91热爆

Ydi'r Gymraeg yn rhoi mynegiant i rywioldeb?

  • Cyhoeddwyd
Ydi'r Gymraeg yn rhoi mynegiant i rywioldeb?Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ydi'r Gymraeg yn rhoi mynegiant i rywioldeb?

Ymdrin 芒 rhywioldeb ac anallu'r Gymraeg i roi mynegiant i'r rhywioldeb hwnnw oedd cerdd fuddugol y gadair gan Ciar谩n Eynon yn Eisteddfod yr Urdd eleni.

Yr un rhwystredigaethau mae Luke Blaidd, awdur y blog The Case of the 450 year-old Word: A Queer Welsh slur throughout the centuries yn ei deimlo.

Dr Gareth Evans-Jones, darlithydd Astudiaethau Crefyddol ym Mhrifysgol Bangor fu'n trafod y berthynas rhwng rhywioldeb, hunaniaeth a thermau'r iaith Gymaeg ar Dros Ginio.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dr Gareth Evans-Jones

Ydy'r Gymraeg yn iaith gyfyng?

Mae'r Gymraeg wedi cael ei gweld fel iaith sydd ddim o reidrwydd yn flaengar ond beth sy'n wych erbyn hyn, yn enwedig yn y ddeng mlynadd a mwy ddwytha, ydi bod 'na ymdrechion newydd wedi cael eu gwneud a thermau newydd wedi cael eu bathu er mwyn trafod gwahanol agweddau ar y gymuned LHDCT+. Ar wefan Stonewall Cymru, er enghraifft, mae 'na restr eirfa sy'n cynnig termau cyfwerth Cymraeg i'r termau Saesneg.

Yn ddiwedar mi wnes i ddarllen nofel Danna Edwards, Am Newid a gyhoeddwyd yn 2017. Y term sy'n cael ei ddefnyddio yn fan'na ydy Trans. Rhyw bum mlynadd wedyn mae Traws wedi dod yn air llawer mwy cyfarwydd, a mae rhywun wedi arfer efo Trawsrywioldeb a Trawsrywiol felly mae geiriau newydd wedi eu harddel yn y Gymraeg.

Oes angen trosi neu a fyddai 'Trans' yn cynnal?

Mae rhai pobl yn dweud bod well gynnon nhw y term Trans na Traws achos ella bod 'na fwy o hanas i'r term.

Mae 'na dermau eraill difyr iawn erbyn heddiw - erbyn hyn mae'r term Queer, er enghraifft, wedi cael ei Gymreigio yn llythrennol i Cwiar.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Baneri dathlu hunaniaeth Traws

Ma' gynnoch chi dermau eraill fel Agender yn Gymraeg sydd yr un sillafiad ag Agender yn Saesneg felly i ryw radda mae 'na le i ddefnyddio yr hen dermau sefydledig yna ond dwi'n meddwl bod 'na rwbath amdanom ni'r Cymry, 'dan i'n licio bathu terma Cymreig.

Meddyliwch am eiriau fel gwleidyddiaeth - mae politics yn dalfyriad ar y gair Groegaidd 笔辞濒颈迟颈办谩 a mae ffurf ohono yn cael ei ddefnyddio mewn lot o wahanol ieithoedd, ond 'dan ni yng Nghymru yn licio gwleidyddiaeth.

Termau annerbyniol yn parhau

Un sydd wedi gwneud gwaith eithriadol iawn ydi Luke Blaidd sy'n ymchwilio i mewn i hanes LHDCT+ yng Nghymru yn ei flog LGBTQ Cymru, a sydd hefyd wedi casglu termau at ei gilydd a chreu Llyfr Enfys.

Yn ei flog diweddar, mae'n dod i'r casgliad bod geiriau sarhaus, annerbyniol yn dal yn cael eu defnyddio yn rheolaidd. Ei ganfyddiad ydy bod termau fel gwrywgydiwr a gwrywgydiaeth wedi ymddangos mewn geiriaduron Cymraeg o 1567 hyd at y 2010au, ac yn parhau i fod.

Dydi'r termau yma ddim yn gynhwysol achos yn un peth dydi gwrywgydiaeth ddim yn cyfleu homosexuality per se achos cyfeirio at wrywdod mae o'n benodol - does yna ddim s么n am berthnasau hoyw rhwng merched er enghraifft. Mae'r math yna o derm yn un diddorol a sy'n werth ei drafod ond mae angen cydnabod ei wedd broblematig o hefyd.

'Os dydan ni ddim yn trafod mae 'na tab诺'

Mae yna ofn i drafod ac ansicrwydd i gael pethau yn anghywir, a mae'r hen gwestiwn yn codi, pa hawl sydd gen i fel person be' bynnag i drafod rwbath sydd ddim yn bersonol?

Dwi'n meddwl efo rwbath, os oes yna gamgymeriadau yn cael eu gwneud a phobl yn siarad ac dweud petha' sydd ychydig bach yn ddadleuol, ella bod yna le wedyn i drafod, i weld be' yn union mae rhywun yn ei olygu neu fwriadu drwy rhyw derm penodol.

Os dydan ni ddim yn trafod mae 'na tab诺 yn datblygu o'u cwmpas nhw, felly mynd i'r afael efo'r termau yma gan gydnabod bydd 'na gamgymeriadau yn cael eu gwneud sydd angen. Drwy wneud camgymeriadau mae rhywun yn gallu dysgu a symud ymlaen felly.

Pynciau cysylltiedig