Zara Radcliffe: Ymddiheuriad am ofal iechyd meddwl
- Cyhoeddwyd
Mae prif weithredwr bwrdd iechyd wedi ymddiheuro i fenyw wnaeth ladd dyn mewn siop tra'n dioddef argyfwng iechyd meddwl difrifol.
Bu farw John Rees, 88, wedi i Zara Radcliffe ei drywanu mewn siop ym Mhen-y-graig, Rhondda Cynon Taf yn 2020.
Mae adolygiad gan Fwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg nawr wedi dweud nad oedd cynllun digonol mewn lle gan y bwrdd iechyd ar gyfer triniaeth Radcliffe.
Dywedodd prif weithredwr y bwrdd iechyd ei fod yn cydymdeimlo gyda theulu Mr Rees, ac yn ymddiheuro hefyd i Radcliffe a'i theulu os nad oedd ei gofal wedi "cyrraedd y safonau uchel rydyn ni'n gosod i'n hunain".
Rhieni wedi codi pryderon
Cafodd saith o argymhellion eu gwneud i weld pa wersi oedd modd eu dysgu yn dilyn yr ymosodiad angheuol.
Un broblem gafodd ei chanfod oedd nad oedd Zara Radcliffe wedi bod yn mynd i'w hapwyntiadau, gan ei bod hi'n glaf yn yr ysbyty ar y pryd.
Fe wnaeth hyn olygu bod ei hachos hi'n cael ei ddirwyn i ben.
Edrychodd yr adolygiad hefyd ar sut y deliwyd gyda chwynion gan ei theulu, gyda'r bwrdd yn gofyn am eglurder ynghylch hynny.
Fe wnaeth rhieni Radcliffe gysylltu gyda gwasanaethau iechyd meddwl yn dilyn pryderon bod ei hiechyd meddwl wedi dirywio, ond doedd dim cynllun gofal a thriniaeth iddi.
Ym mis Mai 2020 fe wnaeth Zara Radcliffe ladd John Rees, 88, o Drealaw ar 么l ei drywanu mewn siop ar Ffordd Tylacelyn ym Mhen-y-graig.
Fe blediodd Radcliffe yn euog i ddynladdiad ar sail cyfrifoldeb lleiedig, yn ogystal 芒 cheisio llofruddio tri pherson arall - Lisa Way, 53, Gaynor Saurin, 65, ac Andrew Price, 58 - yn yr un digwyddiad.
Cafodd ei dedfrydu i orchymyn ysbyty mewn sefydliad iechyd meddwl diogel.
Gweithredu argymhellion
Clywodd yr achos llys bod Zara Radcliffe yn dioddef o "salwch meddwl difrifol" pan gyflawnodd yr ymosodiad ar 5 Mai a arweiniodd at farwolaeth Mr Rees.
Roedd ganddi hefyd sgitsoffrenia, ac roedd hi wedi bod yn clywed lleisiau ac wedi stopio cymryd ei meddyginiaeth oherwydd yr effeithiau arni.
Daeth Zara Radcliffe i gyswllt gyda gwasanaethau iechyd meddwl yn 2016, a chyn hynny roedd awdurdodau'n ymwybodol ei bod hi'n rhywun oedd yn wynebu risg o drais domestig.
Bu hefyd yn camddefnyddio alcohol a chyffuriau gan dreulio cyfnod dan glo, a dywedodd ei rhieni ei bod hi wedi cael ei bwlio yn yr ysgol.
Yn dilyn y ddedfryd, dywedodd tad Zara Radcliffe, Wayne Radcliffe wrth 91热爆 Cymru nad oedd y gwasanaethau iechyd meddwl wedi gwneud digon yn achos ei ferch.
Roedd hi wedi cael ei rhyddhau o uned iechyd meddwl Ysbyty Brenhinol Morgannwg ym mis Chwefror y flwyddyn honno, dri mis cyn yr ymosodiad.
Dywedodd Paul Mears, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ei fod yn "achos trasig" a'i fod yn cydymdeimlo gyda theulu Mr Rees a phawb arall gafodd eu heffeithio yn y digwyddiad.
"Hoffem hefyd ymddiheuro i Miss Radcliffe a'i theulu am unrhyw achosion ble nad oedd ei gofal yn cyrraedd y safonau uchel rydyn ni'n gosod i'n hunain," meddai.
Ychwanegodd fod y bwrdd iechyd yn adolygu'r gwersi allai gael eu dysgu, a "gwella darpariaeth a diogelwch gwasanaethau iechyd meddwl".
"Ymhlith yr argymhellion rydyn ni'n eu gweithredu mae datblygu system integredig o nodiadau cleifion, gwella trefniadau rhyddhau, a gweithio'n well gyda theuluoedd, gofalwyr, a'n partneriaid mewn gofal cymdeithasol," meddai.
Dywedodd Heddlu'r De eu bod nhw'n "llwyr gefnogol" i'r adolygiad, ac y byddan nhw'n parhau i weithio gyda chyrff eraill.
Ychwanegodd llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf eu bod hwythau'n cydymdeimlo gyda theulu Mr Rees, ac yn ymddiheuro i Zara Radcliffe a'i theulu am "welliannau yn ei gofal" ddylai fod wedi digwydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd21 Awst 2020
- Cyhoeddwyd6 Mai 2020