Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Proclamasiwn i'r Brenin Charles III yng Nghaerdydd
Roedd disgwyl miloedd o bobl yng nghanol Caerdydd ddydd Sul wrth i'r Brenin Charles III gael ei gyhoeddi'n Frenin yn swyddogol yng Nghymru.
Cafodd y cyhoeddiad yn cael ei wneud yng Nghastell Caerdydd, gyda nifer o westeion pwysig yn bresennol.
Daeth y Brenin Charles III i'r orsedd ar 么l marwolaeth ei fam, Elisabeth II, yn Balmoral ddydd Iau.
Cafodd ei gyhoeddi yn sofran newydd mewn seremoni ym Mhalas St James ddydd Sadwrn.
Trefn y dydd
Am 11:25 fe orymdeithiodd Warchodlu Cyhoeddi o 26 o ddynion y trydydd Bataliwn y Cymry Brenhinol a Band y Cymry Brenhinol o Neuadd y Ddinas i Gastell Caerdydd.
Fe alwodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ar Herodr Cymru - Thomas Lloyd OBE - i ddarllen y Cyhoeddiad yn Saesneg am hanner dydd. Arglwydd Is-Gapten De Morgannwg - Mrs Morfudd Meredith - wnaeth ei ddarllen yn Gymraeg.
Dywedodd Mrs Meredith: "Mae'n fraint ac yn anrhydedd i mi fod yn ei wneud ac yn amlwg mae'n achlysur hanesyddol.
"Rwy'n ymwybodol iawn o hanes y Cyngor Derbyn sy'n dyddio yn 么l i gyfnod y Normaniaid."
Wrth fynegi barn ar y brenin newydd, ychwanegodd: "Rhaid i mi ddweud ei fod yn gydwybodol iawn.
"Mae'r hyn y mae wedi'i wneud dros Gymru gyda'i elusennau yn wych. Rydyn ni'n ddiolchgar iawn iddo am yr hyn mae'n ei wneud yn gyffredinol."
Cafodd gynnau eu tanio 21 o weithiau yn dilyn y darlleniadau, a bydd God Save the King a Hen Wlad Fy Nhadau yn cael eu canu wedi hynny.
Roedd yr un Cyhoeddiadau'n digwydd yng Nghaeredin a Belfast hefyd.
Trefn y dydd:
- 10:00 - Aelodau'r cyhoedd yn cael mynd i mewn i'r castell;
- 10:45 - Aelodau milwrol i sefyll ar hyd y llwybr o'r bont godi i dir y par锚d;
- 11:25 - Gorymdaith y Gwarchodlu Cyhoeddi o Neuadd y Ddinas i'r castell;
- 12:00 - Darllen y Proclamasiwn.
Cau'r strydoedd
Ymhlith y gwesteion a wahoddwyd i'r castell mae holl Aelodau'r Senedd, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a rhai o brif aelodau'r Fyddin, y Llynges a'r Awyrlu.
Mae Maer Dinas a Sir Caerdydd hefyd yn bresennol. Dywedodd Cynghorydd Graham Hinchey: "Rwy'n meddwl y bydd yn achlysur arbennig iawn ond hefyd yn achlysur difrifol iawn, ac yn achlysur trist oherwydd marwolaeth y Frenhines sy'n cael ei charu'n fawr gan y genedl.
"Ond mae'n ddathliad hefyd o'r Brenin newydd. Rwy'n credu bod pobl yn chwilio am obaith ar 么l y pandemig ac rwy'n credu bod rhai o syniadau Charles ddaeth o'i araith gyntaf fel Brenin wedi cael eu derbyn yn dda gan y genedl."
Gwahoddwyd tua 2,000 o aelodau'r cyhoedd hefyd, ac roedd mynediad i'r castell ar sail y cyntaf i'r felin.
Mae holl ffyrdd canol dinas Caerdydd ar gau rhwng 07:00 a 14:00.
Mae awdurdodau lleol ar draws Cymru yn cynnal seremon茂au cyhoeddi yn ystod y dydd hefyd.
Yn dilyn y seremoni yn y castell, mae Aelodau'r Senedd yn dychwelyd i Fae Caerdydd i dalu teyrnged i'r Frenhines yn ystod sesiwn arbennig am 15:00.