91热爆

'Colli cyfrolau'r Eisteddfod yn costio tua 拢100,000'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
eisteddfod
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gohirio'r eisteddfod eto yn golygu y bydd bwlch o dair blynedd rhwng eisteddfodau Llanrwst a Thregaron

Dywed Cyngor Llyfrau Cymru bod colli'r pedair cyfrol wreiddiol a gyhoeddir ar gyfer yr Eisteddfod - Y Rhaglen, Y Cyfansoddiadau, Y Fedal a'r Daniel Owen - wedi costio oddeutu 拢100,000 i'r diwydiant llyfrau yn ei gyfanrwydd y llynedd.

Ddiwedd Ionawr fe gafodd y brifwyl ei gohirio am yr eildro wedi "nifer o drafodaethau" o ganlyniad i'r pandemig.

Yn y cyfamser dywed llenorion bod gohirio'r Brifwyl am ddwy flynedd yn effeithio ar lenyddiaeth yng Nghymru hefyd.

Mae'r llenor Karen Owen yn galw ar yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron i "adlewyrchu amrywiol brofiadau'r pandemig ond mewn ffordd ddyrchafol".

Daw ei sylwadau mewn trafodaeth rhyngddi hi a'r Prifardd Gerwyn Wiliams am effaith gohirio'r brifwyl ar gynhyrchion llenyddol.

Mae cyfansoddiadau llenyddol Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion wedi bod yn swyddfa'r eisteddfod ers Ebrill 2020, y cynigion ar gyfer y fedal ryddiaith ers Rhagfyr 2019 a'r nofelau ar gyfer Gwobr Goffa Daniel Owen ers Hydref 2019.

'Angen adlewyrchu profiadau'r cyfnod clo'

"Mae yna aml wedd ar y pandemig na ddylai Eisteddfod Ceredigion eu hanwybyddu. Mae angen i'r pandemig fod ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron ond ddim mewn ffordd negyddol - yn hytrach mewn ffordd ddyrchafol," medd Karen Owen.

Ffynhonnell y llun, Karen Owen
Disgrifiad o鈥檙 llun,

'Rhaid edrych ar effaith y pandemig ar Gymru a'r byd yn ehangach,' medd Karen Owen

"Dwi o blaid cael lle penodol i drafod, i ymateb ac i edrych yn 么l ar agweddau o'r pandemig - yr unigrwydd, yr ansicrwydd, colledion personol, y rhwystrau - nid edrych yn unig ar yr hyn sydd wedi digwydd yng Nghymru ond ar hyd a lled y byd.

"Byddai'n dda cael llwyfan penodol a chael cerddorion ac artistiaid yn rhan o'r peth fel ein bod ni gyd yn gallu adlewyrchu pwy 'dan ni a be 'dan ni wedi bod drwyddo."

Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, y byddan nhw yn sicr yn trafod awgrym Karen Owen a'u bod yn ymwybodol o effaith gohirio'r Eisteddfod ar lenyddiaeth.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Enillodd Eluned Phillips y goron am ysgrifennu pryddest ar ryfel y Falklands

Yn y sgwrs ar raglen Dei Thomas mae Karen Owen a Gerwyn Wiliams yn cydnabod nad yw cyfansoddiadau yr Eisteddfod Genedlaethol o reidrwydd yn adlewyrchu amgylchiadau cyfoes - mae hynny'n ddibynnol ar destunau, llenorion a chwaeth y beirniaid.

Ond mae'r Eisteddfod, meddent, yn sefydliad sydd wedi ysbrydoli awdlau a phryddestau cwbl gyfoes sy'n ymateb i "gyflwr y genedl".

"Dyna wnaeth pryddest Eluned Phillips yn 1983 wrth iddi ysgrifennu am ryfel y Falklands," medd Gerwyn Wiliams ac yn ystod y drafodaeth mae yna gyfeiriadau at bryddest T. James Jones yn ymateb i bleidlais '79 ar ddatganoli (pryddest anfuddugol am ei fod wedi mynd yn groes i'r rheolau), pryddest ddadleuol John Roderick Rees am dai haf yn Eisteddfod Llanbed ac awdl Cilmeri, Gerallt Llwyd Owen yn 1982.

