Cost adeiladu Metro De Cymru wedi codi i 拢1 biliwn
- Cyhoeddwyd
Mae'r gost o adeiladu rhwydwaith rheilffyrdd Metro De Cymru wedi codi i 拢1 biliwn.
Mae Trafnidiaeth Cymru (TC) yn dweud mai chwyddiant ac oedi oherwydd y pandemig sydd wedi gwthio'r pris ymhell uwchben yr amcangyfrif gwreiddiol o 拢734m.
Y disgwyl yw y bydd y Metro - sydd i fod i wella'r rhwydwaith rheilffyrdd y de-ddwyrain - yn cael ei gwblhau yn 2025.
Dywedodd prif weithredwr TC, James Price, ei fod yn gwneud "popeth sy'n bosib" i reoli costau.
'Tri chwarter ffordd drwy'r rhaglen'
Mae'r trenau FLIRT Dosbarth 231 cyntaf, a gafodd eu hadeiladu yn Y Swistir, wedi'u cyflwyno'n gynt na'r disgwyl ar y lein rhwng Cwm Rhymni a Chaerdydd.
Bydd model newydd arall, y tr锚n tram Dosbarth 398 sydd wedi cyrraedd yn ddiweddar er mwyn cael ei brofi, yn ymuno 芒 nhw ar y rhwydwaith.
Dywedodd Mr Price wrth 91热爆 Cymru eu bod "tri chwarter ffordd drwy'r rhaglen nawr".
"Felly mae cyfleoedd i bethau fynd yn sylweddol o chwith yn lleihau'n raddol," ychwanegodd.
"Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i reoli'r costau."
'Eisiau i bobl fynd 'n么l ar y trenau'
Mae'r Metro'n cael ei ariannu'n bennaf gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, Lee Waters, fod adeiladu rheilffordd yn "fusnes cymhleth", ond ei fod yn gobeithio gweld y trenau newydd yn annog pobl i wneud llai o ddefnydd o'u ceir.
"Gobeithio y bydd pobl yn dechrau cael ffydd bod pethau'n gwella," meddai.
"Rydym yn gwario biliwn o bunnoedd ar y Metro, 拢800m ar drenau newydd ledled Cymru. Nawr rydyn ni eisiau i bobl fynd n么l ar y trenau."
Dywedodd hefyd fod nifer y teithwyr wedi lleihau'n sylweddol ers y pandemig.
"Nawr mae'r trenau'n gwella, rhowch gynnig arnyn nhw," ychwanegodd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2021