Plaid Cymru eisiau codi trethi i bobl ar incwm uwch - cofnodion
- Cyhoeddwyd
Mae gr诺p Plaid Cymru yn Senedd Cymru wedi cefnogi codiadau treth incwm mawr ar gyfer pobl ar gyflogau uwch.
Pleidleisiodd mwyafrif o Aelodau o'r Senedd y blaid dros godiad o 4c i bobl oedd yn ennill dros 拢50,000, a chynnydd o 5c mewn cyflogau dros 拢150,000.
Dywedodd gr诺p y blaid y gallai'r codiadau gael eu cyflwyno fel "treth undod" i helpu ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn ystod argyfwng costau byw.
Dywedodd llefarydd ar ran y blaid eu bod wedi "galw'n gyson ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio'r holl rymoedd sydd ar gael iddi... i fynd i'r afael 芒'r argyfwng costau byw a diogelu gwasanaethau cyhoeddus".
Mae gan Lywodraeth Cymru rai pwerau treth incwm ers 2019, ond nid yw erioed wedi eu defnyddio.
Gall gweinidogion addasu pob cyfradd dreth - y gyfradd sylfaenol, y gyfradd uwch, a chyfradd ychwanegol - 10c ym mhob 拢1.
Ond nid oes gan weinidogion Cymru bwerau dros y lefelau incwm y mae pobl yn talu'r cyfraddau treth gwahanol arnynt.
Beth yw cyfraddau a bandiau treth incwm Cymru?
Lwfans Personol - hyd at 拢12,570 - 0c
Cyfradd sylfaenol: 拢12,571 - 拢50,270 - 20c ymhob 拢1
Cyfradd uwch - 拢50,271 - 拢150,000 - 40c ymhob 拢1
Cyfradd ychwanegol - dros 拢150,000 - 45c ymhob 拢1
Yn 么l cofnodion cyfarfod gr诺p Plaid Cymru yn y Senedd a gynhaliwyd ym mis Hydref, pleidleisiodd saith Aelod o'r Senedd (AS) Plaid Cymru dros gynnydd mawr mewn treth incwm i'r rhai sy'n ennill dros 拢50,271, gyda thri AS yn pleidleisio yn erbyn y cynigion.
Cynhaliwyd y bleidlais ar "godi'r gyfradd dreth uwch 4c, a'r gyfradd dreth ychwanegol 5c".
Dywedodd y cofnodion: "Roedd nifer o aelodau'n cytuno 芒'r angen i godi'r cyfraddau uwch ac ychwanegol er mwyn ariannu gwasanaethau cyhoeddus.
"Gellir cyflwyno hyn fel treth undod tymor byr, at ddibenion penodol.
"Roedd rhai aelodau'n teimlo'r angen i ystyried goblygiadau gwneud hyn ymhellach, a'r annhegwch posib o godi'r dreth uwch ac ychwanegol i'r un graddau," meddai'r cofnodion.
Yn 2023/24, byddai cynnydd o 4c yn y gyfradd uwch o dreth incwm yn codi amcangyfrif o 拢132m, a byddai cynnydd o 5c yn y gyfradd ychwanegol yn codi 拢25m yn ychwanegol i Lywodraeth Cymru.
'Treth undod'
Yn ei araith yng nghynhadledd flynyddol Plaid Cymru, fe wnaeth arweinydd y blaid Adam Price AS godi'r posibilrwydd o "dreth undod" a dadlau y dylai pwerau treth incwm Cymru gael eu "defnyddio'n gynyddol i warchod y bregus ac amddiffyn ein gwasanaethau cyhoeddus".
Ond mewn cyfweliad gyda rhaglen 91热爆 Politics Wales ar benwythnos cynhadledd Plaid Cymru, gwrthododd Adam Price ddweud faint fyddai'r blaid yn codi trethi incwm.
Dywedodd mai dim ond yn dilyn Datganiad yr Hydref gan Lywodraeth y DU, a gyflwynwyd ar 17 Tachwedd, y byddai'n bosibl "i roi'r manylion hynny".
"Ond gadewch i ni fod yn glir, mae angen i ni godi mwy o refeniw hefyd, ond dylid gwneud hynny mewn ffordd flaengar, ei wneud mewn ffordd sy'n seiliedig ar egwyddor y dylai'r rhai sy'n gallu cyfrannu ychydig yn fwy yn yr amser hwn o argyfwng wneud hynny" ychwanegodd.
Ar 18 Hydref, ychydig ddyddiau cyn cynhadledd y blaid, soniodd Adam Price am syniad o "dreth undod" yn y Senedd, a galwodd ar y prif weinidog i ystyried codi'r ddwy gyfradd uchaf o dreth incwm er mwyn "ein helpu i leddfu rhywfaint o'r pwysau ar wasanaethau lleol".
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford nad oedd "dim siawns" y byddai'r codiadau treth incwm "yn dechrau talu am y rhestr hir honno o ddibenion y dywedodd y byddai modd defnyddio'r arian hwnnw ar eu cyfer".
'Un o'r gaeafau caletaf'
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Mae holl Aelodau o'r Senedd Plaid Cymru wedi galw'n gyson ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio'r holl rymoedd sydd ganddi, gan gynnwys pwerau amrywio trethi, i fynd i'r afael 芒'r argyfwng costau byw ac amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus.
"Mae Plaid Cymru yn parhau i ganolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig - cefnogi'r rhai mwyaf bregus yn ein cymunedau trwy un o'r gaeafau caletaf rydyn ni wedi'u hwynebu.
"Rydym yn edrych ymlaen at archwilio sut y gallai hyn edrych yn ymarferol dros yr wythnosau nesaf drwy graffu ar gyllideb Llywodraeth Cymru ac ymgysylltu 芒 sefydliadau arbenigol allanol gan gynnwys Canolfan Llywodraethiant Cymru."
Mae disgwyl i gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023/24 gael ei chyhoeddi ar 13 Rhagfyr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2022