Ymgyrch y tri yn ras arweinydd yr SNP ar fin dod i ben
- Cyhoeddwyd
Mae'r ras i olynu Nicola Sturgeon fel arweinydd yr SNP ar fin dod i ben a bellach dim ond oriau o ymgyrchu sydd ar 么l i'r tri ymgeisydd.
Ond mae'r chwech wythnos o ddadleuon ffyrnig wedi dod 芒 rhwygiadau mewnol y blaid i olau dydd mewn ffordd na welwyd ers dros 15 mlynedd.
O gyfrinachedd am nifer aelodau'r blaid, i feirniadaeth gyhoeddus o record y blaid gan ymgeiswyr - mae brand yr SNP fel plaid ddisgybledig wedi cael ergyd.
Y cwestiwn i'r 72,000 o aelodau yw ai Humza Yousaf, Kate Forbes neu Ash Regan yw'r person i ddatrys picil y blaid.
Y tri yn y ras
Humza Yousaf, y gweinidog iechyd 37 oed, yw'r ffefryn, o drwch blewyn, i fynd 芒 hi.
Mae e'n cael ei ystyried fel yr ymgesiydd i barhau 芒 gweledigaeth Nicola Sturgeon ac wedi dweud yn barod y bydd yn bwrw ymlaen 芒'r trefniant cyd-lywodraethu 芒'r Gwyrddion yn Holyrood.
Ond mae ei record weinidogol e wedi bod yn destun beirniadaeth lem gan gyd-ymgeiswyr a gwrthwynebwyr dros y mis a hanner diwethaf.
Kate Forbes, y gweinidog cyllid 32 oed, ac un sy'n siarad Gaeleg yn rhugl hefyd, yw'r her i Mr Yousaf.
Mae wedi cael ei chanmol gan lawer am ei gwaith yn y Llywodraeth, ar 么l cydio yn awennau'r Adran Gyllid yng nghanol sgandal bersonol i'w rhagflaenydd n么l yn 2020. Ond dechrau digon simsan gafodd ei hymgyrch ar 么l i nifer o gefnogwyr droi eu cefn arni am ei gwrthwynebiad i briodasau hoyw, hawliau trawsryweddol a'r hawl i erthyliad.
Does neb yn disgwyl gweld Ash Regan yn gwneud tolc yn y pleidleisiau. Er iddi roi annibyniaeth yn ganolog i'w hymgyrch, mae cwestiynau mawr ynglyn 芒'i strategaeth.
Yr hyn fydd yn ddiddorol o'i safbwynt hi yw'r drefn bleidleisio - pleidlais sengl drosglwyddadwy - sy'n golygu os y caiff hi ei bwrw o'r ras yn y rownd gynta o gyfri, bydd ail ddewis gan ei chefnogwyr hi - ac fe allai'r bleidlais honno fod yn dyngedfennol yn y ras.
I Gwion Rhisiart, sy'n fyfyriwr blwyddyn gyntaf yn Glasgow ac yn aelod o'r SNP ers Medi diwethaf, Humza Yousaf yw'r unig opsiwn i'r blaid.
"Humza Yousaf yw'r unig un sy'n gallu cadw'r brand blaengar sydd gyda ni fel plaid a sydd gyda ni fel mudiad, a dyna beth sydd wedi arwain at ein twf enfawr ni dros y blynyddoedd diwethaf. Os ni'n colli hwnna ni'n colli'r mudiad a does dim annibyniaeth wedyn."
Ond i'r cyn-weinidog ar Eglwys Unedig Ynys Biwt, John Owain Jones, mae ei ddadrithiad diweddar 芒'r SNP yn cael ei adlewyrchu gan yr ymgeiswyr yn y ras hon.
"Mae 'na broblemau efo pob un o'r ymgeiswyr. Mae Humza Yousaf yn cael ei weld fel y 'continuity candidate' ond mae pobl yn teimlo efallai bod angen newid cyfeiriad.
"Mae Kate Forbes yn cael ei chysylltu hefo daliadau gwleidyddol a moesol sy'n cael eu gweld yn adweithiol - dwi'n teimlo hynny. Ac wrth gwrs mae Ash Regan yn gysylltiedig hefo plaid Alba a hefo Alex Salmond, a mae Alex Salmond yn cael ei ystyried yn 'damaged goods'."
