Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Lefel diweithdra yng Nghymru yn parhau'n isel
Mae lefel diweithdra yng Nghymru yn parhau'n isel, er i nifer y bobl sydd mewn gwaith ostwng ychydig yn y tri mis hyd at Fehefin.
3.8% yw cyfradd diweithdra Cymru yn 么l y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sef yr un lefel 芒'r cyfartaledd ledled y DU.
Mae cyfanswm o 58,000 o bobl sy'n ddi-waith ac yn chwilio am swydd - cynnydd o 13,000 o'i gymharu 芒'r tri mis hyd at fis Mawrth.
Ond yng Nghymru hefyd gwelwyd cynnydd yn nifer y bobl sydd ddim yn gweithio, ond sydd ddim ar gael i weithio chwaith.
Gall hyn fod oherwydd sawl rheswm, fel eu bod yn s芒l, yn gofalu am rywun neu'n fyfyrwyr llawn amser.
O ganlyniad roedd 7,000 yn llai o bobl mewn gwaith yng Nghymru ym mis Mehefin o'i gymharu 芒 mis Mawrth.
Ledled y DU, mae'r ffigyrau'n dangos fod t芒l gwirioneddol yn gostwng yn gynt nag erioed.
Mae cyflogau, pan yn cael eu cymharu 芒 phrisiau cynyddol, wedi gostwng 3% mewn blwyddyn yn 么l y Swyddfa Ystadegau.