Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Rhybudd ac ap锚l gan deulu bachgen fu farw yn Afon Taf
Mae teulu bachgen 13 oed a fu farw yn Afon Taf yn poeni y bydd rhagor o ddigwyddiadau tebyg.
Bu farw Aryan Ghoniya ym mis Mehefin ar 么l mynd i drafferthion yn yr afon tra'n chwarae gyda'i ffrindiau.
Roedd tad un o'i ffrindiau wedi ceisio'i achub, ond cafodd ei rwystro rhag gwneud hynny gan sbwriel, yn cynnwys trol茂au siopa, yn y d诺r.
Mae ei deulu'n galw am lanhau'r afon er mwyn helpu i atal digwyddiadau o'r fath.
Bachgen disglair
O'i gymharu 芒 gweddill y DU, mae bron i ddwywaith cymaint o bobl yn boddi yng Nghymru, yn 么l ffigyrau diweddar.
Mewn cyfweliad gyda 91热爆 Cymru dywedodd teulu Aryan, a oedd yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Radur, ei fod yn fachgen disglair a hynod alluog, a oedd yn ceisio cyflawni record byd am gwblhau'r Rubik's cube.
Dywedodd Vimla Patel, perthynas i'r teulu: "Mae'n amser anodd iawn i'r teulu yn eu galar, yn enwedig i'w rieni Hina a Jitu a'i chwaer Naviya.
"Ond ar adegau fel hyn yr ydym yn gweld y daioni mewn pobl a chymunedau."
Mae teulu Aryan yn erfyn ar blant i beidio cael eu temtio i nofio yn ystod tywydd poeth.
"Roedd Aryan fel unrhyw fachgen ifanc arall - cariadus, gofalgar ac anturus. Mae ei farwolaeth drasig tra'n nofio yn Afon Taf wedi chwalu ein teulu a'r gymuned," meddai Ms Patel.
"Mae ei rieni a'r teulu yn dal i geisio dod i delerau 芒'r drasiedi hon ac yn cynghori pawb i fod yn ofalus tra'n nofio mewn dyfroedd sydd ddim yn adnabyddus iddyn nhw, yn enwedig os nad oes achubwyr bywyd yn goruchwylio."
Ychwanegodd Ms Patel fod y teulu'r crefu ar eraill i beidio nofio mewn afonydd neu leoliadau anniogel eraill er mwyn osgoi mynd drwy'r "gofid a'r boen" y maent wedi'i ddioddef.
"Rydym yn ofni nad marwolaeth Aryan fydd yr olaf."
Yn ystod agoriad y cwest i farwolaeth Aryan, clywodd Llys Crwner Pontypridd bod archwiliad post-mortem yn nodi "tansuddiad" (immersion) fel achos marwolaeth rhagarweiniol.
Clywodd y cwest fod ffrindiau'r bachgen wedi ffonio 999.
Ym mis Mai, bu farw Kane Edwards, 13 oed, ar 么l mynd i drafferthion yn Afon Tawe, Abertawe.
Ar gyfartaledd mae tua 45 o bobl yn marw yng Nghymru bob blwyddyn mewn digwyddiadau'n ymwneud 芒 d诺r, gyda chyfartaledd o 600 o bobl ar draws y DU, yn 么l ffigyrau Diogelwch D诺r Cymru.
Mae nifer anghymesur o uchel o bobl yn boddi'n ddamweiniol yng Nghymru a'r Alban o ystyried poblogaeth y ddwy wlad, yn 么l Strategaeth Atal Boddi y DU.
Mae hyn yn rhannol oherwydd twristiaeth a nifer y bobl sy'n byw yn ymyl d诺r.
Mae'r strategaeth yng Nghymru'n datgan: "Mae'r raddfa sy'n boddi yng Nghymru bron i ddwbl graddfa'r DU."
Yn 2018, bu farw mwy o bobl trwy foddi damweiniol na mewn tanau, damweiniau beicio a beic modur, neu ddamweiniau yn y gweithle, yn 么l y ddogfen.
Mae teulu Aryan wedi galw am wella diogelwch yng Nghymru.
Meddai Ms Patel: "Byddai'r teulu'n hoffi gweld newidiadau a mesurau diogelwch ychwanegol yn dod i mewn ger afonydd a dyfroedd eraill. Byddwn hefyd yn hoffi gweld arwyddion addas ger yr afon."
Mae'r teulu hefyd wedi datgelu'r ymdrechion a wnaed i achub Aryan.
"Neidiodd tad ffrind Aryan i'r d诺r i'w achub ond daeth ar draws llawer o sbwriel yn Afon Taf megis trol茂au, olwynion a darnau metel," meddai Ms Patel.
"Hoffem ofyn i'r cyhoedd beidio taflu eitemau o'r fath i'r afon ac i'r awdurdodau lanhau'r afon mewn ymdrech i achub bywydau."
Mae'r teulu'n dymuno gweld rhieni ac ysgolion yn helpu pobl ifanc i ddeall y peryglon o nofio mewn mannau anniogel, ac i ysgolion wneud mwy i ddysgu pob plentyn i nofio.
Nod Strategaeth Atal Boddi Cymru 2020-2026 ydy haneru nifer y marwolaethau trwy foddi damweiniol erbyn 2026.
Mae'r corff hefyd yn chwarae rhan mewn darparu gwybodaeth ddwyieithog am ddiogelwch d诺r mewn cymunedau lle mae'r Gymraeg yn iaith gyntaf.