Eisteddfod: Shuchen Xie, 12, yn ennill y Fedal Gyfansoddi
- Cyhoeddwyd
Shuchen Xie o Gaerdydd sydd wedi ennill Medal Gyfansoddi Eisteddfod yr Urdd 2022.
Y ferch 12 oed yw'r ieuengaf erioed i gipio un o brif wobrau'r 诺yl.
Yn ddisgybl yng Ngholeg St Ioan, mae Shuchen hefyd yn astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Dechreuodd ganu'r piano pan yn bedair oed, er nad ydy hi'n dod o deulu cerddorol, meddai.
Yna fe ddechreuodd gyfansoddi "cwpl o flynyddoedd yn 么l".
'Pleser i'w weld a'i glywed'
Mae Shuchen yn ennill teitl y Prif Gyfansoddwr am gyfansoddi darn ar gyfer pedwarawd llinynnol gyda'r teitl Rhapsody in G minor.
Roedd y beirniad Mared Emlyn wedi ei chalonogi'n fawr gyda safon y gystadleuaeth, gyda'r ensemble a gyflwynodd Shuchen o dan y ffugenw 'Endurance' yn "bleser i'w weld a'i glywed".
Mae Shuchen yn wyneb cyfarwydd i'r Urdd ac wedi perfformio lawer gwaith ar lwyfan y genedlaethol - enillodd gystadleuaeth cyfansoddi iau (Cynradd) Eisteddfod T 2021, ynghyd 芒'r unawd piano.
Yn y darn buddugol, mae hi'n archwilio gwahanol emosiynau trwy amrywio'r tempo a defnyddio rhythmau'r Tango a'r Scherzo.
Yn ei beirniadaeth, dywedodd Mared Emlyn: "Dwi wedi fy nghalonogi'n fawr gyda safon y gystadleuaeth eleni, ac roedd hi'n anodd iawn gwahanu gyda'r safon mor uchel.
"Ges i fy rhyfeddu gan allu'r cyfansoddwr buddugol i symud drwy gyweiriau, harmon茂au ac amsernodau gwahanol mewn ffordd mor naturiol. Llongyfarchiadau mawr i bawb."
Yn ail oedd Gwydion Rhys, o Rachub yng Ngwynedd sy'n astudio yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain, ac yn drydydd oedd Kai Fish, cyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Gwynllyw sydd bellach yn astudio yng Ngholeg Chweched Dosbarth Henffordd.
Mae newid i'r drefn o gyhoeddi enillwyr y prif wobrau eleni, gyda'r tri sy'n dod i'r brig yn cael eu cyhoeddi am 10:00, ac yna enw'r enillydd yn cael ei ddatgelu yn ddiweddarach yn y prynhawn.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mai 2022
- Cyhoeddwyd30 Mai 2022