91热爆

Anrhydeddau'r Orsedd 2023: Y canolbarth a'r de

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
john roberts
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd John Roberts, un o gyflwynwyr Bwrw Golwg ac awdur dwy nofel, yn cael y wisg las

Mae Gorsedd Cymru wedi cyhoeddi rhestr o'r unigolion fydd yn cael eu hanrhydeddu yn 2023.

Mae 50 ar y rhestr eleni, sydd medd yr Orsedd "roi clod i unigolion o bob rhan o'r wlad am eu cyfraniad arbennig i Gymru, ein hiaith a'u cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru".

Dyma'r rhai o ganolbarth a de Cymru fydd yn cael eu hurddo yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhen Ll欧n fis Awst a'r hyn sy'n cael eu nodi gan y Brifwyl amdanynt:

GWISG WERDD

Heulwen Davies

Urddir Heulwen Davies, Dolanog am ei chyfraniad fel arweinydd Aelwyd Penllys am gyfnod o dri deg mlynedd, a hynny'n gwbl wirfoddol. Mewn ardal ar y ffin lle mae llawer yn byw eu bywydau dyddiol yn Saesneg, mae Heulwen wedi cynnig cyfleoedd i bobl ifanc ennyn hyder i berfformio yn y Gymraeg yn lleol a chenedlaethol. Bellach, mae Heulwen wedi rhoi'r gorau i arwain yr Aelwyd, ac fe'i croesewir i Orsedd Cymru i ddiolch am ysbrydoli cenedlaethau o ieuenctid a chymunedau canolbarth a dwyrain Maldwyn.

Richard Owen

Brodor o Fynydd Mechell, Ynys M么n yw Richard Owen, Penrhyn-coch, Aberystwyth. Rhoddodd oes o wasanaeth i'r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru drwy'i waith gyda Chyngor Llyfrau Cymru am dros dri deg mlynedd. Cyfrannodd yn helaeth i'r Eisteddfod fel Cadeirydd y Panel Ll锚n Canolog am wyth mlynedd, ac fel aelod cyn hynny, a bu hefyd yn aelod o Bwyllgor Ll锚n lleol Eisteddfod Ceredigion 2022. Bu'n weithgar yn ei gymuned leol dros y blynyddoedd, gyda Chymdeithas y Penrhyn, Cyngor Cymuned Trefeurig, papur bro Y Tincer a Phlaid Cymru.

Jeffrey Howard

Mae'r cerddor Jeffrey Howard, Caerdydd yn un o gyfeilyddion swyddogol yr 糯yl er ugain mlynedd a mwy. Yn organydd dawnus a chyfarwyddwr cerdd, yn ogystal 芒 hyfforddwr lleisiol profiadol, mae wedi gweithio gyda sefydliadau cerddorol blaenaf Cymru, gan gynnwys Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru. Derbyniodd Wobr Joseph Parry am ei gyfraniad i gerddoriaeth yng Nghymru yn 2018.

Marion Loeffler

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Dr Marion Loeffler yn ddarllenydd ym maes Hanes Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd

Magwyd Marion Loeffler, Caerdydd yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen. Ar 么l graddio, symudodd i Gymru, a bu'n gweithio yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd am flynyddoedd. Mae wedi cyhoeddi'n helaeth gan arbenigo ar hanes diwylliant, gwleidyddiaeth a chrefydd y Cymry yn y 18fed ganrif a'r 19eg. Bellach mae'n Ddarllenydd ym maes Hanes Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd. A hithau wedi ymchwilio i etifeddiaeth lenyddol a hanesyddol Iolo Morganwg, ynghyd 芒 chyfrannu'n helaeth at hyrwyddo'r Gymraeg a'i diwylliant, priodol iawn yw derbyn Marion yn aelod o'r Orsedd.

Carlo Rizzi

Yn wreiddiol o Milan, mae Carlo Rizzi, Penarth yn arweinydd adnabyddus, sydd wedi bod yn Arweinydd Cerddoriaeth Opera Cenedlaethol Cymru ac wedi gweithio gyda chwmn茂au ar draws y byd. Mae'n fwyaf enwog am ei waith athrylithgar yn dehongli ac arwain oper芒u Verdi. Mae ganddo egni deinamig, dealltwriaeth naturiol o gerddoriaeth a'r gallu i ymgysylltu 芒'r gerddorfa a'r gynulleidfa mewn ffordd hynod enigmatig ac emosiynol. Braint yw ei groesawu i'r Orsedd.

GWISG LAS

Pedr ap Llwyd

Yn wreiddiol o Benrhyndeudraeth, Pedr ap Llwyd, Aberystwyth yw Llyfrgellydd Cenedlaethol Cymru. Mae'n gymwynaswr adnabyddus, ac fel rhan o'i weledigaeth i hyrwyddo hygyrchedd, llwyddodd yn ystod y cyfnod clo i ysgogi gweithlu'r Llyfrgell i gyflymu prosesau trawsnewid digidol er mwyn sicrhau bod ein treftadaeth ddogfennol yn fwy hygyrch i bawb. Mae'n gwasanaethu ar nifer o fyrddau a phwyllgorau dylanwadol yng Nghymru, ac yn Ynad Llywyddol er bron i ugain mlynedd.

