Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ap锚l mam i ddatrys 'dirgelwch' marwolaeth mewn chwarel
Mae mam bachgen 15 oed a fu farw ar 么l syrthio mewn chwarel ym Mhont-y-p诺l wedi galw am wybodaeth er mwyn datrys y "dirgelwch" o ran beth yn union ddigwyddodd iddo.
Bu farw Myron Davies, oedd yn byw yn y dref, tua 18:30 brynhawn Mercher 6 Gorffennaf yn chwarel Abersychan.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r safle ar gyrion Pont-y-p诺l, wedi adroddiadau bod bachgen a merch 14 oed wedi syrthio yno.
Cafodd y ferch, sydd o ardal Blaenafon, ei chludo mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, ble mae hi'n parhau mewn cyflwr difrifol.
Mae swyddogion arbenigol Heddlu Gwent yn rhoi cymorth i deulu Myron Davies, oedd yn ddisgybl yn Ysgol Abersychan.
Dywedodd ei fam, Sarah Davies mewn datganiad ei fod "yn fachgen poblogaidd yr oedd "pawb yn ei garu".
"Roedd wastad yn fachgen hapus, wastad 芒 gw锚n ar ei wyneb... bydd yn cael ei golli gan ei ffrindiau a'i deulu."
"Fel y gallwch ddychmygu, mae ein calonnau ni oll wedi torri ac mae ei holl ffrindiau wedi eu llorio, wrth inni geisio dod trwy bob diwrnod ers y newyddion torcalonnus yma.
Ychwanega'r datganiad bod hi'n "ddirgelwch beth ddigwyddodd ar y diwrnod trasig yma" ac mae Ms Davies yn apelio ar bobl all gynnig gwybodaeth i gysylltu gyda'r heddlu.
"Fel mam, rwy' angen gwybod beth ddigwyddodd i fy mab," dywedodd.
Mae ymchwiliad Heddlu Gwent yn parhau i'r achos ac mae manylion wedi eu cyflwyno i'r crwner.