Diweithdra ar ei lefel isaf yng Nghymru ers 1974
- Cyhoeddwyd
Mae lefel diweithdra yng Nghymru wedi gostwng i'w lefel isaf ers 1974, yn 么l y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Roedd 50,000 o bobl (3.3%) yn ddiwaith rhwng Mehefin ac Awst, sydd 8,000 yn is nag yn y tri mis blaenorol, a 13,000 yn is na'r un cyfnod y llynedd.
Mae'r raddfa diweithdra o 3.3% yng Nghymru yn cymharu 芒 3.5% dros weddill y DU.
Ond mae nifer y bobl mewn gwaith yng Nghymru hefyd wedi gostwng.
Cyflogau gweithwyr
Rhwng Mehefin ac Awst roedd 25,000 yn llai o bobl mewn gwaith yng Nghymru o'i gymharu 芒'r tri mis blaenorol, a 45,000 yn is na'r un cyfnod y llynedd.
Y rheswm am hyn yw bod yna fwy o bobl sydd un ai ddim ar gael i weithio neu ddim yn gallu gweithio.
Yn 么l ffigyrau'r ONS mae yna wahaniaeth pendant rhwng cyflogau yn y sector cyhoeddus o'i gymharu 芒'r sector preifat.
Mae cyflogau yn y sector cyhoeddus wedi codi 2.2% o'i gymharu 芒 6.2% yn y sector preifat.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Awst 2022