Roedd cael y cyfle i chwarae eto i Gymru yn anrhydedd a dwi'n falch iawn o fod wedi cael enwi fel rhan o garfan ymarfer Cwpan y Byd," meddai Webb.
Eglurodd Webb, 34, y byddai wedi hoffi gorffen ei yrfa gyda rhanbarth Cymreig, ond awgrymodd fod "ansicrwydd presennol" wedi chwarae rhan yn ei benderfyniad.
Ychwanegodd ei fod wedi derbyn cytundeb i chwarae dramor: "Er mwyn caniat谩u sicrwydd i fi a fy nheulu, dwi wedi penderfynu cymryd y cynnig.
"Hoffwn i ddiolch i'r Gweilch am barhau i gredu ynddof i, hyd yn oed pan nad oeddwn i'n cael fy newis i Gymru ac roeddwn yn amau fy ngallu.
"A Warren am roi'r siawns i fi wisgo'r crys coch enwog unwaith eto."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mai 2023
- Cyhoeddwyd1 Mai 2023
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2023