Pryder am 'oroesiad deintyddiaeth y GIG yng Nghymru'
- Cyhoeddwyd
Mae nifer o ddeintyddion y gwasanaeth iechyd yn hynod feirniadol o ddiwygiadau i raglen ddeintydda Llywodraeth Cymru.
Yn 么l Cymdeithas Ddeintyddol Prydain (BDA), mae Llywodraeth Cymru'n ceisio "ymddangos" fel eu bod yn rhoi mwy o fynediad at ddeintyddion heb "fuddsoddiad ystyrlon" i gefnogi hynny.
Daeth arolwg barn i'r canlyniad bod 97% allan o 250 o ddeintyddion y stryd fawr yn anhapus gyda'r system dargedau newydd.
Mae Llywodraeth Cymru yn dal i fynnu bod y system yn gweithio, gyda "llai nag 20 allan o 400 o gontractau" wedi'u dychwelyd eleni.
'Amser a straen'
Mae Lowri Leeke, sy'n rhedeg deintyddfa ym Merthyr Tudful, yn dweud bod "cleifion a deintyddion wedi colli allan" ers i Lywodraeth Cymru newid y cytundeb.
"Dwi'n 'nabod sawl deintydd sydd yn barod wedi rhoi eu gwaith GIG yn 么l, a sawl deintydd arall sy'n ystyried gwneud," meddai.
"Dwi fy hun o fewn y blynyddoedd nesaf, os na fydd pethau'n newid, yn mynd i droi fy nghefn ar y GIG.
"Rwy'n berchennog practis ac rwy'n colli arian yn ddyddiol oherwydd fy nghleifion GIG. Rwy'n treulio mwy o fy amser yn ticio blychau nag yn trin pobl.
"Yr amser a'r straen y mae'n ei achosi i mi - wnes i ddim hyfforddi a chymhwyso i fod yn ddeintydd i beidio helpu fy nghleifion."
Mae'r system newydd yn golygu bod angen i bob deintydd gyrraedd targedau o ran nifer cleifion newydd a rhai hanesyddol - y cleifion hynny sydd heb weld deintydd ers pedair blynedd neu fwy.
Oherwydd hynny mae Dr Leeke yn dweud bod eu cleifion arferol yn methu allan.
"Ni'n gweld cleifion sefydlog unwaith y flwyddyn nawr yn lle unwaith bob chwe mis, ac mae cymaint mwy o broblemau wedyn gyda'r dannedd a'r gums," meddai.
"Yn fy mhractis i, yn anffodus, ni wedi gweld cynnydd mawr mewn achosion posib o ganser y geg."
Disgwyl cosbau ariannol
Daeth arolwg barn gan y BDA i'r canlyniad bod y mwyafrif o ddeintyddion wnaeth gymryd rhan yn anhapus gyda'r system dargedau newydd.
Mae'r canlyniadau, sy'n cynnwys atebion 250 o ddeintyddion y stryd fawr, yn dweud bod oddeutu 70% yn disgwyl cosbau ariannol eleni am fethu 芒 chyrraedd y targedau newydd.
O ganlyniad, dim ond 39% sy'n bwriadu aros yn y rhaglen ddiwygio yn 2023-24.
Mae dros 30% yn bwriadu gostwng gwerth eu contract ar gyfer 2023-24 ac yn 么l y rhagamcanion presennol mae tua 13% yn bwriadu rhoi eu cytundebau GIG yn 么l ar ddiwedd y flwyddyn ariannol hon.
Yn 么l y BDA, mae'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru'n "ymddangos" fel eu bod yn rhoi mwy o fynediad at ddeintyddion heb "fuddsoddiad ystyrlon" i gefnogi hynny.
Dywedodd Russell Gidney, cadeirydd Pwyllgor Cymreig Cymdeithas Ddeintyddol Prydain: "Mae gan fy nghydweithwyr bryderon sylfaenol am oroesiad deintyddiaeth y GIG yng Nghymru.
"Nid yw'r system newydd yn gweithio, ac mae'n hawdd gweld pam o ystyried y cymysgedd gwenwynig o danfuddsoddi, targedau heb eu profi, a'r risg o gosbau ariannol llethol.
"Nid barn y lleiafrif yw hon, ond barn y mwyafrif llethol o ddeintyddion ledled Cymru.
"Mae methiannau o ran gwrando ar ein rhybuddion mewn perygl o adael mwy o gymunedau heb fynediad at ofal."
'Cydweithio'n parhau'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod bob amser "yn siomedig pan fydd deintydd yn penderfynu lleihau neu ddod 芒'u hymrwymiad i'r GIG i ben".
"Fodd bynnag, mae llai nag 20 allan o dros 400 o gontractau wedi'u dychwelyd eleni ac mae'r rhan fwyaf wedi eu hailbenodi neu yn y broses o wneud hynny.
"Rydym yn parhau i weithio gyda'r BDA i archwilio sut y gall diwygio'r cytundeb deintyddol cenedlaethol annog y gymdeithas ddeintyddol i gydweithio ac ymateb yn y ffordd orau i anghenion deintyddol ac iechyd y geg yn eu cymunedau.
"Bydd y cyllid blynyddol o 拢2m i wella mynediad at ddeintyddiaeth y GIG ledled Cymru yn galluogi byrddau iechyd i ariannu gwasanaethau deintyddol yn seiliedig ar anghenion a phroblemau lleol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2022