Anwen Butten

Ffynhonnell y llun, @TeamWales/Twitter
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Anwen Butten wedi cynrychioli Cymru ym mhob un o'r Gemau Gymanwlad ers 2002

Bowls sy'n mynd 芒 bryd Anwen Butten, Llanbedr Pont Steffan, ac mae'r Orsedd yn falch o'r cyfle i'w hanrhydeddu am ei chyfraniad arbennig i'r gamp honno dros gyfnod o 30 mlynedd. Hi oedd Capten T卯m Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2022. Mae Anwen hefyd yn nyrs arbenigol cancr y pen a'r gwddf yn Ysbyty Glangwili, gan weithio ar draws ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

Dyfrig Davies

Urddir Dyfrig Davies, Llandeilo am roi blynyddoedd o gefnogaeth, yn wirfoddol a phroffesiynol, er mwyn sicrhau bod diwylliant Cymru a'r Gymraeg yn ffynnu. Mae'n Gadeirydd yr Urdd, ac arweiniodd y mudiad yn gadarn a theg drwy bandemig COVID-19 a dathliadau'r canmlwyddiant yn 2022. Yn Gadeirydd TAC, mae'n rhan allweddol o'r diwydiant creadigol yng Nghymru, gan gefnogi cwmn茂au cynhyrchu bach a mawr i sicrhau fod y berthynas ag S4C yn ffynnu. Mae Dyfrig bob amser yn anelu'n uchel, yn cefnogi'n daer ac yn dangos angerdd mawr dros Gymru a'r Gymraeg.

Geraint Lloyd

Ffynhonnell y llun, 惭么苍贵惭
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Geraint Lloyd yn un o gyflwynwyr Radio Cymru am 25 mlynedd

Roedd Geraint Lloyd, Lledrod yn un o leisiau mwyaf adnabyddus Radio Cymru am flynyddoedd lawer. Dechreuodd ei yrfa gyda Radio Ceredigion, ac eleni ymunodd 芒 gorsaf radio M么n FM. Pan oedd yn ifanc, ralio a rasio oedd yn mynd 芒'i fryd; bu'n cynrychioli Cymru mewn rasys 4x4, ac mae'n aelod brwd o Glwb Glasrasio Teifi. Mae'n un o gefnogwyr mwyaf selog y Ffermwyr Ifanc, ac yn 2017 fe'i hetholwyd yn Llywydd Cenedlaethol y mudiad, anrhydedd a dderbyniodd gyda balchder. Mae hefyd yn cefnogi Theatr Felin-fach, ac wedi perfformio droeon yn eu pantomeimiau enwog.

John Mahoney

Ymhell cyn dyddiau'r Wal Goch a Chwpan y Byd 2022, ni fu'r un Cymro a chwaraeodd dros ein gwlad yn fwy balch o'i dras na John Mahoney, Caerfyrddin. Wedi i'w yrfa fel chwaraewr ddod i ben yn 1983, aeth ati i ddysgu Cymraeg, gan fynychu sesiynau lefel uwch 'Siawns am Sgwrs' yng ngorllewin Cymru. Nid ef yw'r unig aelod o'r teulu i gynrychioli Cymru, gan fod un o'i ferched hefyd wedi cynrychioli ei gwlad wrth chwarae p锚l-droed. Mae John yn 诺r diymhongar sy'n caru Cymru, ein hiaith a'n diwylliant, a'n braint yw ei urddo i Orsedd Cymru eleni.

Laura McAllister

Ffynhonnell y llun, CBDC/John Smith
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Eleni fe etholwyd yr Athro Laura McAllister i Bwyllgor Gweithredol UEFA

Mae Laura McAllister, Caerdydd yn Athro Llywodraethiant a Pholisi Cyhoeddus ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae'n Gyd-gadeirydd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Yn gyn-b锚ldroedwraig ryngwladol, mae'n lladmerydd diflino dros gydraddoldeb ym maes chwaraeon, ac wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy wrth amlygu g锚m y merched a'r menywod, hawliau LHDTC+, a chwaraeon paralympaidd. Eleni, fe'i hetholwyd i Bwyllgor Gweithredol UEFA: mae hi bellach yn Is-lywydd y corff hwnnw, y cynrychiolydd cyntaf o Gymru a'r b锚ldroedwraig gyntaf i gyflawni'r gamp. Mae'n sylwebydd cyson ar y cyfryngau yn y Gymraeg a'r Saesneg ym meysydd gwleidyddiaeth a chwaraeon.

John Roberts

Mae John Roberts, Aberystwyth wedi bod yn llais cyfarwydd ar Radio Cymru am flynyddoedd lawer yn cyflwyno rhaglen Bwrw Golwg ar foreau Sul, rhaglen sy'n rhoi lle i faterion crefyddol a moesol. Oherwydd natur a safbwyntiau John, mae'n rhaglen agored, ryddfrydol ei naws, a dwfn-dreiddgar ei chynnwys. Mae cyfraniad John i fyd darlledu ac i fyd trafod drwy gyfrwng y Gymraeg wedi bod, ac yn dal i fod, yn sylweddol a phwysig. Mae hefyd yn llenor, a chyhoeddodd ddwy nofel o safon. Nid llenor 'toreithiog' mohono, ond un gofalus sy'n araf-saern茂o ei waith.

Mae rhestr y rhai o'r gogledd a fydd yn cael eu hurddo i'w gweld yma.

Pynciau cysylltiedig