Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Profion LFT am ddim yng Nghymru tan ddiwedd Gorffennaf
Bydd profion llif unffordd (LFT) yn parhau i fod ar gael am ddim i bobl yng Nghymru sydd 芒 symptomau coronafeirws tan ddiwedd mis Gorffennaf.
Daw'r cyhoeddiad wedi cynnydd mewn achosion ledled y DU, gyda'r data diweddaraf yn dangos bod gan un o bob 45 o bobl yng Nghymru haint Covid - cynnydd o un o bob 75 yr wythnos flaenorol.
Mae profion LFT am ddim eisoes wedi dod i ben yn Lloegr a'r Alban i'r rhan fwyaf o bobl ac mae profion am ddim yn dod i ben yng Ngogledd Iwerddon ddiwedd mis Mehefin.
Yn y cyfamser, bydd taliadau hunan-ynysu o 拢500 yn dod i ben yng Nghymru ar 30 Mehefin.
Ond bydd cynllun Gwella T芒l Salwch Statudol Covid-19 yn cael ei ymestyn tan 31 Awst, a hynny i ganiat谩u staff gofal cymdeithasol i gadw draw o'u gwaith os ydyn nhw'n profi'n bositif.
Bwriad yr estyniad yw amddiffyn yr unigolion bregus y mae staff gofal cymdeithasol yn gofalu amdanyn nhw.
Ymateb i'r sefyllfa
Dylai argaeledd parhaus profion LFT am ddim i bobl symptomatig "wneud gwahaniaeth" yn 么l Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru.
"Mae'r llywodraeth yma yn gwbl glir ei bod yn well ganddyn nhw ddileu rheolau a lleddfu'r sefyllfa pan fydd pethau yn gwella.
"Felly pan fydd haint cymunedol yn cynyddu, pan mae cyfraddau'n codi mewn gwirionedd, mae pobl yn dod i niwed mwy difrifol - dyna'r amser i ohirio'r newidiadau hynny.
"A dyna mewn gwirionedd pam ein bod ni wedi penderfynu yng Nghymru i barhau 芒'r profion ar gyfer pobl sydd 芒 symptomau coronafeirws am fis arall."
Ers diwedd mis Ebrill mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod y nifer uchaf o brofion LFT yn dod yn 么l yn bositif.
Roedd 9,406 o brofion positif yn ystod yr wythnos ddiweddaraf, gyda'r nifer uchaf yn parhau i gael eu cofnodi yn y gr诺p oedran 40 i 59.
Hyd yn hyn, mae dros 12.5 miliwn o ganlyniadau profion llif unffordd wedi eu cofnodi yng Nghymru ers mis Ionawr y llynedd.
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi amcangyfrif fod heintiau wedi codi yng ngwledydd eraill y DU hefyd, a'u bod ar eu huchaf yn Yr Alban.
Dywedodd llefarydd fod y cynnydd yn debygol o gael ei achosi gan heintiau yn yr is-amrywiolion Omicron - BA.4 a BA.5.
Ond yng Nghymru - mae'r amrywiolyn Omicron BA.2 yn fwy amlwg na'r is-amrywiolion BA.4 a BA.5 ar hyn o bryd, yn 么l canlyniadau yn ystod yr wythnos ddiweddaraf.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan ein bod "ni dal i ddysgu am Covid".
"Ry'n ni dal i ddysgu am yr amrywiolyn newydd yma ac felly mi fydd rhaid i ni addasu wrth fynd ymlaen.
"Yn y dyfodol bydd rhaid i bobl gymryd camau gwirfoddol i amddiffyn eu hunain ac eraill. Dwi'n meddwl bod rhaid i bobl defnyddio synnwyr cyffredin.
"Wrth i'r lefelau godi rhaid bod yn fwy gwyliadwrus - rhaid golchi dwylo yn amlach neu ystyried gwisgo mwgwd os mewn lle llawn pobl y tu mewn ac yn sicr gwisgo mwgwd pan yn mynd i ysbytai neu ardaloedd gofal."