Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Sioned Erin Hughes yn ennill Medal Ryddiaith Eisteddfod Ceredigion
Mae Sioned Erin Hughes, yn 24 oed, wedi ennill y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022.
Daeth yr awdur ifanc o Foduan yn Ll欧n - gyda'r ffugenw 'Mesen' - i'r brig mewn cystadleuaeth a ddenodd 17 o ymgeiswyr.
Testun y gystadleuaeth eleni oedd cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun 'Dianc'.
Cyflwynwyd y fedal iddi, a gwobr ariannol o 拢750, mewn seremoni ar lwyfan y Pafiliwn yn Nhregaron ddydd Mercher.
Dyma'r drydedd gwaith i fenyw o L欧n ennill un o brif seremon茂au'r Eisteddfod yr wythnos hon yn dilyn llwyddiannau Esyllt Maelor a Meinir Pierce Jones.
Rhybudd: Fe allai'r cynnwys yn y rhan yma o'r erthygl beri gofid
Mewn cyfweliad deledu dirdynnol ar 么l y seremoni, fe siaradodd Sioned Erin Hughes yn agored am ei phroblemau iechyd meddwl ei hun.
Dywedodd iddi geisio cymryd ei bywyd ei hun tua 18 mis yn 么l, gan gydnabod ei bod wedi cael cyfnodau "cwbl, cwbl anobeithiol".
"O'n i'n meddwl y byswn i mewn 'sbyty meddwl am weddill fy mywyd - a heddiw dwi'n fa'ma yn brif lenor. Na'i byth arfar efo d'eud hynny," meddai.
Aeth ymlaen i ddweud, er gwaethaf llwyddiant llenorion Ll欧n yn y Brifwyl eleni, ei bod yn meddwl am deulu yn ei bro enedigol sydd wedi cael profedigaeth yr wythnos hon.
"'Da ni'n dathlu gymaint fel pobl Pen Ll欧n yma heddiw ond dwi ddim isio'r teulu yna i feddwl bod ni'n anghofio amdanyn nhw o gwbl. Dwi'n meddwl amdanyn nhw drwy'r adag," meddai.
"Mae'i 'di bod yn anodd iawn dod yma heddiw a meddwl dathlu wrth feddwl am alar pawb adra."
Ychwanegodd: "Mae'n rhaid i betha' newid efo hunanladdiad."
Pwy ydy Sioned Erin Hughes?
Graddiodd Erin - fel mae'n cael ei hadnabod - mewn Cymdeithaseg a Chymraeg ym Mhrifysgol Bangor, cyn dilyn cwrs Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol dan arweiniad yr Athro Gerwyn Wiliams.
Daeth yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed yn 2018, ond fe fethodd y seremoni oherwydd salwch.
Bryd hynny, dymunodd i'r seremoni gyfeirio at gyflwr oedd ganddi - Myasthenia Gravis - a oedd yn ei gwneud hi'n anodd os nad yn amhosib gwneud pethau o ddydd i ddydd heb y driniaeth a'r cyffuriau cywir.
Yn fwy diweddar, daeth hefyd yn ail yn y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych eleni.
Hi oedd golygydd a churadur y gyfrol Byw yn fy Nghroen, a oedd ymhlith y buddugwyr yng Ngwobrau Tir na n-Og yn 2020, ac ysgrifennodd ei llyfr cyntaf i blant, Y Goeden Hud, ar ddechrau'r cyfnod clo cyntaf.
Mae hi bellach yn gweithio'n llawrydd ac yn gobeithio troi ei llaw at fyd y ddrama a barddoniaeth yn y flwyddyn sydd i ddod.
'Aros yn stond a rhyfeddu'
Y beirniaid eleni oedd Meg Elis, Dylan Iorwerth ac Eurig Salisbury - roedd y tri yn unfrydol mai Mesen oedd yn deilwng o'r Fedal Ryddiaith.
Wrth draddodi'r feirniadaeth o'r llwyfan ar ran ei chyd-feirniaid, dywedodd Meg Elis mai "cywair tawel sydd i Mesen, a'i stor茂au dan y teitl 'Rhyngom', ar y cyfan".
"Ond mae yma rywun sy'n gwybod i'r dim sut i gyfleu cymeriad mewn ymadrodd, pryd i fod yn gynnil a phryd i ddefnyddio ambell i gymal sy'n gwneud i'r darllenydd aros yn stond a rhyfeddu," meddai.
"Cryfder Mesen yw'r gallu i daflu goleuni ar y berthynas rhwng pobl 芒'i gilydd, ac y mae wedi llwyr ddysgu'r wers y talai i lawer o'r ymgeiswyr eraill ei rhoi ar gof a chadw - 'dangos, nid dweud'.
"Casgliad Mesen yn bendant a blesiodd Eurig, tra bod Dylan yn cael ei dynnu at Mali. Roedd yng ngwaith Gwraig gymaint o nodweddion oedd yn peri pleser llenyddol i minnau.
"Ac un o bleserau cyd-feirniadu ydy'r cyfle i drafod, i ail-ddarllen ac ail-ymweld, a myfyrio dros y cynnyrch a gawsom.
"Dyna a wnaethom ni'n tri, ac mae'n dda gen i ddweud ein bod ni'n tri wedi dod i gytundeb mai, o blith y tair cyfrol a ddaeth i'r brig eleni, mai 'Rhyngom', gan Mesen, sy'n teilyngu'r Fedal yn Nhregaron eleni."