Eisteddfod i 'edrych ar' brisiau mynediad i'r Brifwyl eleni
- Cyhoeddwyd
Mae prif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol wedi dweud y bydd yn rhaid i'r Brifwyl "edrych ar" eu prisiau mynediad eleni, wrth i gostau gynyddu yn sgil chwyddiant.
Dywedodd Betsan Moses nad oedden nhw wedi "newid ein prisiau ers pum mlynedd", ond y byddai pwyslais o hyd ar geisio sicrhau ei fod yn "fforddiadwy i bawb".
Rhybuddiodd hefyd fod yr heriau sy'n wynebu gwyliau ers Covid yn parhau, ac felly bod "s么n am ddwy flynedd anodd arall o'n blaen ni".
Ychwanegodd fod yr Eisteddfod hefyd yn cynnal adolygiad o'i chystadlaethau, er mwyn "sicrhau bod gyda ni raglen sy'n edrych i'r dyfodol".
Effaith 'andwyol' Covid o hyd
Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn cael ei chynnal ger pentref Boduan ym Mhen Ll欧n, wedi iddi ymweld 芒 Thregaron yng Ngheredigion y llynedd.
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast 91热爆 Radio Cymru, dywedodd Ms Moses fod yr Eisteddfod ar hyn o bryd yn "trafod costau tocynnau" ar gyfer yr 诺yl ym mis Awst.
"Ni'n mynd allan, cael y prisiau ar y foment," meddai.
"Mae costau cludo, criwio a chwyddiant yn effeithio arno ni'n sylweddol.
"Un peth yw dy'n ni heb newid ein prisiau ers pum mlynedd, ac mae hwnna'n rhan ganolog o'n gweledigaeth ni, sicrhau bod e'n fforddiadwy i bawb brofi eu diwylliant nhw."
Fe wnaeth yr Eisteddfod wynebu trafferthion y llynedd wrth geisio sicrhau cyflenwyr ar gyfer y Brifwyl, ac yn 么l y prif weithredwr mae'r heriau hynny'n "parhau".
"Mae'r diwydiant digwyddiadau wedi cael ei effeithio yn andwyol iawn dros Covid, a nifer o gwmn茂au wedi gorfod arallgyfeirio," meddai.
"Hefyd ni'n ddibynnol iawn ar bobl llawrydd, ac mae nifer wedi gadael oherwydd bod dwy flynedd o beidio cael gwyliau yn golygu bod rhaid iddyn nhw edrych o'r newydd.
"Felly mae criwio'n parhau i fod yn broblem, ac hefyd costau o ran chwyddiant a cludiant, felly dy'n ni'n anffodus ddim dros y gwaethaf."
Pafiliwn mwy i'r rhagbrofion?
Ymhlith y newidiadau eraill fydd yn cael eu trafod gan fwrdd yr Eisteddfod dros yr wythnosau nesaf mae newidiadau posib i'r rhaglen gystadlaethau.
"Oes 'na angen torri, oes angen datblygu, oes angen newid, oes angen edrych ar y sawl sydd ar y llwyfan, oes angen edrych ar falle gael pafiliwn mwy ar gyfer rhagbrofion, ac yna tri ar y llwyfan?" meddai Betsan Moses.
"Mae'r holl beth yn cael ei drafod ar hyn o bryd.
"Dyna sy'n wych, bod pawb sy'n rhan o'r cystadlu, a'r rhanddeiliaid tu allan, wedi rhoi barn dros y flwyddyn ddiwethaf.
"Mae'n bwysig bod yr Eisteddfod yn gynhwysol a bod pawb yn cael dweud eu dweud, a bod ni wedyn yn gwrando, ac wrth i ni symud 'mlaen bod y rhaglen waith yn cymryd i ystyriaeth barn pawb."
Ychwanegodd mai peth da fyddai petai mwy o awydd i gystadlu.
"Y mwya' o gystadlu sy'n digwydd, mae'n golygu bod y Gymraeg yn fyw ar lawr gwlad," meddai.
"Felly mae sicrhau ein bod ni'n rhoi gofod priodol i gystadlu, ond hefyd ein bod ni'n gallu sicrhau bod 'na gystadlaethau newydd sy'n denu cystadleuwyr newydd, yn hollbwysig."
Datrys archebion maes carafanau
Ddydd Mercher fe aeth tocynnau ar werth ar gyfer maes carfanau'r Eisteddfod eleni, gyda nifer o ddefnyddwyr yn cwyno ar y cyfryngau cymdeithasol eu bod nhw wedi cael trafferthion wrth archebu lle.
Ond dywedodd Ms Moses fod y problemau bellach wedi eu datrys, a bod "pawb wedi bod yn llwyddiannus" gyda dros 1,200 o lefydd wedi eu gwerthu.
"Mae 'na rai ar 么l, ac felly cyntaf i'r felin gaiff falu," meddai.
Roedden ni'n ymwybodol ar 么l Eisteddfod llynedd fod y galw'n fwy, bod pobl yn ei weld e fel ffordd fforddiadwy o ddod i'r Eisteddfod."
Ychwanegodd fod y galw yna am lefydd gwersylla - yn ogystal 芒 gwerthiant cryf o docynnau Maes B cyn y Nadolig - yn arwydd bod "pobl yn ysu i ddod at ei gilydd".
"Felly er gwaetha'r problemau, mi fyddwn ni'n parhau i ddatblygu, ac mi fydd 'na 诺yl a hanner ym Moduan eleni," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd8 Awst 2022
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2023