91热爆

Qatar: Drakeford 'ddim yn difaru' aros mewn gwesty pum seren am ddim

  • Cyhoeddwyd
Roedd Mark Drakeford yn Qatar adeg g锚m gyntaf Cymru yn erbyn yr UDAFfynhonnell y llun, Jonathan Brady
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Mark Drakeford yn Qatar adeg g锚m gyntaf Cymru yn erbyn yr UDA

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn dweud nad yw'n difaru derbyn arhosiad am ddim mewn gwesty pum seren yn Qatar yn ystod Cwpan y Byd.

Datgelodd 91热爆 Cymru fod llywodraeth y wlad wedi talu am ddau weinidog a phedwar swyddog i aros yn y Ritz-Carlton.

Dywedodd Mr Drakeford fod yn rhaid iddo gymryd y pecyn lletygarwch am resymau diogelwch, ac na allai fynd i gyfarfodydd hebddo.

"Er nad dyna'r ffordd y bydden ni wedi dewis mynd i Qatar, roedd yn anorfod," meddai.

Ysgogodd newyddion am y pecyn lletygarwch bryderon y gallai fod wedi tanseilio safiad Llywodraeth Cymru ar hawliau dynol, tra bod Amnest Rhyngwladol wedi herio gweinidogion Cymru i ddangos eu bod wedi codi'r materion.

Roedd Qatar wedi cael ei feirniadu am ei driniaeth o bobl LHDCT+, menywod a gweithwyr mudol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu rhaid i gefnogwyr - yn eu plith cyn-gapten Cymru yr Athro Laura McAllister - gael gwared 芒'u hetiau enfys cyn y g锚m gyntaf yn erbyn UDA

Dywedodd y prif weinidog ei fod wedi codi pryderon hawliau dynol "ym mhob cyfle posib" yn ystod ei ymweliad.

Tra bod Llywodraeth Cymru wedi talu 拢13,000 am deithiau hedfan, canfu cais Rhyddid Gwybodaeth gan y 91热爆 i Lywodraeth Cymru fod Qatar wedi talu am Mr Drakeford, Gweinidog yr Economi Vaughan Gething a phedwar swyddog i aros yn y gwesty pum seren.

Mynychodd y ddau weinidog gemau ar wah芒n, ochr yn ochr 芒 dirprwyaeth o ddau swyddog yr un, gyda'r ddwy daith ar wah芒n yn para tair noson yr un.

Daeth taith Mr Drakeford er gwaethaf penderfyniad Syr Keir Starmer i gadw draw o'r twrnament.

Roedd gweinidogion Llywodraeth y DU hefyd yn bresennol yng Nghwpan y Byd, gan gynnwys Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies - dyw hi ddim yn glir a ydyn nhw wedi derbyn yr un pecyn.

Dywedodd Mr Drakeford wrth 91热爆 Cymru: "Dydw i ddim yn difaru, oherwydd dyma'r unig ffordd yr oedd hi'n bosibl cyflawni'r dibenion yr es i i Qatar ar eu cyfer.

"Fe wnaethon ni edrych i weld a oedd hi'n bosib mynd yn annibynnol. Roedd y drefn ddiogelwch o amgylch y gemau yn syml yn golygu, oni bai eich bod chi'n barod i dderbyn y trefniadau yno ar lawr gwlad, ni fyddech wedi cael mynediad corfforol i'r lleoedd lle roedd angen i mi fod a'r y cyfarfodydd yr oedd angen i mi eu mynychu.

"Er nad dyna'r ffordd y byddem wedi dewis mynd i Qatar, roedd yn anochel, pe bai'r ymweliad yn cyflawni'r dibenion."

'Pob cyfarfod'

Dywedodd Mr Drakeford ym "mhob cyfarfod yr oeddwn yn bresennol ynddo, fe wnaethom godi'r materion sy'n bwysig i bobl yma yng Nghymru".

"Ym mhob cyfarfod y b没m ynddo, boed hynny gyda gweinidogion y llywodraeth, busnesau, sefydliadau celfyddydol, cyfweliadau 芒'r cyfryngau lleol yno yn Qatar, cafodd y materion - hawliau dynol, gwerthoedd dynol, hawliau gweithwyr - sylw ym mhob cyfle posibl."

Mae Llywodraeth Cymru wedi amddiffyn y daith dro ar 么l tro, gan ddweud bod Cwpan y Byd wedi rhoi cyfle i Gymru hyrwyddo ei hun ar lwyfan y byd a cheisio buddsoddiad gan Qatar.

Dywedodd Mr Drakeford ym mis Tachwedd ei fod yn "benderfyniad anodd" i fynd, ond dywedodd fod "rhwymedigaeth" i weinidogion gefnogi t卯m p锚l-droed dynion Cymru yn eu Cwpan y Byd cyntaf ers 64 mlynedd.

Wrth ofyn am drefniadau gweinidogion y DU, dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor: "Roedd Cwpan y Byd yn ddigwyddiad rhyngwladol mawr ac mae'n iawn fod Llywodraeth y DU yn cael ei chynrychioli. Bydd manylion yr ymweliad yn cael eu cyhoeddi yn y ffordd arferol."