Talu 'beth allwch chi' i weld drama costau byw
- Cyhoeddwyd
Fe all pobl ddewis talu beth maen nhw eisiau i weld cynhyrchiad newydd gan National Theatre Wales.
Bydd rhestr o brisiau mynediad gwahanol ar gyfer The Cost of Living yn Theatre y Grand Abertawe, gyda'r nod o ddenu pobl o gefndiroedd gwahanol.
Mae prisiau'r cynhyrchiad tair rhan yn amrywio o 拢8 i 拢22, ac fe all pobl ddewis ble maen nhw'n eistedd.
Bydd y cynhyrchiad yn cael ei berfformio rhwng 17 a 25 Mawrth.
Yn 么l National Theatre Wales, mae bron i 43% o bobl o grwpiau economaidd cymdeithasol mwy breintiedig yn debygol o fynd i'r theatr unwaith y flwyddyn.
Ond 29.4% yw'r ffigwr cyfatebol ymhlith pobl llai breintiedig.
Mae'r cwmni wedi cyflwyno cynllun mynediad tebyg yn y gorffennol, ac yn bwriadu parhau i'w ystyried ar gyfer cynyrchiadau yn y dyfodol.
Yn sgil yr argyfwng costau byw mae The Cost of Living yn ceisio adlewyrchu hynny a'i effaith ar bobl.
Mae'r rhan gyntaf yn gyfle i'r gynulleidfa rannu eu profiadau o'r argyfwng costau byw gyda rhai o arweinwyr cymdeithas.
Sioe yw'r ail ran, Joseph K and the Cost of Living, gyda'r rhan olaf yn gig cerddorol gan HMS Morris ymysg artistiaid eraill gyda chanu protest.
'Rhyw fath o ddrych i gymdeithas'
Dywedodd Lorne Campbell, Cyfarwyddwr Artistig National Theatre Wales: "Mae gwneud theatr yn hygyrch yn rhan annatod o'n gwaith.
"Dyma pam bod ganddo ni gynllun 'talu beth allwch chi dalu' am docynnau i weld The Cost of Living. Gall pobl ddewis talu 拢8, 拢16 neu 拢22 am docyn - heb unrhyw wahaniaeth mewn seddi neu fynediad i'r sioe.
"Mae pob tocyn yn cynnwys mynediad i'r tair rhan - ond gwnewch yn si诺r eich bod chi'n cadw eich lle i ran un os hoffech chi ymuno ar gyfer hwnna."
Yn 么l Ioan Hefin, un o'r perfformwyr ac aelod o'r cast, mae'r theatr yn rhoi "rhyw fath o ddrych i gymdeithas".
"Mae'r theatr yn dioddef ac wedi colli cynulleidfaoedd," meddai.
"Mae hwnna'n drychinebus ac mae hefyd yn gyfle i chwilio am rywbeth newydd - beth yw'r llais, beth yw'r gofynion, beth yw'r dyfodol.
"O ran hynny rwy'n gobeithio y bydd y gynulleidfa yn cael rhywbeth sy'n plesio."
Dywedodd Glesni Price Jones: "Ni'n trio edrych ar yr argyfwng costau byw a dangos fod pawb yn byw yn y sefyllfa yma, a sut mae'n gwneud i bobl deimlo, sut mae'n effeithio ar fywydau pobl.
"Wedyn erbyn diwedd y noson pan chi'n canu'r g芒n brotest, mae'n ffordd i bobl ddod at ei gilydd a siarad am y peth, a theimlo nad ydyn nhw ar ben eu hunain."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2020