91热爆

Siarad Anabledd: 'Dan ni 'di dod yn bell, ond mae llawer mwy i'w wneud'

  • Cyhoeddwyd
Elin Williams

Mae Elin Williams o Fae Colwyn, Sir Conwy yn gweithio i Anabledd Cymru.

Fel rhan o gyfres Siarad Anabledd 91热爆 Cymru, mae hi wedi ysgrifennu erthygl i Cymru Fyw.

50 mlynedd ers sefydlu Anabledd Cymru, dyma ei llythyr agored i gymdeithas ar gyfer yr hanner canrif nesaf.

"'Dan ni 'di dod yn bell, ond mae 'na lawer mwy dal i'w wneud."

Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol ydw i Anabledd Cymru ond mae gwreiddiau'r sefydliad yma yn llawer h欧n na fi.

Roedd y 1960au yn gyfnod o newid cymdeithasol anferthol - yma yng Nghymru ac ar draws y byd. Drwy brotestio fe wnaeth llawer o bethau newid.

Canlyniad cyfarfodydd gyda'r llywodraeth oedd cydnabyddiaeth bod angen corff gwirfoddol cenedlaethol i siarad ar ran pobl anabl. Dyma ydy Anabledd Cymru heddiw.

Ers hanner canrif 'dan ni wedi bod yn ymgyrchu dros ein hawliau.

'Dan ni 'di codi llais i gael mwy o gyfleon ym myd addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.

'Dan ni 'di gweiddi am well mynediad at adeiladau a gwasanaethau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn dilyn protestiadau a chyfarfodydd gyda'r llywodraeth yn y 1960au, sefydlwyd Anabledd Cymru

Drwy brotestio 'dan ni wedi creu newid tymor hir, ond mae Anabledd Cymru hefyd wedi pwyso'n galed ar ein gwleidyddion i newid y gyfraith.

Dyna'r newid sy' wedi mynd i'r afael 芒 gwahaniaethu yn y gweithle.

Dyna sy' wedi sicrhau mynediad at wasanaethau cyhoeddus - o'r ddeintyddfa i'r llyfrgell - yn ogystal 芒 siopau, bwytai a banciau.

A dyna sy'n ceisio rhoi stop ar droseddau casineb ar sail anabledd.

Yndi, mae deddfwriaeth a pholisi cymdeithasol wedi newid yn llwyr. Ac mae agweddau pobl gyffredin wedi newid hefyd.

Er gwaetha'r brwydrau 'dan ni wedi eu hennill am well addysg, am fwy o gefnogaeth i allu byw yn annibynnol, am yr hawl i fynd ar fysus, ac yn erbyn toriadau i fudd-daliadau.

Mae angen gwneud mwy.

Mae'r grym i ymgyrchu ar flaenau eich bysedd r诺an. Twitter a TikTok - neu flogio fel fi - mae 'na le ar-lein i ddweud eich stori a rhoi llwyfan i brofiadau da a drwg.

I gael cydraddoldeb go iawn mae'n rhaid newid mwy.

Mae angen cydweithio hefo llywodraethau a chyflogwyr a delio hefo'r diffyg cyfleoedd i bobl anabl weithio a gwireddu eu potensial.

'Dan ni 'di dod yn bell ac mewn hanner canrif mae llawer wedi newid.

Ond mi fyddwn ni'n dal i frwydro - i gadw, hyrwyddo ac ehangu hawliau pobl anabl.

Pynciau cysylltiedig