Costau byw: Sut i leihau biliau nwy a thrydan
- Cyhoeddwyd
Gyda phrisiau ynni'n codi i filiynau o bobl ar draws Prydain, mae 'na bryder fydd mwy o bobl yn methu talu biliau ac yn mynd i ddyled.
Daeth y cap diweddaraf ar brisiau ynni i rym ar draws y DU ddydd Sadwrn 1 Hydref. Yn achos defnyddwyr domestig sy' ddim ar delerau sefydlog, mae'n golygu cost ar gyfartaledd o tua 拢2,500 y flwyddyn i'r cartref arferol - cynnydd o 27% - ond mae'r gwir filiau'n dal yn dibynnu ar faint o ynni y mae pob cwsmer yn ei ddefnyddio.
Un sy'n cynnig help i bobl ar fudd-daliadau yng Ngwynedd yw Meilyr Tomos sy'n gweithio i Y Dref Werdd ym Mlaenau Ffestiniog, prosiect sy'n taclo tlodi tanwydd ac yn cynnig cyngor am leihau defnydd ynni.
Yma, Meilyr sy'n egluro am y sefyllfa yno a'r trafferthion mae rhai yn ei wynebu, gan gynnig cyngor am sut i leihau biliau egni:
Sefyllfa yng Ngwynedd
Mae cysyniad y cap ar brisiau yn anodd i'w ddeall gan mai cap cyfartalog ydi o ac mae amgylchiadau pawb mor wahanol. Mae rhai efo nwy rhwydwaith, rhai heb, rhai yn dal i ddefnyddio paraffin heaters yn Blaenau. Felly mae'n anodd rhoi ffigwr ar lle fyddan ni erbyn y gaeaf.
Mae nwy dal hanner y pris y cilowat i gymharu efo trydan. 'Does gan cyrion ein pentrefi ni a'r ardaloedd gwledig yng Ngwynedd ddim nwy - maen nhw'n ddibynnol ar olew, LPG neu trydan i gynhesu a dyw olew a LPG ddim yn cael ei rheoleiddio gan Ofgem felly does dim cap.
Mae'r bobl sy'n defnyddio'r tanwydd hynny, mae eu prisiau nhw wedi neidio fyny dros nos.
Mae 'na dipyn o dai cymdeithasol yng Ngwynedd yn cael eu cyflenwi efo olew neu LPG a trydan. Mae lot ohonyn nhw yn Blaenau. Mae costau byw t欧 sy'n cael ei gynhesu gan drydan o leiaf tua 拢500 y flwyddyn yn fyw - does dim adlewyrchiad o hynny yn y system fudd-daliadau.
Y pobl sy' wedi copio fo yn syth yw'r pobl mwyaf bregus - y rhai sy'n talu efo prepayment meters. Dydyn nhw ddim yn cael cynnig y fixed deals gan y cwmn茂au ynni. Mae'r ystod o tariffs alli di ddewis os ti'n talu drwy prepayment yn fach iawn.
Sut all bobl gadw biliau trydan a nwy i lawr? Newid ymddygiad
Rhowch y thermostat i lawr un gradd.
Defnyddiwch technoleg sy'n rhaglenni'r gwers i ddod ymlaen ar amser penodol, yn sicr yn y bore. O ran seicoleg y peth os ti'n deffro a'r t欧 yn gynnes, mae'n oce. Beth sy'n gallu digwydd yw mae pobl yn deffro i d欧 oer ac yn troi pob gwres ymlaen ac yn gwastraffu gwres fel hynny.
Cofiwch gau drysau a defnyddiwch rhimynnau drafft (draught excluders).
Paneli solar - ystyriwch gyplysu'r system efo batris - pan mae'n dod i 4.30 y prynhawn, sef y cyfnod mwyaf prysur o ran ynni, mae'n bosib symud drosodd i ddefnyddio trydan wrth y batri. Mae'n costio dros 拢6k i osod system felly yn y t欧.
Gosodwch ddefnydd inswleiddio eich hunain - mae r么l yn costio tua 拢20. Mae angen tua 250mm o inswleiddio yn y to. Os ydy'r defnydd inswleiddio yn hen, bydd llwch wedi disgyn arno a'i wasgu i lawr. Os chi'n ffit yn gorfforol ac yn defnyddio crawl boards, mae'n werth cael golwg yn yr atig ac ystyried lluchio 100mm ar ei ben o. Mwy pwysig fyth - os oes gyda chi aelodau o'r teulu sy'n h欧n a'n defnyddio lot o wres, ystyriwch gwneud hynny iddyn nhw.
Coginio - defnyddiwch popty araf (slow cooker) neu'r popty ping. Popty araf yw'r ffordd rhataf o goginio unrhyw beth. Yn aml mae'r bwyd sy'n rhad yn yr archfarchnad yn fwyd ti'n cynhesu yn y popty fel sglodion wedi rhewi, pizza, lasagne parod. Yn aml iawn mae'r bwydydd yma angen bod yn y popty am 40 munud i awr. Os ydy popty yn defnyddio 2 cilowatt 'neith o gostio 拢1 i goginio'r bwyd hynny am awr.
Oes 'na un peth hawdd gallai pawb fod yn gwneud?
Mesurydd clyfar (smart meter) - tu 么l i'r sgrin fach mae 'na safle we lle mae'r gwybodaeth am eich defnydd ynni llawer mwy manwl. Dyna'r math o addysgu ein hunain 'da ni angen gwneud.
Os ydy chi'n cael trafferth talu biliau:
Mae gan pob gwmni ynni gronfa ar gyfer pan chi mewn dyled.
Ac mi fydd darpariaethau ar gael trwy banciau bwyd neu cwmniau yn y sector - ewch at eich awdurdod lleol am gyngor pellach. Mae gan pob awdurdod lleol gyngor ar-lein fel yr adran
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig .
Mae Cymru Fyw eisiau clywed sut mae'r cynnydd mewn prisiau a chostau byw wedi effeithio arnoch chi.
Ydych chi wedi gorfod addasu y ffordd yr ydych chi'n siopa, gymdeithasu neu agwedd arall o'ch bywyd?
Rhannwch eich profiadau gyda ni ac fe fyddwn yn cyhoeddi detholiad o'r straeon ar Cymru Fyw. E-bostiwch: cymrufyw@bbc.co.uk