Ymgyrch mam i atal mwy rhag boddi drwy osod offer achub
- Cyhoeddwyd
Bydd ymgyrch mam i leihau nifer y bobl sy'n boddi mewn llynnoedd neu gronfeydd d诺r ar ddamwain yn cael ei thrafod gan wleidyddion.
Bu farw Mark Allen wedi iddo neidio i gronfa dd诺r er mwyn oeri ar ddiwrnod crasboeth yn haf 2018.
Mae ei fam Leeanne Bartley am i orsafoedd cortynnau taflu gael eu gosod wrth bob llyn.
"Petai offer achub wedi bod wrth y gronfa lle boddodd Mark, mae yna bosibilrwydd cryf y byddai'n fyw heddiw", meddai ei fam.
Mae 400 o bobl yn boddi'n ddamweiniol yn y DU bob blwyddyn - mae'r nifer ar gyfartaledd yng Nghymru yn 45.
'Diwrnod chwerwfelys'
Mae : "Rydym ni, teulu a ffrindiau Mark, o'r farn y dylai fod yn gyfraith gwlad i osod cortynnau taflu fel y rheiny a osodwyd lle bu farw Mark, mewn lleoedd dynodedig o amgylch pob cronfa dd诺r, llyn, camlas ac ati.
"Wrth siarad 芒 phobl sy'n gweithio ym maes diogelwch d诺r, e.e. gwasanaethau t芒n ac ati, mae cortynnau o'r fath wedi achub llawer o fywydau."
Mae deiseb arall a fydd yn mynd ger bron Llywodraeth y DU wedi denu degau o filoedd o gefnogwyr.
Fe foddodd Mark wedi iddo neidio i Gronfa Gorton ger Parc Debdale ym Manceinion ym Mehefin 2018. Er bod hi'n ddiwrnod poeth, roedd y d诺r yn oer ac fe aeth y myfyriwr i drafferthion.
Ddydd Llun fe fydd Leeanne Bartley yn cyflwyno tystiolaeth ger bron y Senedd ac mae'n gobeithio y bydd ei hymgyrch i sicrhau gorsafoedd cortynnau taflu yn dod yn gyfraith gwlad.
"Mae'n amlwg yn ddiwrnod chwerwfelys ond yn ddiwrnod hynod o bwysig," medd Ms Bartley, o Ruthun.
"'Da ni am gadw enw Mark yn fyw, gwneud rhywbeth positif a helpu rhywun arall rhag colli ei fywyd.
"Dydy hi ddim yn rhywbeth anghyffredin i bobl ifanc fynd i nofio mewn d诺r agored gan nad ydynt yn ymwybodol o'r peryglon.
"Doedd yna ddim offer o gwbl o gwmpas y diwrnod bu farw Mark. Petai rhaff wedi bod yno byddai un o'i ffrindiau wedi gallu ei dynnu o'r d诺r a phetai wedi cael CPR efallai y byddai o hefo ni heddiw."
Ers marwolaeth Mark, mae gorsaf cortyn brys wedi'i gosod yn agos i'r llyn lle bu farw - ar gost o ryw 拢250.
"Dwim yn meddwl bod hi'n ormod i ofyn bod offer a all achub bywyd yn cael ei osod ger d诺r agored," medd Ms Bartley.
"Mae diffibrilwyr yn cael eu gosod mewn nifer o gymunedau gan eu bod yn gallu achub bywydau - ac mae'r rhain yn gweithio yn yr un ffordd. Mae unrhyw beth sy'n gwella'r siawns o achub bywyd yn syniad da."
Mae Strategaeth Atal Boddi y DU a gafodd ei ffurfio yn 2016 yn ceisio lleihau nifer y bobl sy'n boddi drwy gynyddu ymwybyddiaeth plant am ddiogelwch yn y d诺r.
Ond mae Ms Bartley am i orsafoedd cortynnau taflu fod yn orfodol yn ymyl llynnoedd a chronfeydd. Mae 110,000 wedi arwyddo deisebau a fydd yn mynd ger bron llywodraethau Cymru a'r DU.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2019