91热爆

Tlws John a Ceridwen Hughes i Sioned Page-Jones

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Sioned Page-Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Sioned Page-Jones "wedi cefnogi a chynnig cyfleoedd amhrisiadwy i blant a phobl ifanc Sir Gar ers dros chwarter canrif"

Sioned Page-Jones o bentref Blaen-y-coed, Sir G芒r yw enillydd Tlws John a Ceridwen Hughes Uwchaled eleni.

Fe wnaed y cyhoeddiad gan y gyflwynwraig Heledd Cynwal o flaen neuadd lawn yn Ysgol Bro Myrddin nos Lun.

Wedi ei henwebu gan aelodau Aelwyd Hafodwenog ar ran holl bobl ifanc y sir, cyflwynir y tlws yn flynyddol am gyfraniad sylweddol i fywyd ieuenctid Cymru.

Gyda'i hangerdd am faes y ddawns werin a dawns y glocsen yn cael ei ddisgrifio fel "heintus", mae Sioned wedi hyfforddi degau o grwpiau ac unigolion dawnsio a chlocsio yn enw Aelwyd Hafodwenog, Dawnswyr Talog a Chlocswyr Cowin.

Wedi dechrau ei thaith gydag Aelwyd Hafodwenog yn 19 mlwydd oed, cafodd flas ar hyfforddi yn 1997 wrth baratoi'r Parti Deusain dan 15 ar gyfer Eisteddfod yr Urdd.

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Sioned Page-Jones a'i theulu yn dilyn y cyhoeddiad nos Lun

Daeth llwyddiant mawr i'r aelwyd y flwyddyn honno - cafodd y parti drydydd yn y gystadleuaeth a daliodd Sioned y 'bug cystadlu', profiad sydd wedi cefnogi sawl cenhedlaeth ar hyd y sir ers hynny.

Daeth Sioned yn arweinydd Clwb Ffermwyr Ifanc Penybont pan ail-sefydlwyd y Clwb 2004 gan sefydlu C么r Cymysg am y tro gyntaf yn ei hanes.

18 mlynedd yn ddiweddarach mae dal wrth y llyw ac wedi hyfforddi ac arwain y C么r Cymysg i lwyddiannau mawr ar lwyfannau Eisteddfod CFfI Cymru.

'Cynnig cyfleoedd amhrisiadwy'

Dywedodd Si芒n Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd: "Ar ran yr Urdd hoffwn longyfarch Sioned Page-Jones ar ennill Tlws John a Ceridwen Hughes Uwchaled 2023.

"Mae Sioned wedi cefnogi a chynnig cyfleoedd amhrisiadwy i blant a phobl ifanc Sir Gar ers dros chwarter canrif, a bydd hi'n fraint a phleser ei hanrhydeddu yn yr Eisteddfod eleni yn Sir Gaerfyrddin.

"Mae'r Urdd yn ddibynnol ar bobl weithgar, cydwybodol fel hyn i'w gynnal a'i hyrwyddo a dangos pa mor werthfawr, a gymaint o hwyl, ydi bod yn aelod o'r mudiad."

Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Eisteddfod yr Urdd

Caniat谩u cynnwys Twitter?

Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Eisteddfod yr Urdd

Caiff Tlws John a Ceridwen Hughes Uwchaled ei roi gan Dewi a Gerallt Hughes, er cof am eu rhieni John a Ceridwen Hughes oedd yn weithgar ym maes ieuenctid.

Bydd seremoni arbennig i gyflwyno'r tlws ar Lwyfan y Cyfrwy ddydd Iau, 1 Mehefin ar faes Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin.