91热爆

Galw am dro pedol ar ryddhau cleifion o ysbytai

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywed arweinydd Cyngor M么n, Llinos Medi, ei bod yn "drist" ei bod wedi cymryd argyfwng o'r fath i bobl werthfawrogi gofalwyr

Mae cymdeithas feddygol BMA Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud tro pedol ynghylch cyngor newydd i fyrddau iechyd ryddhau rhai cleifion heb becyn gofal.

Mewn e-bost at brif swyddogion GIG Cymru ddydd Iau, mae cadeiryddion pwyllgorau cymdeithas feddygol BMA Cymru yn "gwrthod" canllaw'r llywodraeth i ryddhau pobl o ysbytai heb becyn gofal.

Maen nhw'n gresynu "bod cyfle wedi ei golli i ymgynghori a thrafod 芒 chynrychiolwyr y proffesiwn ynghylch cyngor sy'n newid arferion yn sylweddol".

Daw wrth i arweinydd un o gynghorau'r gogledd, oedd yn arfer bod yn ofalwraig, son am yr "her emosiynol" i staff yn y maes.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod "galw digynsail" ar y GIG wedi eu harwain at ofyn i fyrddau iechyd ryddhau pobl sydd ddim angen triniaeth fel y gall gwelyau gael eu defnyddio gan y rheiny sydd angen mwy o ofal.

Ond ychwanegon nhw: "Bydd cleifion ond yn cael eu rhyddhau o'r ysbyty pan fo hi'n addas yn feddygol i wneud hynny."

Dywedodd fod esiamplau yn cynnwys pobl all gael eu rhyddhau i ofal teulu neu ffrindiau am gyfnod nes i'w pecyn gofal gael ei gwblhau, neu berson all ddisgwyl adref am asesiad yn hytrach na disgwyl mewn gwely ysbyty.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dan y canllaw newydd mewn ymateb i'r pwysau ar y GIG, gall cleifion sy'n ddigon da i adael yr ysbyty gael eu rhyddhau heb becyn gofal

Tra'n cytuno bod angen mynd i'r afael 芒 thrafferthion llif cleifion trwy'r ysbytai yn wyneb "pwysau digynsail", dywed BMA Cymru "na allwn ni gefnogi eich awgrym bod angen i'r proffesiwn meddygol 'addasu'r trothwyon o ran rhyddhau [cleifion]'."

Yn 么l y cadeiryddion: "Mae newid y trothwy risg yn trosglwyddo'r atebolrwydd a'r risg wleidyddol i glinigwyr gofal cynradd ac eilradd.

"Hefyd, mae cleifion a'u teuluoedd eisoes yn dioddef canlyniad y polisi rhyddhau newydd yma, yr ydym yn ofni na fu'n destun asesiad risg."

Gan ddadlau bod y system gofal cymdeithasol a chymunedol eisoes dan ormod o bwysau i roi sicrwydd o gymorth amserol, maen nhw'n dweud y bydd llwyth gwaith meddygon teulu'n cynyddu ac y bydd nifer sylweddol o gleifion yn gorfod dychwelyd i'r ysbyty am ofal.

Maen nhw hefyd yn ofni na fyddai'r newid polisi na'r pwysau ar wasanaethau iechyd yn amddiffyn meddygon unigol rhag wynebu honiadau o esgeulustod "er methiannau systemig y tu hwnt i'w rheolaeth".

"Nid ydym yn fodlon peryglu ein trwyddedau proffesiynol, ac felly ein bywoliaeth... ar ran ein haelodau, rydym, gyda pharch, yn gwrthod y canllaw rydych wedi ei rannu ac yn gofyn iddo gael ei dynnu'n 么l."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r BMA yn poeni y bydd nifer sylweddol o gleifion yn gorfod dychwelyd i'r ysbyty am ofal

Yn 么l arweinydd Cyngor Ynys M么n, Llinos Medi, mae diffyg staff i roi gofal yn y gymuned os ydy cleifion yn cael eu rhyddhau o'r ysbyty heb becyn gofal digonol.

"Mae'r ddemograffeg yn newid, a chymhlethdod gofalu hefyd - mae pobl yn byw yn h欧n 'efo cyflyrau mwy cymhleth, a'r rhwydwaith teuluol 'na ddim o gwmpas i gymaint o bobl h欧n hefyd," meddai.

"Yn ystod Covid fe wnaeth y gymuned ddod at ei gilydd yn glos iawn, ond mae pobl wedi mynd 'n么l r诺an i fywyd dydd i ddydd, felly mae hi'n anoddach fyth o ran cadw'r rhwydwaith yna yn y gymuned.

"Yr heriau 'dan ni'n eu gweld, yn union fel y gwasanaeth iechyd, ydy diffyg staff - staff 'efo Covid neu ffliw er enghraifft.

"Mae anghenion unigolion yn gallu bod yn gymhleth, ac yn rhai achosion mae isio gwneud addasiadau i dai, a 'dan ni gyd yn gwybod bod hynny'n gallu bod yn fwy heriol yn ystod y cyfnod yma lle mae 'na ddiffyg llafur i 'neud y gwaith hynny."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Llinos Medi mai'r hyn fyddai'n help anferth i awdurdodau lleol ydy sicrwydd ariannol am gyfnod hirach na blwyddyn yn unig.

Ychwanegodd ei bod yn "drist" ei bod wedi cymryd argyfwng o'r fath i bobl werthfawrogi r么l gofalwyr.

"Yn amlwg, cael unigolion allan o ysbytai i'w cartrefi yn ddiogel ydy'n prif nod ni, ond i 'neud hynny mae'n rhaid i ni gydweithio'n agos 'efo'r teuluoedd," meddai'r cynghorydd.

"Os oes'na unigolyn yn cael pedwar ymweliad y dydd, ydy hi'n bosib edrych ar dri neu ddau gyda chefnogaeth y teulu? Dyna'r math o sgyrsiau anodd 'dan ni'n gorfod eu cael, a dyw'r rheiny ddim yn hawdd bob tro.

"Fues i'n ofalwraig fy hun mewn cartrefi. Mae rhywun sy'n mynd mewn i'r maes gofal isio rhoi'r gorau y gallan nhw. Dyna ydy'n nod ni - gofalu.

"Ond mae gweithio dan amgylchiadau fel hyn, pan mae'r galon yn dweud un peth ond 'da chi'n ymwybodol, yn ffisegol, allwch chi ddim cyrraedd pob dim - mae hynny'n rhoi her emosiynol ar staff hefyd.

"Mae angen ailedrych ar y sector gofal, ac mae'n drist o beth ei bod hi'n cymryd argyfwng o'r fath i ni fedru cael sgwrs gyhoeddus am bwysigrwydd gofal."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae rhybudd nad oes digon o staff gofal i ofalu am y cleifion hynny sy'n cael eu rhyddhau o ysbytai

Dywedodd mai'r hyn fyddai'n help anferth i awdurdodau lleol ydy sicrwydd ariannol am gyfnod hirach na blwyddyn yn unig.

"Dwi 'di bod yn arweinydd ers 2017 a'r oll dwi 'di wneud ydy edrych ar sut i wneud toriadau.

"Dydy hynny ddim yn ffordd ddoeth nac aeddfed o gynnal gwasanaethau - 'dan ni'n cynllunio o flwyddyn i flwyddyn.

"Tasen ni'n cael gwybod ein cyllideb ni am dair i bum mlynedd, 'da chi'n gallu cynllunio gwasanaethau yn gwybod eich bod chi'n medru eu cyflawni nhw.

"Ar hyn o bryd 'dan ni'n cynllunio gwasanaethau gan obeithio ein bod ni'n eu cyflawni nhw yn ystod y flwyddyn yna.

"Mae angen sicrwydd ariannol, ac mae dros 10 mlynedd doriadau - dyma'r pris mae cymdeithas yn ei dalu am lymder."