Ben Lake yw Llywydd Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion
- Cyhoeddwyd
Mae trefnwyr Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion wedi cyhoeddi mai'r Aelod Seneddol lleol, Ben Lake fydd Llywydd yr 糯yl eleni.
Ers 2017, mae'r brodor o Lanbedr Pont Steffan, a chyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan, yn AS Plaid Cymru dros Geredigion.
Mae o bellach yn Is-gadeirydd ar Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan ac yn llefarydd ar ddiwylliant i Blaid Cymru yn San Steffan.
Fel rhan o'i r么l bydd yn annerch y gynulleidfa o lwyfan y pafiliwn ar faes y brifwyl, sy'n cael ei chynnal ar gyrion Tregaron rhwng 30 Gorffennaf a 6 Awst.
Fe raddiodd Mr Lake mewn hanes a gwleidyddiaeth yng Ngholeg y Drindod, Rhydychen cyn derbyn Gradd Meistr mewn Hanes Modern Prydeinig ac Ewropeaidd.
Yn ystod ei gyfnod yn y brifysgol, bu'n drysorydd ac yn ysgrifennydd i Gymdeithas Dafydd ap Gwilym.
Bu'n rhan o'r t卯m a drefnodd Eisteddfod Rhydychen yn 2013, ac mae'n parhau yn gefnogwr brwd o'r gymdeithas a'i gwaith.
Mae'n dilyn nifer o Gymry amlwg sydd wedi cael bod yn llywyddion dros y blynyddoedd, gan gynnwys y cyflwynydd a'r DJ, Huw Stephens, yr hanesydd Elin Jones a chyn-reolwr cynorthwyol t卯m p锚l-droed dynion Cymru, Osian Roberts.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd7 Awst 2021
- Cyhoeddwyd2 Awst 2021