Streic ambiwlans: 'Dim bwriad defnyddio'r fyddin'
- Cyhoeddwyd
Mae Gweinidog Iechyd Cymru'n dweud ei bod yn "obeithiol" y bydd ambiwlansys yn ymateb i'r galwadau brys mwyaf difrifol pan fydd parafeddygon ar streic ddydd Mercher.
Dywedodd Eluned Morgan y bydd y galwadau mwyaf brys yn cael eu blaenoriaethu ond bod angen i bobl gadw mewn golwg y bydd y pwysau o ran galwadau llai difrifol "yn fwy fyth".
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau na fydd y fyddin yn cael cais i yrru ambiwlansys yng Nghymru yn ystod streiciau.
Mae'r Gwasanaeth Ambiwlans hefyd wedi dweud eu bod wedi derbyn nifer uchel o alwadau dros y penwythnos o ganlyniad i'r tywydd rhewllyd, gan ofyn i bobl ond ffonio 999 os yw bywyd yn y fantol.
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynlluniau i ddefnyddio 1,200 o aelodau'r fyddin a 1,000 o weision sifil yn ystod gweithredu diwydiannol yn Lloegr dros gyfnod y Nadolig.
Ond dywed Llywodraeth Cymru bod "dim cynlluniau" i ddefnyddio'r lluoedd arfog i lenwi bylchau'r gwasanaeth ambiwlans.
Dywedodd llefarydd: "Mae cymorth gan y lluoedd arfog wedi ei gytuno o ran cefnogaeth logistaidd, gan helpu i sicrhau'r defnydd gorau o'r capasiti ambiwlans sydd ar gael."
Mae'r GIG yn Lloegr hefyd wedi gofyn wrth ysbytai i ryddhau gymaint o welyau ysbyty 芒 phosib wrth baratoi ar gyfer y streiciau.
Dywed Llywodraeth Cymru bod y GIG a'r Gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru'n "parhau i gydweithio'n agos ar drefniadau gyda staff ac undebau cyn y streiciau".
Wrth siarad ar raglen Sunday Supplement ar 91热爆 Radio Wales, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan fod paratoadau'r llywodraeth ar gyfer y streic ambiwlans yn debyg i'r rhai ar gyfer streic nyrsys Cymru ddydd Iau diwethaf.
Mae gweinidogion, meddai, "yn cydnabod bod y pwysau ar y gwasanaeth ambiwlans yn anferthol, yn rhannol oherwydd trafferth gyda'r llif [o ran rhyddhau cleifion] allan o'n ysbytai".
Dywedodd bod "dros fil" o gleifion yng Nghymru yn "bobl yn yr ysbyty nad oes angen iddyn nhw fod yna" a bod y llywodraeth yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol i gynyddu'r nifer o welyau yn y gymuned.
Ond fe danlinellodd mai dim ond mewn r么l gyflenwol y bydd aelodau'r fyddin yn cael eu defnyddio i "sicrhau ein bod yn defnyddio'r capasiti sydd gyda ni i'r eithaf".
Ychwanegodd: "Rydym wedi trafod hynny gyda'r undebau ac maen nhw i'w gweld yn gyfforddus gyda'r defnydd arbennig yna o wasanaethau."
Dywedodd hefyd bod y llywodraeth "yn obeithiol" y bydd ambiwlansys yn ymateb i'r galwadau mwyaf brys ddydd Mercher "ond mae'n golygu y bydd y bwysau ar rheiny nad sydd yn y categori yna yn fwy fyth, sy'n rhywbeth y mae angen i bobl ystyried".
Mewn ymateb i'r sylwadau hynny gan Ms Morgan, dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig Russell George ei fod "yn synnu bod y Gweinidog Iechyd mor ddi-flewyn-ar dafod, ei bod ond yn obeithiol y bydd ambiwlansys yn cyrraedd y sefyllfaoedd mwyaf difrifol".
Ychwanegodd mai "dyna'r achos, fodd bynnag, hyd yn oed pan nad oes streic ymlaen, gyda Chymru'n cofnodi'r amseroedd ymateb arafaf erioed ym mis Hydref".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2022