Sir G芒r yn cefnogi cynnig i newid polisi ail gartrefi
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorwyr Sir G芒r wedi galw am gyflwyno rheolau llymach i reoli cartrefi gwyliau ac ail gartrefi.
Cafodd rhybudd gynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno nifer o newidiadau polisi ei gefnogi mewn cyfarfod o'r cyngor llawn ddydd Mercher.
Does gan y cyngor sir ddim p诺er i gyflwyno'r newidiadau, ond maen nhw'n galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn ymwybodol o bryderon am ail gartrefi, a bod "ystod o fesurau" ar gael i gynghorau weithredu.
Premiwm treth 200%
Yn 么l y cyngor, mae 1,188 o dai yn Sir Gaerfyrddin wedi cael eu dynodi fel ail gartrefi.
Pe bai'r newidiadau hyn yn cael eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru, bydd Cyngor Sir G芒r yna'n ystyried codi'r Premiwm Treth Cyngor ar ail gartrefi gan o leiaf 200%.
Yn ystod y drafodaeth, dywedodd y Cynghorydd Cefin Campbell fod problemau yn ymwneud ag ail gartrefi yn deillio o'r ffaith "nad oedd cyfoeth wedi ei ddosbarthu yn deg" drwy'r Deyrnas Unedig.
Dywedodd Mr Campbell, a gyflwynodd y rhybudd gynnig, bod "angen gweithredu ar frys".
"A oes hawl gan gymunedau, ein hiaith a'n ffordd o fyw i oroesi? Mae'r datrysiad yn nwylo Llywodraeth Cymru... cyn iddi fynd yn rhy hwyr," meddai'r Cynghorydd Campbell.
"Mae pobl leol, yn enwedig pobl ifanc, yn ei chael hi'n fwyfwy anodd os nad yn amhosibl prynu eiddo gan eu bont yn cael eu prisio allan o'r farchnad dai.
"O ganlyniad, yn aml mae'n rhaid iddynt adael eu cymunedau lleol i ddod o hyd i dai fforddiadwy. Mae'n amlwg bod hyn yn cael effaith andwyol ar ddemograffeg yr ardal, cydlyniant cymdeithasol, a'r Gymraeg," ychwanegodd.
Beth fyddai'r newidiadau polisi?
Newid deddfau cynllunio i sicrhau bod rhaid cael caniat芒d cynllunio cyn newid eiddo annedd cynradd i ail-gartref/llety gwyliau;
Caniat谩u i awdurdodau lleol, mewn ymgynghoriad 芒'r gymuned leol, i osod trothwy ar nifer yr ail gartrefi ym mhob ward, a defnyddio cytundebau Adran 106 i atal cartrefi newydd rhag cael eu defnyddio fel ail gartrefi mewn wardiau sydd 芒 chanran 'annerbyniol' o ail gartrefi;
Cyflwyno system o drwyddedu ar gyfer rheoli'r broses o droi eiddo preswyl yn uned fasnachol e.e. uned wyliau neu AirBnB;
Cau'r bwlch sy'n caniat谩u i ail gartrefi i gael eu cofrestru fel busnesau er mwyn 'optio allan' o dalu trethi domestig a threthi cyngor, a chymryd mantais o ollyngdod trethi busnes;
Cyflwyno deddfwriaeth i gynyddu ymhellach Treth Trafodion Tir (LTT) pan yn prynu ail gartrefi.
Cafodd sylwadau'r Cynghorydd Campbell eu cefnogi gan y Cynghorydd Jane Tremlett o Dalacharn.
Dywedodd hi bod ail gartrefi yn bryder cynyddol yn y dref, a bod llai a llai o gwplau ifanc yn medru aros yn Nhalacharn.
Roedd perchnogion ail gartrefi yn "cyfrannu fawr ddim at y gymuned leol," ychwanegodd.
Fe wrthwynebwyd y rhybudd gynnig gan y Cynghorydd Kevin Madge, a wnaeth amlinellu cyfraniad twristiaeth i'r sir.
'Ystod o fesurau' ar gael
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn ymwybodol o bryderon am ail gartrefi, a bod gr诺p arbennig wedi ei sefydlu i chwilio am atebion.
Ychwanegodd llefarydd bod "disgwyl i awdurdodau lleol ystyried defnydd effeithiol o'r ystod o fesurau" sydd ar gael i daclo'r mater.
Dywedodd llefarydd Airbnb bod y cwmni eisiau bod yn "bartneriaid da i gymunedau", ac felly eisoes yn cefnogi system o gofrestru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Awst 2020
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2020