91热爆

Cynnydd mewn galwadau i elusen iechyd meddwl i ffermwyr

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Poster Sefydliad DPJ
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae elusen Sefydliad DPJ wedi cefnogi dros 630 o bobl sydd wedi cysylltu 芒'u llinell gymorth "Rhannwch Y Baich"

Mae elusen sy'n rhoi cymorth iechyd meddwl i ffermwyr yn dweud eu bod yn gweld cynnydd yn y galw am eu gwasanaeth.

Yn y pedair blynedd ers ei sefydlu mae elusen Sefydliad DPJ wedi cefnogi dros 630 o bobl sydd wedi cysylltu 芒'u llinell gymorth 'Rhannwch Y Baich'.

Ond mae'r elusen yn dweud eu bod yn gweld mwy o alwadau am gymorth eleni o'i gymharu 芒'r un cyfnod y llynedd.

Maen nhw hefyd yn cael mwy o bobl wedi'u cyfeirio atyn nhw ar gyfer eu gwasanaeth cwnsela.

Mwy yn cysylltu mewn argyfwng

Yn 么l rheolwr yr elusen, Kate Miles, mae modd gweld y cynnydd yn y galw fel peth positif a negatif.

Mae mwy o bobl yn barod i geisio cymorth, ond mae'n bosib hefyd fod mwy o ffermwyr yn cael amser caled gyda'u hiechyd meddwl.

"Mae hyn yn galonogol gan ei fod yn golygu fod mwy o bobl yn estyn allan am help, a hefyd ein bod ni yn llwyddo i gyrraedd pobl sy' angen help," meddai.

Ond mae ochr llai positif i'r sefyllfa, gan fod nifer o'r bobl sydd wedi bod yn cysylltu dros y misoedd diwethaf yn achosion mwy cymhleth.

Hefyd, mae mwy o bobl bellach yn cysylltu mewn sefyllfa o argyfwng.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Mae'n bwysig bod cymorth ar gael pan bod angen arnom ni," meddai Elen Gwen Williams

Dywedodd Elen Gwen Williams, sy'n gweithio fel cynorthwyydd marchnata ac ymgysylltu gyda Sefydliad DPJ, ei bod yn allweddol fod cymorth o'r fath ar gael i bobl ym myd amaeth.

"Mae ffermwyr 'di cario 'mlaen dros y pandemig 芒'u gwaith", meddai.

"Dy'n ni methu stopio hefo stoc a chnydau, ac wrth i bethe ddod 'n么l i ryw fath o normalrwydd dy'n ni wedi cymryd cam yn 么l a dechre meddwl am ein hunain a chymryd munud i feddwl bo' ni ein hunain angen help.

"Mae pawb yn mynd trwy gyfnodau anodd yn eu bywydau, ac mae'n bwysig bod cymorth ar gael pan bod angen arnom ni."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Lowri Wyn Jones fod angen cyrraedd pobl sydd ddim yn draddodiadol yn gofyn am help

Mae gan Lywodraeth Cymru gynllun o'r enw Amser i Newid, sy'n gweithio i ddileu stigma iechyd meddwl.

Yn 么l Lowri Wyn Jones, pennaeth y rhaglen, mae angen cyrraedd pobl sydd ddim yn draddodiadol yn gofyn am help, gan gynnwys pobl o'r sector amaeth.

"Mae angen help ar bobl sy'n wynebu caledi ariannol, a hefyd problemau iechyd meddwl... yn aml ar yr un pryd," meddai.

Dywedodd y gall canlyniadau peidio 芒 cheisio cymorth fod yn drasig.

"Ry'n ni wedi gweld hyn dro ar 么l tro, ac wrth edrych ar yr ystadegau, ni'n gweld bod gwir angen g'neud rywbeth, a g'neud rywbeth gyda'n gilydd, i drio helpu."