91热爆

Cynnydd uchaf erioed mewn cost rhentu t欧 yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
tai yng NghaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae cost rhentu yng Nghymru wedi cynyddu'n gynt yn y flwyddyn ddiwethaf nag unrhyw adeg ers i ffigyrau ddechrau cael eu cofnodi.

Fe wnaeth ffigyrau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ddangos bod prisiau rhent ar gyfer t欧 wedi codi 4.8% yn y flwyddyn hyd at fis Ebrill 2023.

Ond doedd y cynnydd hwnnw yng Nghymru ddim mor uchel 芒'r Alban, ar 5.2%, gyda thri o ranbarthau Lloegr hefyd yn gweld cynnydd uwch.

Yn Llundain, gwelwyd y cynnydd uchaf mewn rhent ers gaeaf 2012.

Dywedodd cymdeithas ARLA, sy'n cynrychioli'r rheiny sy'n cynnig tai rhent, eu bod yn gweld cynnydd yn y galw ar gyfer llety, ond dim cynnydd yn nifer y tai sydd ar gael.

Mae hynny, medden nhw, yn golygu fod pwysau'n parhau i fod ar y farchnad, a bod "gwir angen rhag o dai i'r rheiny sydd eisiau rhentu".

Mae'r ffigyrau ar gyfer cost rhentu yng Nghymru yn dyddio yn 么l i 2010.

Pynciau cysylltiedig