Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Prynu tocynnau cyngerdd yn 'gur pen' i bobl ag anabledd
- Awdur, Megan Davies
- Swydd, Newyddion 91热爆 Cymru
Mae rhwystredigaeth yngl欧n 芒'r "diffyg cysondeb" gyda systemau archebu tocynnau i ddigwyddiadau i bobl ag anableddau, yn 么l elusen.
Mae Aaron Pleming o Gaernarfon wrth ei fodd yn mynd i gyngherddau a sioeau. Cerddoriaeth a chomedi yw ei brif ddiddordebau.
"Dwi wedi bod i weld Strictly Come Dancing eleni, a dwi 'di bod i gig Peter Kay ddechrau mis Ionawr," meddai.
Ond fel person sydd ag anabledd, mae Aaron yn dweud fod prynu tocynnau yn "gur pen" iddo yn aml.
Fel un sy'n defnyddio cadair olwyn ac yn byw gyda pharlys yr ymennydd, mae'n gorfod ffonio o flaen llaw er mwyn sicrhau mynediad i'r lleoliad.
"Fedra i ddim jyst meddwl 'o reit, dwi eisiau mynd i weld hwn'," meddai.
Mae'r sefyllfa bresennol yn golygu aros mewn ciw ar y ff么n er mwyn siarad ag aelod o staff yn y swyddfa docynnau i gadarnhau trefniadau.
Eisiau 'bwcio ar-lein fel pawb arall'
Yn 么l Aaron, mae'r staff ar y ff么n fel arfer yn garedig iawn, ond mae'r broses yn rhy gymhleth o ystyried fod pobl eraill yn gallu archebu tocynnau yn ddigidol.
"'Dw i'n gorfod ffonio'r lleoliad," meddai. "Mae hynna'n anodd achos 'dw i ar hold am hir. Dydy o ddim yn hawdd."
Byddai moderneiddio'r broses yn gwneud gwahaniaeth enfawr i nifer, meddai Aaron.
"'Swn i wrth fy modd tasa 'na ffordd i berson anabl, fatha fi, fedru bwcio tocynnau ar-lein fel pawb arall."
Mae Gail Devine o Ben-y-bont ar Ogwr yn rhan o Ffrindiau Gigiau Cymru, neu Gig Buddies - cynllun sy'n uno dau berson gyda diddordebau tebyg.
Drwy'r system, mae Gail yn mynd i gyngherddau gyda Mel, sy'n byw gydag anghenion ychwanegol.
"Mae e weithiau yn anodd cael tocynnau achos 'dan ni'n edrych am docynnau lle dwi'n gallu mynd gyda hi i gynorthwyo," meddai Gail.
Dywedodd fod angen symleiddio'r broses er mwyn gwneud y system yn fwy hygyrch.
"Fysai fo'n lyfli pe bai 'na un broses i gael bwcio ym mhobman," meddai.
Mae Mel a Gail yn manteisio ar Hynt - cynllun yng Nghymru sy'n sicrhau fod cynnig cyson ar gael i bobl gydag anableddau mewn theatrau a chanolfannau celfyddydol, yn ogystal 芒'u gofalwyr a'u cynorthwywyr.
Yn 么l elusen Anabledd Cymru, mae'r sefyllfa docynnau yn "broblem fawr" sydd wedi bodoli ers blynyddoedd.
"Mae llawer iawn o'n haelodau - pobl anabl o Gymru gyfan - yn dweud eu bod wedi colli mas ar gig neu gyngerdd arall," meddai Alexandra Osborne o'r elusen.
"Prif fwrn y sefyllfa ydy'r diffyg cysondeb. Nid jyst yn y lleoliadau amrywiol ond weithiau yn yr un lleoliad, yn dibynnu ar ba artist sy'n perfformio."
Tra bod gwasanaethau ar y ff么n yn hollbwysig i bobl gyda nam golwg, mae Alexandra yn awyddus i weld system ddigidol yn cael ei datblygu ar gyfer pobl gydag anableddau.
Dywedodd fod cynlluniau fel Hynt yn help, ond y byddai'n well gallu cael popeth mewn un lle, yn hytrach na chael gwahanol gynlluniau ar gyfer gwahanol leoliadau.
"Pe bai 'na un pas y gallwn ni ei ddefnyddio ym mhob lleoliad, byddai'n helpu gydag ymwybyddiaeth, a byddai pobl yn dechrau ei ddefnyddio yn fwy aml."
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut i gychwyn sgwrs am anabledd yna ewch i wefan Siarad Anabledd 91热爆 Cymru.