"Yn awdl Cilmeri roedd y bardd yn lladmerydd ar ran y genedl - dyna ddylai bardd ei wneud drwy'r flwyddyn, wrth gwrs, ond mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn gallu bod yn sbardun," medd Karen Owen.

"Roedd pryddest T. James Jones - a dorrodd y rheolau am ei bod yn ffrwyth llafur dau fardd - yn gerdd ysol o gyfoes, yn berthnasol ac yn enghraifft eithafol o fardd yn ymateb ar y pryd ac yn fodlon torri'r rheolau er mwyn cael sylw i'w ymateb.

"Mi fuasai'n dda cael llwyfan yn Nhregaron i fynegi syniadau a theimladau cyfoes yn sgil y pandemig. Dwi gant y cant o blaid hynny. Mae yna ryw chwithdod fod yna fwlch o ddwy flynedd heb gyfansoddiadau ac ry'n yn cydymdeimlo gyda'r Eisteddfod mewn sefyllfa amhosib," ychwanegodd Gerwyn Wiliams.

'Lle amlwg i ganu y cyfnod clo'

Ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol dywedodd y Prif Weithredwr Betsan Moses: "Ry'n ni'n gwerthfawrogi effaith gohirio'r Eisteddfod am flwyddyn arall ar lenyddiaeth, fel ar bob elfen o'r celfyddydau. Ry'n ni'n trafod elfen gystadleuol Eisteddfod AmGen ar hyn o bryd ac yn edrych ymlaen at gyhoeddi manylion cyn bo hir.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd y Brifwyl yn iscr o draafod awgrym Karen Owen, medd y Prif Weithredwr Betsan Moses

"Byddwn yn sicr o drafod awgrym Karen Owen i roi lle amlwg i drafod a chanu am y cyfnod clo ar y Maes yng Ngheredigion y flwyddyn nesaf, pan fyddwn ni'n trafod hyd a lled y Maes a'i gynnwys.

"Yn y cyfamser, ry'n ni'n canolbwyntio ar greu rhaglen ddifyr ac amrywiol i'w ddarlledu ar draws ein platfformau digidol, gan adeiladu ar lwyddiant Eisteddfod AmGen y llynedd."

Ymateb y Cyngor Llyfrau

Wrth drafod gohirio'r Eisteddfod Genedlaethol ar y diwydiant llyfrau dywedodd Cyngor Llyfrau Cymru eu bod yn "llawn edmygedd o'r cyhoeddwyr, y siopau llyfrau, yr awduron ac eraill am greu llwyfannau ac agor ffenestri newydd ar y byd sydd wedi caniat谩u i drafod a gwerthu ddigwydd er gwaethaf y pandemig.

"Er bod colli'r Eisteddfod Genedlaethol a gwyliau tebyg yn golygu colli cyfleoedd i drafod llyfrau a llenyddiaeth, llwyddwyd i gynnig rhai gwahanol.

"Y llynedd amcangyfrifwyd bod colli'r pedair cyfrol wreiddiol a gyhoeddir ar gyfer yr Eisteddfod - Y Rhaglen, Y Cyfansoddiadau, Y Fedal a'r Daniel Owen - wedi costio o ddeutu 拢100,000 i'r diwydiant llyfrau yn ei gyfanrwydd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd gwerthiant Llyfr Glas Nebo - enillydd y Fedal Ryddiaith yn 2018 yn gryn hwb i'r diwydiant Llyfrau

"Fodd bynnag, fe barhaodd y diwydiant i ysgrifennu, cyhoeddi, trafod a gwerthu llyfrau trwy gydol y flwyddyn a fu.

"Rhan bwysig iawn o hynny oedd gwaith digidol yr Eisteddfod Genedlaethol ac rydym yn edrych ymlaen, pan ddaw'r amser, at gydweithio gyda nhw unwaith eto ar ba bynnag gynlluniau fydd ganddyn nhw i hyrwyddo'r diwydiant llyfrau dros yr haf."

Mae cyfle i wrando ar y drafodaeth yn llawn ar raglen Dei Tomos, nos Sul 7 Chwefror am 17.05.