Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyngor Sir G芒r i godi treth ail gartrefi am y tro cyntaf
Am y tro cyntaf bydd perchnogion tai gwag ac ail gartrefi yn Sir Gaerfyrddin yn gorfod talu premiwm treth cyngor ar eu heiddo.
Mewn cyfarfod ddydd Mercher fe wnaeth cynghorwyr bleidleisio i gyflwyno premiwm o 50% ar ail gartrefi.
Bydd y mesurau newydd yn dod i rym o Ebrill 2024, gyda'r bwriad o'i gynyddu i 100% o Ebrill 2025 ymlaen.
Tan nawr roedd yr awdurdod - sy'n cael ei redeg gan glymblaid Plaid Cymru ac annibynnol - wedi dal yn 么l rhag gosod premiwm treth gyngor.
Roedd hyn er gwaethaf pryderon am effaith ail gartrefi ar argaeledd a fforddiadwyedd eiddo mewn rhannau o'r sir.
Bydd y mesurau newydd hefyd yn effeithio ar berchnogion tai gwag, gyda 50% o bremiwm ar gyfer eiddo sy'n wag dros 12 mis ond llai na dwy flynedd, 100% ar eiddo sy'n wag am gyfnod rhwng dwy a phum mlynedd, a 200% ar eiddo sydd wedi bod yn wag am dros bum mlynedd.
'Gwagio pentrefi arfordirol a gwledig'
Mae cynghorau yng Nghymru 芒'r hawl i godi premiwm ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor ers tro, a bellach gellir cyflwyno premiwm o hyd at 300%.
Ers hynny mae nifer o gynghorau wedi cyflwyno premiwm o'r fath, neu gyhoeddi cynlluniau i wneud, gan gynnwys Ynys M么n, Gwynedd, Conwy, Powys, Sir Benfro ac Abertawe.
Er nad oes rhaid iddyn nhw glustnodi'r incwm o hynny at bwrpas penodol, mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn annog cynghorau i'w ddefnyddio i helpu taclo anghenion tai lleol, ac i wella faint o dai fforddiadwy sydd ar gael.
Roedd adroddiad i'r cabinet wedi adrodd fod gan y sir tua 1,060 o ail gartrefi, ond mai dim ond 860 ohonyn nhw, am wahanol resymau, oedd yn debygol o fod yn gymwys ar gyfer y premiwm treth cyngor.
Yn 么l yr adroddiad byddai'r incwm ychwanegol yn cael ei ddefnyddio i helpu i gwrdd ag anghenion tai yn lleol, neu ar gyfer gwasanaethau eraill y cyngor yn gyffredinol.
Dywedodd y Cynghorydd Alun Lenny, deilydd y portffolio Adnoddau: "Fi'n credu fod e'n gynnig rhesymol a gofalus ac mae blwyddyn gyda ni i ymgynghori a thrafod ymhellach.
"Rwy'n gobeithio fod hynny o gysur i unrhyw aelod sy'n bryderus ein bod yn rhuthro mewn i'r broses yma mewn unrhyw ffordd.
"Ond mae'n rhaid i ni fynd i'r afael 芒'r broblem o dai gwag ac ail gartrefi... byddai'r ddeddf yn caniat谩u i ni godi premiwm o 300%, ond rydym yn mynd ati yn rhesymol a gofalus ac yn dechrau ar y gwaelod fel petai."
Ychwanegodd: "Mae'r mater o ail gartrefi yn ymwneud 芒 chyfiawnder cymdeithasol ac economaidd, sydd wedi'i gydnabod gan Lywodraeth Cymru.
"Nid yw'n groesgad ideolegol mewn unrhyw ffordd, oni bai eich bod yn credu y dylid caniat谩u i rymoedd y farchnad yn unig ddinistrio llawer o gymunedau Sir Gaerfyrddin.
"Gan ddefnyddio'r offer a roddwyd i ni, mae hwn yn ymyriad cymedrol iawn i geisio amddiffyn ein cymunedau a mynd i'r afael 芒 gwagio pentrefi mewn ardaloedd arfordirol a gwledig."
'Rheoleiddio'r farchnad dai'
Ond yn 么l rhai ymgyrchwyr iaith dyw'r mesurau ddim yn mynd yn ddigon pell.
Dywedodd Ffred Ffransis ar ran rhanbarth Sir G芒r Cymdeithas yr Iaith: "Rydyn ni'n siomedig nad yw'r cyngor wedi defnyddio'r grymoedd i fynd i'r afael 芒 gormodedd llety gwyliau yn llawn, ond mae problemau tai y sir yn ddyfnach na thai gwyliau ac ail dai yn unig.
"Mae tai yn cael eu trin ar y farchnad agored fel asedau masnachol yn hytrach na chartrefi, gan roi pobl ar gyflog lleol dan anfantais.
"Rydyn ni'n gobeithio felly y bydd Cyngor Sir G芒r yn ymuno 芒'r alwad am ddeddf eiddo i reoleiddio'r farchnad dai a blaenoriaethu pobl leol."