91热爆

Nifer y bobl ddi-waith ar gynnydd yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Canolfa waith
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed yr ONS fod gan Gymru gyfradd ddiweithdra o 3.8%, sydd 0.8% yn fwy na'r tri mis cyn hynny

Mae nifer y bobl ddi-waith yng Nghymru wedi cynyddu yn ystod y tri mis hyd at ddiwedd Mai, yn 么l data diweddaraf.

Dywed y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) bod 58,000 o bobl yn ddi-waith yn ystod y cyfnod hwnnw, sef cynnydd o 13,000 ar y chwarter blaenorol.

Roedd gan Gymru gyfradd ddiweithdra o 3.8%, sydd 0.8% yn fwy na'r tri mis cyn hynny.

Dyma'r cynnydd chwarterol mwyaf yn y gyfradd ddiweithdra ers Tachwedd 2020.

Swyddi gweigion hefyd wedi codi

Yn y tri mis hyd at fis Mai eleni disgynnodd y gyfradd gyflogaeth 0.5 pwynt canran ar y chwarter, gan roi cyfradd cyflogaeth o 73.7% i Gymru.

Ar draws y DU cynyddodd y gyfradd cyflogaeth 0.4 pwynt canran ar y chwarter i 75.9%, ond mae'n parhau i fod yn is na'r lefelau cyn-bandemig.

Mae nifer y swyddi gweigion ar draws y DU hefyd wedi codi i 1,294,000, sef cynnydd o 6,900 ar y chwarter blaenorol.

Dywedodd yr ONS mai rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2022 y gwelwyd y cynnydd mwyaf mewn swyddi gweigion mewn llety a gweithgareddau gwasanaeth bwyd, tra bu gostyngiadau mewn swyddi gweigion mewn meysydd fel masnach cyfanwerthu a manwerthu.

Dadansoddiad Gohebydd Busnes 91热爆 Cymru, Huw Thomas

Daw'r cynnydd bychain mewn diweithdra yng Nghymru ar adeg o ansicrwydd economaidd, er bod y farchnad swyddi yn parhau i fod yn weddol gadarn.

Mae llawer o gyflogwyr yn parhau i dynnu sylw at y frwydr i recriwtio ymgeiswyr addas i lenwi eu swyddi gwag.

Mae costau byw cynyddol hefyd yn golygu bod cyflogwyr yn aml yn talu cyflogau uwch i'r rhai maent yn llwyddo i'w recriwtio, gyda chostau uwch yn anochel wedyn yn cael eu trosglwyddo i'w cwsmeriaid.

Mae'n dal yn aneglur a fydd y costau cynyddol a wynebir gan gyflogwyr yn effeithio'n negyddol ar y farchnad swyddi, a adlamodd yn llwyddiannus fel arall ar 么l dyddiau tywyllaf y pandemig.

Pynciau cysylltiedig