Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Galwadau i adfer hen neuadd tref Cydweli sydd ar werth
- Awdur, Sara Dafydd
- Swydd, Newyddion 91热爆 Cymru
Mae yna alwadau i adfer hen neuadd y dref yng Nghydweli.
Mae'r adeilad sy'n dyddio'n 么l i Oes Fictoria bellach bron yn adfail.
Ar ben y pryder ynghylch ei werth hanesyddol, mae'r difrod strwythurol yn golygu fod yna system unffordd yn y dref, sy'n effeithio ar fusnesau lleol yn 么l perchnogion.
Dywedodd Cyngor Sir G芒r y bydd y stryd yn ailagor i draffig dwy ffordd ar ddiwedd "gwaith strwythurol hanfodol" i sicrhau diogelwch y adeilad.
Yn 么l Carol Morgan, sy'n synghorydd tref ac yn rhedeg siop yn y pentref, mae'r system unffordd wedi effeithio'n fawr ar ei busnes.
"S'dim o'r footfall 'ma nawr. Ma' pobl yn tueddu i gadw o 'ma os ma'n nhw'n meddwl bod y ffordd ar gau.
"Mae'n galed yn barod. A chael hwn ar ei ben e, s'mo fe'n helpu ni o gwbl. Mae'n amser anodd a thrist, i ddweud y gwir wrthoch chi."
'Neb yn gwrando'
Mae yna ymdrechion gan gynghorwyr a gr诺p o bobl leol i geisio adfer yr adeilad.
Ond yn 么l Carol Morgan, nid yw ymateb Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi bod yn ddigonol.
"S'neb yn gwrando arnon ni. Ni gyd yn trial ein gorau i safio'r thing ond mae'r cyngor yn gweud 'we'll have a look at it' a dyna fe."
Pryder pobl leol yw y bydd hanes lleol yn cael ei golli pe bai'r adeilad yn cael ei werthu neu ei ddymchwel.
Mae'r adeilad yn dyddio'n 么l i 1877 ac fe gaeodd ei drysau am y tro olaf yn 2022.
Dros y blynyddoedd roedd yn lys ynadon, marchnad, neuadd ddawns, llyfrgell ac yn swyddfa i'r Warden Cyrch Awyr yn yr Ail Ryfel Byd.
Yn 么l Keith Evans, hanesydd lleol o Bontyberem, byddai colli'r adeilad yn golled enfawr i'r ardal.
"Mae'r bensaern茂aeth ei hun yn hynod o bwysig, mae'n dangos y steil Gothig canoloesol oedd yn boblogaidd ar y pryd. Fyddwn ni byth yn gallu ailadeiladu hwnna," meddai.
"Oedd hi'n fan poblogaidd iawn ymysg milwyr oedd yn hyfforddi ym Mhenbre. Roedd y milwyr Americanaidd yn boblogaidd iawn yn y nosweithiau dawns yn y neuadd.
"Byddai cael gwared ar yr holl hanes yn annychmygol."
Mae Keith Evans yn dymuno gweld yr adeilad yn troi mewn i amgueddfa leol.
"Byddai'n atynnu pobl i'r ardal i ddysgu am ddiwylliant yr ardal, ac yn dod 芒 mwy o arian i'r dref."
Mae'r adeilad, sydd dan berchnogaeth Cyngor Sir Gaerfyrddin, ar werth ers 2019, ond heb lawer o ddiddordeb hyd yn hyn.
Byddai cost adfer yr adeilad yn fawr o ganlyniad i'r difrod strwythurol.
Mae rhai pobl leol yn cwestiynu a fyddai digon o arian gan Gyngor Sir Gaerfyrddin i adfywio'r neuadd, mewn cyfnod heriol yn ariannol i awdurdodau ar draws Cymru.
'Rhaid bod yn ymarferol'
Mae Anna Brown yn byw yng Nghydweli ac mae hi'n gweld ochr arall y geiniog.
"Dwi'n flin ond dwi'n amau fod digon o reswm i 'ala'r holl arian yn y peth."
Yn 么l Ms Brown, mae yna ddigon o gyfleusterau yn barod i gofnodi hanes Cydweli.
"Wrth gwrs fydd hi'n golled yn hanesyddol ond 'dyn ni heb ddefnyddio'r lle ers 2001 ac mae'n rhaid bod yn ymarferol.
"Mae gyda ni sawl peth o gwmpas. Mae 'da ni gastell, eglwys, mae 'da ni gei. Mae'n dref hyfryd."
'Wedi ei anghofio'
Yn 么l Cynghorydd Sir Cydweli a Llanismel, Lewis Eldred Davies ni ddylai'r cyngor sir fod wedi gadael i'r adeilad gyrraedd ei stad bresennol.
"Mae wedi cael ei anghofio gan y cyngor a si诺r o fod nid dyma'r unig adeilad fel hyn dros y sir," dywedodd.
Oherwydd y system unffordd mae gwasanaeth bws yr ardal wedi ei gyfyngu a dywedodd y Cynghorydd Davies fod hyn yn niweidiol i drigolion yr ardal.
"Dyw'r gwasanaeth bws ddim yn dod trwy'r dref o Gaerfyrddin ac mae pobl o'r dref sy'n hen neu'n anabl yn cael eu heffeithio."
Gareth John yw'r aelod o Gyngor Sir Caerfyrddin sy'n arwain ar faterion adfywio, hamdden, diwylliant a thwristiaeth.
Dywedodd mewn datganiad: "Dechreuodd gwaith strwythurol hanfodol i dynnu to a rhannau o waliau Neuadd y Dref Cydweli ddydd Llun, 17 Ebrill. Mae hyn er mwyn sicrhau diogelwch y adeilad.
"Bydd Stryd Sarn yn parhau i fod ar agor i draffig unffordd tra bod y gwaith yn mynd rhagddo.
"Fodd bynnag bydd angen cau'r ffordd yn llawn dros dro er mwyn cael gwared ar y cyplau to. Mae hyn wedi'i gynllunio ar hyn o bryd ar gyfer dydd Sul 30 Ebrill.
"Bydd Stryd Sarn yn cael ei hailagor i draffig dwy ffordd unwaith y bydd y prosiect wedi'i gwblhau."