Boris Johnson i wynebu pleidlais o hyder yn ei arweinyddiaeth
- Cyhoeddwyd
Mae Boris Johnson yn wynebu pleidlais o hyder yn ei arweinyddiaeth ar 么l i ddigon o aelodau seneddol Ceidwadol alw am bleidlais o'r fath.
Y disgwyl yw y bydd y bleidlais yn cael ei chynnal am 18:00 ddydd Llun.
Roedd angen i 54 o ASau Ceidwadol anfon llythyr yn galw am y bleidlais er mwyn cyrraedd y trothwy ar gyfer pleidlais yn ei arweinyddiaeth.
Dyw hi ddim yn glir faint yn union o ASau sydd wedi gwneud hynny, ac fe allai fod yn llawer uwch na'r 54 oedd ei angen.
Hyd yma, 28 o ASau Ceidwadol sydd wedi dweud yn gyhoeddus eu bod eisiau i Mr Johnson adael.
Mae yna 359 o aelodau seneddol Ceidwadol, a bydd angen 180 er mwyn sicrhau mwyafrif yn y bleidlais o hyder.
Mae anfodlonrwydd wedi bod ymhlith nifer o aelodau ar 么l i Boris Johnson dderbyn dirwy am dorri rheolau Covid yn ystod y pandemig.
Roedd hynny wedi cynyddu ar 么l cyhoeddi adroddiad Sue Gray - adroddiad i ymddygiad gweision sifil a'u harweinyddion gwleidyddol ar 么l i nifer o bart茂on gael eu cynnal yn ystod cyfnod y pandemig.
Cefnogaeth i Boris Johnson
Mae yna rai Ceidwadwyr o Gymru wedi bod yn datgan eu cefnogaeth i'r prif weinidog.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart, y byddai'n cefnogi'r prif weinidog yn y bleidlais o hyder.
Byddai cael gwared ar Boris Johnson, meddai, yn rhoi grym i'r bobl hynny fyddai'n gwneud "y niwed mwyaf i'n gwlad".
"Mewn amseroedd da a drwg dyw cefnogi'r t卯m, ac yn enwedig yr arweinydd, erioed wedi bod yn fwy pwysig," meddai Mr Hart, AS Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro.
Mae tri AS Ceidwadol arall o Gymru - David TC Davies (Sir Fynwy), Alun Cairns (Pen-y-bont) a Simon Baynes (De Clwyd) hefyd wedi lleisio eu cefnogaeth i Boris Johnson.
Does yr un AS Ceidwadol nag unrhyw un o Geidwadwyr Senedd Cymru eto wedi galw ar Mr Johnson i ymddiswyddo.
Dadansoddiad gohebydd seneddol 91热爆 Cymru, Elliw Gwawr
Chi'n cofio beth ddigwyddodd i Theresa May - fe wnaeth hi ennill pleidlais o ddiffyg hyder, ond o fewn misoedd roedd hi wedi mynd - roedd y pwysau yn ormod.
Felly dyw e ddim o reidrwydd yn golygu ei fod yn saff hyd yn oed os yw'r bleidlais honno yn cael ei hennill heno.
'Da ni ddim yn gwybod faint yn union o lythyrau sydd wedi cael eu rhoi mewn - fe allai fod ymhell dros y 54.
Mae aelodau'r cabinet wedi bod yn gefnogol iawn hyd yma, ond falle bydd rhai o'r rheiny sydd eisiau'r swydd eu hunain yn meddwl 'falle dyma fy nghyfle i, 'na i ddim dweud yn gyhoeddus ond mae'n ddigon hawdd i fi daro pleidlais pan does neb yn gweld a neb byth yn gwybod'.
Mae'n anodd iawn dweud ar hyn o bryd beth fydd yn digwydd, ond beth sydd yn glir yw bod 'na anhapusrwydd mawr am ei arweinyddiaeth.
'Ddim yn un gr诺p trefnus'
Dywedodd y sylwebydd gwleidyddol Tweli Griffiths ei fod yn rhagweld y bydd gwrthwynebwyr Boris Johnson yn ei chael yn anodd ei orchfygu mewn pleidlais.
"Mae 'na rywfaint o naws a momentwm wedi codi yn erbyn Boris Johnson ers cyhoeddi adroddiad Sue Gray, a dwi'n meddwl un o broblemau gwrthwynebwyr y prif weinidog ymysg Tor茂aid cyffredin yw eu bod nhw ddim yn un gr诺p trefnus ac unedig," meddai ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru.
"Mae 'na sawl carfan wahanol o fewn y Blaid Geidwadol ac mae yna wrthwynebwyr i Boris Johnson ym mhob un ohonyn nhw, gyda rhesymau gwahanol am eu gwrthwynebiad nhw.
"Mae'n syndod cymaint ohonyn nhw sydd yn Brexit茂wyr caled adain dde, ond mae yna Dor茂aid cymedrol canol y ffordd hefyd, rhai o seddi'r wal goch gyda mwyafrif bychan yn yr etholiad diwethaf, ond rhai eraill 芒 mwyafrif diogel yn ne Lloegr.
"Yr unig beth sydd gyda nhw yn gyffredin eu bod nhw wedi cefnu ar y prif weinidog ond mae angen mwy na hynny i fynd 芒'r maen i'r wal a chynnal gwrthryfel llwyddiannus a disodli Boris Johnson fel prif weinidog."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mai 2022
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd25 Mai 2022
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2022