91热爆

Lluniau: Dydd Mawrth Eisteddfod yr Urdd 2023

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig

Roedd hi'n ddiwrnod braf arall ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri, gyda digon i ddiddanu'r ymwelwyr.

Ger stondin Cyngor Sir G芒r mae cyfle i chi ddysgu am ailgylchu a byw'n gynhaliol ac un sydd wedi gwneud hynny heddiw ydy Mathew o Fetws-y-coed. Mae wedi plannu hedyn coeden domato i fynd adref gyda fo.

Ai dyma stondin fwyaf poblogaidd y Maes? Mae Jane, Bethan, Nest, Glenda, Gillian ac Ann o Glwb Gwawr Llandeilo wedi bod wrthi fel lladd nadroedd drwy'r bore yn gweini t锚 a choffi i bobl Cymru!

Meddai Ann: "Ni wedi bod yn brysur iawn ers agor y llen am 8:30am - pob bwrdd yn llawn. Ond ni wedi llosgi tamed bach ar y welshcakes felly ni wedi'u gorchuddio nhw!"

Roedd Rheolwr t卯m p锚l-droed Cymru, Rob Page, wedi galw heibio i'r maes heddiw er mwyn cyhoeddi'r garfan ar gyfer gemau rhagbrofol Euro 2024 yn erbyn Armenia a Thwrci fis Mehefin, ac roedd Caio a Non yn ysu i gael llun efo un o'u harwyr.

A ph锚l-droed oedd yn thema draw yn ardal Cwiar Na Nog y maes heddiw hefyd, wrth i Anniben a Jawdropper gynnal sesiwn P锚l-droed Drag. Dywedodd Jawdropper fod drag p锚l-droed yn "gymysged o drag, ymarfer corff a them芒u p锚l-droed a jest cael hwyl."

Ychwanegodd Anniben fod sefydlu Cwiar Na Nog ar y Maes yn beth da: "Yn tyfu lan, doeddech chi ddim yn cael lot o gynrychiolaeth cwiar yn Steddfod yr Urdd a nawr mae 'na ardal gyfan iddo fe!"

Wrth stondin Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig roedd Mali a Ffion o Gaerffili yn cael trio'r wisg a'r het gyfarwydd. Maen nhw'n cystadlu gyda'r c么r heddiw meddai Mali, ond dydy hi ddim yn meddwl y caiff hi wisgo'r siaced felen ar y llwyfan!

Mae golwg dra gwahanol ar y seremon茂au eleni, sydd yn cael eu cynnal ar Lwyfan y Cyfrwy, gyda Heledd Cynwal yn arwain. Ar y llwyfan hefyd mae chwe awen, sef cymeriadau o chwedl Taliesin, sy'n cynrychioli'r prif seremon茂au: drama yw'r eog, cerddoriaeth yw'r sgwarnog, iaith yw'r milgi, barddoniaeth yw'r dyfrgi, rhyddiaith yw'r hebog a chelf yw'r i芒r.

Seremoni'r dydd oedd i gyhoeddi enillwyr y medalau dysgu Cymraeg.

Gwilym Morgan, o Gaerdydd, oedd enillydd Medal y Dysgwyr i bobl ifanc rhwng blwyddyn 10 a dan 19 oed, a Seb Landais, o Ddinbych-y-Pysgod, oedd enillydd Medal Bobi Jones, sydd yn cael ei dyfarnu i bobl ifanc 19-25 oed. Nod y ddwy fedal ydy gwobrwyo pobl sydd wedi ymrwymo i ddysgu Cymraeg ac yn ymfalch茂o yn eu Cymreictod.

Fel y llynedd, mae tair pafiliwn - Coch, Gwyn a Gwyrdd - ar y maes, lle mae'r holl gystadlu yn digwydd. Roedd ciw mawr wedi ffurfio ddechrau'r prynhawn, wrth i deuluoedd ac athrawon geisio sicrahu sedd er mwyn gweld cystadleuaeth y gr诺p llefaru blwyddyn 6 ac iau.

Ac roedd bechgyn Ysgol Dyffryn Cledlyn, Dre-fach Llanybydder yn disgwyl yn eiddgar gefn llwyfan i berfformio eu dehongliad nhw o'r darn gosod, Merched Beca.

Mae pawb yn ffrind i Mistar Urdd! Dyma Ffion Emyr, cyflwynydd maes 91热爆 Radio Cymru drwy'r wythnos, gyda'r dyn ei hun. Mae sgyrsiau Ffion gydag eisteddfotwyr i'w clywed ar raglen Sara Gibson, Bore Cothi ac Ifan Jones Evans bob dydd wythnos yma.

Dyma Tina, Wyn a Meryl sydd wedi bod yn gwirfoddoli yn y ganolfan groeso wrth ddesg sy'n rhoi cyngor i siaradwyr Cymraeg ail-iaith neu rieni di-Gymraeg sydd am gefnogi eu plant wrth gystadlu. Mae ganddyn nhw fapiau a llyfrynnau o ymadroddion defnyddiol am ddim.

O amgylch y maes, gallwch weld gwaith celf wedi ei wneud gan Orielodl gyda rhai o ysgolion lleol y dalgylch, fel rhan o Prosiect 23. Nod y prosiect oedd i addysgu pobl ifanc am hanes, traddodiadau a diwylliant eu hardal, a hynny drwy elfennau celf, yn ogystal 芒 drama a dawns, cerddoriaeth a chanu.

Mae coeden pabell Cwiar Na Nog yn gofyn "Beth ydych chi'n falch ohono?" Dyma Ella a Seren o Ynyswen yn gosod eu neges o falchder nhw ar y goeden. Dywedodd Ella, "Dw i'n falch o siarad Cymraeg" a dywedodd Seren ei bod hi'n falch o'i sgiliau gymnasteg.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig