91热爆

Lefelau Covid-19 yn gostwng yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
LFTFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

O ddydd Sul bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi'r gorau i ddarparu profion llif unffordd am ddim i bobl sydd 芒 symptomau Covid

Mae nifer y bobl sydd wedi eu heintio 芒 Covid wedi gostwng yng Nghymru, yn 么l arolwg wythnosol diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Yr amcangyfrif yw bod un o bob 19 o bobl wedi cael Covid yn ystod yr wythnos hyd at 20 Gorffennaf.

Mae'r nifer sydd wedi eu heintio yn gostwng hefyd yn Lloegr a'r Alban, ond mae'r ffigwr yn ansicr yng Ngogledd Iwerddon.

Amcangyfrifir bod gan 156,200 o bobl yng Nghymru 芒 Covid yn yr wythnos ddiweddaraf, sy'n cyfateb i 5.14% o'r boblogaeth.

Mae hynny'n llai na'r wythnos flaenorol, pan amcangyfrifwyd bod gan 183,200 o bobl 芒 Covid.

Mae'r duedd wedi dechrau gostwng ar 么l aros yn gyson yr wythnos ddiwethaf. Roedd hynny'n dilyn cynnydd am chwe wythnos yn olynol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae nifer y cleifion sydd 芒 Covid mewn ysbytai yn gostwng hefyd

Mae nifer y cleifion sy'n profi'n bositif am Covid yn ysbytai Cymru wedi gostwng 25% yn yr wythnos ddiwethaf hefyd.

Mae'r mwyafrif llethol o'r rhain - tua 84% - yn yr ysbyty yn cael eu trin ar gyfer cyflwr arall.

Profion am ddim yn dod i ben

O ddydd Sul bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi'r gorau i ddarparu profion llif unffordd am ddim i bobl sydd 芒 symptomau Covid.

Dywedodd y gweinidog iechyd fod y penderfyniad yn dilyn ystyriaeth o'r dystiolaeth, gan gynnwys y gostyngiad yn nifer yr achosion.

Ychwanegodd fod hyn yn cyd-fynd 芒'r cynllun pontio hirdymor o bandemig i endemig.

"Mae hefyd yn sicrhau ein bod yn diogelu adnoddau ar gyfer tonnau posibl yn y dyfodol yn ystod yr hydref/gaeaf a allai, ochr yn ochr 芒 thywydd oerach a feirysau anadlol eraill, ddarparu heriau a risgiau ychwanegol," meddai Eluned Morgan.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae heintiau yn is yng Nghymru na'r Alban a Gogledd Iwerddon, ond yn uwch na Lloegr

Ers haf 2020 mae'r ONS wedi trefnu arolwg swab wythnosol sy'n cynnwys miloedd o gartrefi ledled Cymru.

Mae wedi dod yn fesur pwysig o lefel heintiau Covid, yn enwedig wedi i brofion eang eraill ddod i ben fis Mawrth.

Mae'r ONS yn amcangyfrif bod heintiau yn is yng Nghymru na'r Alban a Gogledd Iwerddon, ond yn uwch na phob rhanbarth yn Lloegr ar wah芒n i'r gogledd-orllewin.

Mae lefelau'r haint ar eu huchaf ymhlith pobl yn eu 50au canol, ac ar eu hisaf ymhlith pobl h欧n yn eu 80au.

Bydd rhai pobl yn dal yn gymwys i dderbyn profion llif unffordd neu PCR am ddim, er enghraifft os ydynt yn ymweld 芒 chartrefi gofal, yn dangos symptomau tra'n aros mewn cartref gofal neu yn y carchar, neu os ydynt yn staff iechyd a gofal cymdeithasol.

Bydd cynllun Ychwanegiad at D芒l Salwch Statudol Covid-19 hefyd yn cael ei ymestyn tan ddiwedd mis Awst er mwyn cefnogi staff gofal cymdeithasol i aros i ffwrdd o'r gwaith os ydynt wedi cael prawf positif.