Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Eisteddfod 2022: Cyflwyno Medal Goffa Daniel Owen
Seremoni Medal Goffa Daniel Owen fydd prif ddefod llwyfan y pafiliwn yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion ddydd Mawrth.
Mae'r wobr yn cael ei rhoi am nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn stor茂ol cryf heb fod yn llai na 50,000 o eiriau.
Os fydd teilyngdod, bydd y nofelydd buddugol yn ennill medal a 拢5,000 yn rhoddedig gan Gr诺p Cynefin.
Y beirniaid eleni yw Emyr Llywelyn, Ioan Kidd a Manon Steffan Ross.
Yn wahanol i ddefodau y Coroni a'r Cadeirio fe gafodd y cyfansoddiadau ar gyfer Medal Daniel Owen eu cyflwyno yn benodol ar gyfer cystadleuaeth 2022.
Fe wobrwywyd y rhai a gyflwynwyd yn wreiddiol ar gyfer Eisteddfod 2020 y llynedd gan fod y trefnwyr eisoes wedi derbyn y beirniadaethau ar gyfer y wobr n么l ar ddechrau 2020 a merch o Geredigion a enillodd.
Enillodd Lleucu Roberts y wobr am ei nofel 'Hannah-Jane' - sef, yn 么l y beirniaid, "stori bur gonfensiynol, gymunedol a chysurus" am "hen wreigan gysetlyd", ond sy'n amlygu "dyfnder aeddfetach a hwnnw'n un digon dirdynnol ar brydiau".
Er bod cystadlaethau gwreiddiol Eisteddfod 2020 wedi'u gohirio tan eleni penderfynwyd gwobrwyo cyfansoddiadau buddugol Daniel Owen a'r Fedal Ryddiaith yn 2021 er mwyn cefnogi'r diwydiant llyfrau yn ystod cyfnod anodd.
Gan nad oedd Eisteddfod yn 2020 doedd yna ddim cyfrolau buddugol i'w cyhoeddi.
Ym mis Chwefror 2021 dywedodd y Cyngor Llyfrau bod colli cyfrolau'r Eisteddfod - Y Rhaglen, Y Cyfansoddiadau, Y Fedal a'r Daniel Owen - wedi costio oddeutu 拢100,000 i'r diwydiant llyfrau yn ei gyfanrwydd yn 2020.
Fe fydd y seremoni yn cael ei chynnal am 15:00 yn y pafiliwn - fydd yr orsedd ddim yn rhan o'r seremoni.