Chwyddiant yn codi eto - ond mae rhai yn elwa
- Cyhoeddwyd
Wrth i brisiau gynyddu'n gynt nag erioed o'r blaen, mae rhai cwmn茂au yn gweld pethau'n arafu, ond i eraill mae costau uchel tanwydd yn fanteisiol.
Mae CK's Foodstores yn un o archfarchnadoedd mwyaf Cymru gyda 33 o siopau.
Maen nhw'n cyflogi dros 650 o staff ac mae'r sefyllfa bresennol wedi newid y ffordd maen nhw'n gweithredu.
Dywed y cwmni bod eu siopau bach cymunedol yn gwerthu mwy gan fod cwsmeriaid yn siopa'n lleol yn hytrach na gyrru i ganolfannau siopau mawr.
Mae ganddyn nhw fecws newydd yn eu warws yn Llanelli - yn y flwyddyn ddiwethaf mae pris blawd a llaeth wedi codi 35% ac wyau 20%.
"Mae'n takings ni lan," meddai Melanie Jenkins, rheolwraig siop CK's ym Mhontyberem, Sir G芒r.
"Mae pobl yn dod i'r siop i sefyll yn local yn lle mynd i Lanelli a Chaerfyrddin i siopa."
Chwyddiant ydy'r cynnydd ym mhris rhywbeth dros gyfnod o amser.
Yn 么l ffigyrau gafodd eu cyhoeddi ddydd Mercher, ym mis Hydref roedd prisiau 11.1% yn uwch na 12 mis cyn hynny, wrth i filiau ynni yrru'r gyfradd chwyddiant.
Ers misoedd mae costau byw wedi codi i'w lefel uchaf ers 40 mlynedd, gyda'r cynnydd mwyaf ym mhrisiau bwyd ac ynni.
Llai o elw i eraill
I eraill dyw'r cynnydd mewn costau ddim yn newyddion cystal.
Mae Caffi Cwtch ym Mhontyberem yn rhan o Fenter Iaith Cwm Gwendraeth.
Yn 么l John Derik Rees o'r fenter mae pris "popeth" wedi cynyddu.
"Ni wedi codi ein prisiau ychydig bach ond ddim byd o'i gymharu 芒 beth i ni'n talu mas am y bwyd," meddai.
"Felly ni ddim yn gwneud lot o elw achos ni ddim eisiau rhoi ein prisiau lan a rhoi e ar y cwsmeriaid."
Un o gwmn茂au eraill y pentref yw cwmni tacsis 'Call a Cab'. Mae chwyddiant a chostau tanwydd wedi taro eu helw gan olygu 25% yn llai o arian.
"Ni'n syffro dal ar 么l Covid," meddai un o'r perchnogion Gareth Williams.
"Mae'r contracts ni gyda'r ysgolion yn good, ond mae rhai weekend sef private hire - dydi hwnna ddim yn 么l yw beth oedd e. Dyw pobl ddim yn mynd mas gymaint."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2022