Angen creu 'siop un stop' iechyd meddwl i bobl ifanc
- Cyhoeddwyd
Pan oedd Ruben Kelman, sy'n 15 oed, angen help oherwydd problemau iechyd meddwl dywedodd ei fod yn cael "ei wthio o gwmpas" ac yn ei ffeindio'n anodd derbyn y gefnogaeth roedd ei angen.
Yn 2020 roedd amgylchiadau personol yn golygu bod Ruben yn teimlo ei fod "mewn lle isel iawn, iawn, yn bryderus ac o dan straen".
Dywedodd fod ceisio cael cymorth yn gwneud iddo deimlo'n fwy pryderus fyth.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi comisiynu adolygiad cenedlaethol o wasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc.
'Dim strategaeth'
"Roedd yn teimlo fel nad oedd pobl yn poeni amdana i ac nad oedden nhw'n poeni am fy nheimladau - fel taswn i ddim gwerth eu hamser," meddai Ruben.
"Byddwn i'n mynd i un lle am bedair wythnos cyn i'r cyfnod ddod i ben.
"Yna byddwn i'n mynd i rywle arall a byddwn i'n cael gwybod nad oeddwn yn gymwys, neu roedden nhw'n dweud doedd fy iechyd meddwl ddim yn ddigon drwg iddyn nhw fy nghefnogi.
"Doedd dim strategaeth."
Yn y diwedd, cafodd Ruben yr help yr oedd ei angen arno drwy ei ysgol, ond mae nawr eisiau helpu eraill.
Felly fel aelod o Senedd Ieuenctid Cymru mae wedi gweithio ochr yn ochr ag aelodau etholedig eraill i nodi argymhellion i wella gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc.
Cafodd Senedd Ieuenctid Cymru ei sefydlu yn 2018 a'i nod yw rhoi llais i bobl ifanc. Yr aelodau presennol yw'r ail garfan o unigolion etholedig.
Un o argymhellion yr adroddiad ydy ei gwneud hi'n haws i bobl wybod lle i gael cymorth drwy greu "siop un stop" ganolog am wybodaeth, adnoddau a chefnogaeth.
Mae yna alwadau hefyd am adolygiad o Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant ac Ieuenctid (CAMHS) er mwyn lleihau amseroedd aros a gwella cefnogaeth.
'Eisiau atebion'
Dywedodd Ruben bod "llawer o'r argymhellion yr ydym wedi'u nodi yn debyg i'r rhai a nodwyd gan y Senedd Ieuenctid flaenorol, felly rydym eisiau atebion gan Lywodraeth Cymru ynghylch pam nad yw newidiadau a gwelliannau wedi'u gwneud eisoes".
Dangosodd arolwg o 3,679 o bobl ifanc a gynhaliwyd gan y Senedd Ieuenctid bod 28% yn cael trafferth gyda'u teimladau neu iechyd meddwl bob dydd - gyda'r cyfryngau cymdeithasol, arholiadau a pherthnasau 芒 ffrindiau a theulu yn ffactorau blaenllaw.
Dywedodd 24% fod yr argyfwng costau byw yn cael effaith andwyol ar eu hiechyd meddwl, a dywedodd 42% eu bod wedi cael mwy o drafferth gyda'u hiechyd meddwl yn sgil y pandemig.
Mae Ruben yn hapus gyda'r gefnogaeth mae'n ei gael gan ei ysgol - Ysgol Uwchradd Llanisien yng Nghaerdydd - sy'n cynnwys canolfan les a chynghorwyr llawn amser.
Ond yn 么l yr adroddiad does dim cefnogaeth safonol ar gael yn ysgolion a cholegau ledled Cymru, ac mae galw am newid i hyn.
Mae'r Senedd Ieuenctid eisiau gweld darpariaeth ym mhob ysgol yn gwella a mwy o gefnogaeth yn ystod cyfnod arholiadau.
Y llywodraeth 芒 'rhaglen gynhwysfawr'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry'n ni'n gwerthfawrogi'r wybodaeth yma gan y Senedd Ieuenctid am brofiadau pobl ifanc o wasanaethau iechyd meddwl.
"Mae gennym raglen gynhwysfawr o waith dros y tair blynedd nesaf i gefnogi iechyd meddwl pobl ifanc ble maen nhw'n byw eu bywydau, gan gynnwys mewn ysgolion.
"Rydyn ni hefyd wedi comisiynu adolygiad cenedlaethol o wasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng Nghymru er mwyn adnabod ble gallwn ni wella profiadau'r rheiny sydd angen cefnogaeth gyda'u lles emosiynol, ac mae disgwyl canlyniadau'r adolygiad hwnnw maes o law."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mai 2022
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd1 Awst 2022