91热爆

Bachgen 15 oed wedi marw mewn chwarel ym Mhont-y-p诺l

  • Cyhoeddwyd
Digwyddiad Pont-y-p诺lFfynhonnell y llun, Vicki Norton
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd hofrennydd Gwylwyr y Glannau ei ddefnyddio i achub y ferch o'r lleoliad

Mae bachgen 15 oed wedi marw ar 么l syrthio mewn chwarel ym Mhont-y-p诺l ddydd Mercher.

Cafodd merch 14 oed, oedd gyda'r bachgen, ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd gydag anafiadau difrifol.

Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu bod wedi cael eu galw am 18:30 a bod parafeddygon wedi cadarnhau marwolaeth y bachgen, o ardal Pont-y-p诺l.

Cafodd y ferch, o ardal Blaenafon, ei chludo mewn hofrennydd i'r Ysbyty Athrofaol.

Dywed Heddlu Gwent fod swyddogion arbenigol yn cefnogi teulu'r bachgen, ac y dylai unrhyw un sydd 芒 gwybodaeth am ddigwyddiad gysylltu 芒 nhw.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r chwarel yn Abersychan, ar gyrion Pont-y-p诺l

Pynciau cysylltiedig