Mae disgwyl y bydd arweinydd nesaf yr SNP hefyd yn cael ei ethol yn Brif Weinidog nesaf yr Alban gan aelodau Holyrood ddydd Mawrth - a dylestwydd felly i gynrychioli'r Alban gyfan, beth bynnag eu barn ar yr SNP neu annibyniaeth.
Un o'r rhai hynny yw Ceri Green sy'n byw yn Helensburgh ar gyrion Glasgow. I Lafur fydd e'n pleidleisio, ond fe fyddai'n well ganddo weld Kate Forbes yn Brif Weinidog nesaf yr Alban.
"Kate Forbes 'sen i'n dewis. Mae hi i weld yn alluog ac yn ifanc ac yn llawn egni. Ond ta pwy fydd yn arwain, fydd yr SNP wedi cael eu gwanhau tipyn.
"Fi'n credu fyddan nhw'n colli nifer o seddi yn yr etholiad nesaf. Nhw fydd y blaid fwyaf mae'n si诺r ond fe fyddan nhw yn colli seddi achos mae pobl yn eu gweld nhw fel plaid mewn trafferth ar hyn o bryd."
Effaith ar Gymru?
Tu hwnt i Holyrood, fe allai'r dewis o arweinydd i'r SNP gael effaith ar berthynas llywodraethau'r gwledydd datganoledig hefyd, yn arbennig Cymru a'r Alban.
Mae Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford a Nicola Sturgeon wedi cydweithio'n agos ar faterion fel Brexit, Covid ac yn fwy diweddar yr argyfwng costau byw.
Mae Mark Drakeford hefyd wedi gwneud sylwadau yn datgan cefnogaeth mewn egwyddor i hawl Llywodraeth yr Alban i gynnal refferendwm annibyniaeth arall - sy'n mynd yn groes i'r neges gan Lafur Prydain.
Yn yr un modd, mae Mesur Cydnabod Rhywedd dadleuol yr Alban, sydd wedi ei atal gan San Steffan, wedi cael croeso tipyn cynhesach gan Mark Drakeford.
Felly mae 'na weledigaeth gyffredin a pharch wedi bod yno ar rai materion sylweddol - yn gyfansoddiadol ac yn gymdeithasol - sydd wedi gweithio'r ddwy ffordd wrth geisio rhoi pwysau ar San Steffan.
Mae'n nodedig hefyd gweld adroddiadau yn y wasg yn yr Alban bod Mark Drakeford ar y rhestr cyfyngedig o bobl a gafodd rybudd o flaen llaw bod Nicola Sturgeon am gamu lawr ganol Chwefror - nid felly Prif Weinidog Prydain, Rishi Sunak.
Tra fydd datganoli yn parhau yn ddiddordeb cyffredin pwy bynnag yw'r arweinydd newydd, fe aeth Nicola Sturgeon 芒'r SNP i'r chwith yn wleidyddol - lle tipyn mwy cyfforddus i Mark Drakeford, fel arweinydd Llafur, ddod i drafod ag arweinydd cenedlaetholgar - fel sydd wedi ei weld yn y cytundeb cydweithio 芒 Phlaid Cymru yn y Senedd.
Fe allai hynny ddod o dan straen os yw Kate Forbes neu Ash Regan yn cydio yn yr awennau - a does dim sicrwydd y byddai'r berthynas o barch personol amlwg rhwng Mark Drakeford a Nicola Sturgeon yno gyda Humzas Yousaf chwaith.
I ychwanegu at y cwestiynau hynny, wrth gwrs, mae datganiad Mark Drakeford y bydd e'n sefyll lawr cyn yr etholiad seneddol nesaf - ac ar ben hynny eto, os yw Llafur yn ennill yr Etholiad Cyffredinol Prydeinig nesaf, go brin y byddai'r weinyddiaeth honno yn Rhif 10 yn falch o weld perthynas agos rhwng Llafur Cymru a'r SNP.
Ond dyfodol yr SNP yw'r cwestiwn mwyaf oll ar hyn o bryd.
Wedi mis a hanner sydd wedi gweld eu harweinydd a'u Prif Weithredwr yn camu lawr a rhwygiadau mewnol y blaid yn troi'n glwyfau cyhoeddus, bydd her a hanner ar ddwylo olynydd Nicola Sturgeon i dynnu'r blaid yn 么l at ei gilydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2022