Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Iechyd meddwl: Galw am fwy o gymorth wedi 18 oed
- Awdur, Garry Owen
- Swydd, Gohebydd Arbennig 91热爆 Radio Cymru
Mae Megan Abbott, 21 oed o bentre Gors-las ger Cross Hands yn byw 芒 chyflwr sy'n cael ei adnabod fel anhwylder personoliaeth ffiniol (Borderline Personality Disorder) - cyflwr sy'n ei gwneud yn anodd iddi reoli ei hemosiynau.
"Mae yn anodd bod yn y canol," meddai. "Rwy'n gallu mynd rhai diwrnodau lle dwi'n iawn, ond mae patches mewn bywyd lle mae'n anodd i fi reoli fy emosiynau am ddyddiau lawer. Rwy'n cael highs a lows."
Mae Megan yn cefnogi ymgyrch sy'n dadlau bod angen gwella gwasanaethau iechyd meddwl i ieuenctid wrth iddyn nhw symud o ofal gwasanaethau plant i wasanaethau oedolion.
Wedi iddi gyrraedd 18 oed, a hithau yn byw ym Mhen-y-bont ar y pryd, mae Megan yn dweud ei bod wedi sylwi ei bod yn cael llawer llai o gefnogaeth.
"Mae yna apwyntiadau, ond ma' nhw yn fyr iawn... deg munud efallai. Ond mae llwyth o stigma rownd y cyflwr ac felly mae'n anodd cael mynediad i'r gefnogaeth sydd ei angen.
"Byddai y gefnogaeth gywir yn gneud llwyth o wahaniaeth. Rwy' angen rhywun i ddeall yn iawn sut fi'n teimlo, ond oherwydd y stigma a'r system mae yna rwystrau mawr sy'n stopio hynna i ddigwydd."
Yn 么l Mind Cymru mae "bwlch mawr" wrth symud o ofal gwasanaethau ieuenctid i system ofal oedolion.
Mae'r elusen yn galw am fwy o gefnogaeth i fyrddau iechyd.
Mae'r llywodraeth yn dweud bod gwaith yn digwydd i ddeall anghenion pobl ifanc a sut y gall gwasanaethau wella'r gefnogaeth sydd ar gael.
'Cael eu hanwybyddu'
Dywedodd Nia Evans, Rheolwr Plant a Phobol Ifanc Mind Cymru: "Mae pobol ifanc wedi dweud wrthym ni fod eu hanghenion, a'u teimladau yngl欧n 芒 symud i wasanaethau oedolion yn aml iawn yn cael eu hanwybyddu, neu does neb yn gwrando arnyn nhw."
Mae hi'n dweud bod canllawiau Llywodraeth Cymru yn aml ddim yn cael eu dilyn.
"Mae hynna yn gadael pobol ifanc heb y gefnogaeth sydd wir ei angen arnyn nhw.
"Mae angen i Lywodraeth Cymru gefnogi byrddau iechyd lleol i 'neud yn si诺r fod hyn ddim yn digwydd a sicrhau fod llais ein pobol ifanc yn cael ei glywed a'u bod yn cael y gofal cywir."
Anodd ymdopi
Dywedodd Megan ei bod yn gwybod bod 18 oed yn nodi cychwyn bywyd fel oedolyn ond mae'n teimlo bod y newid mewn gofal yn rhy sydyn ac yn rhy ddramatig.
"Yn swyddogol ry'n ni yn oedolion, dwi'n gwybod hynny, ond mewn gwirionedd dydyn ni ddim. Ry'n ni yn y canol. Ni yn yr oedran lle i ni jyst wedi dod allan o'r ysgol.
"Mae bwlch wrth gefnogi pobol wrth symud o fod yn blentyn i fod yn oedolyn. Does dim byd yn y canol i helpu."
Mae'n teimlo bod y gwahaniaeth a'r newid mewn gofal mae gwasanaethau iechyd meddwl yn ei roi i blentyn ac oedolyn yn ei gwneud hi yn anodd i ymdopi.
"Y broblem yw pan ni o dan gwasanaethau plant ni yn cael ein trin fel plentyn ac yn cael eitha' lot o sylw, ond mae y gwasanaeth oedolion yn hollol wahanol. Yn fan'na rwy'n teimlo bod yna eitha' lot o'r meddylfryd 'ti ar ben dy hun nawr achos ti yn oedolyn'.
"Mae angen r'wbeth yn y canol i helpu ni wrth i ni fynd trwy y broses o symud o un gwasanaeth i'r llall."
'Blaenoriaethu buddsoddiant'
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym ar hyn o bryd yn ymwneud 芒 gwaith sy'n delio'n uniongyrchol 芒 phobl ifanc er mwyn adnabod eu hanghenion a gweld sut y gellid gwella'r gefnogaeth sydd ar gael wrth symud o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion.
"Rydym yn parhau i flaenoriaethu buddsoddiant mewn gwasanaethau iechyd meddwl gyda 拢50m yn ychwanegol wedi ei ymrwymo gennym yn 2022/23."
Mae Megan Abbott yn paratoi i ddilyn gyrfa ym maes gofal iechyd ac yn bwriadu dechrau ar gwrs er mwyn astudio i fod yn nyrs.
Mae hi'n teimlo y bydd ei phrofiad personol yn ei helpu yn ei gyrfa ac hefyd yn fodd i sicrhau bod yna well dealltwriaeth o'i chyflwr.
"S'dim llawer o help wedi bod i fi ar 么l cyrraedd 18. a bod yn onest. Does neb yn rhoi heads up i chi bo chi ar ben eich hun.
"Es i o appointments un awr gyda seiciatrydd pan yn blentyn, i apwyntiadau deg munud pan o'n i yn oedolyn.
"Ry'n ni angen gwasanaethau sydd yn gwrando arno ni ac yn cwrdd 芒'n anghenion ni yn hytrach na disgwyl i ni gwrdd 芒'u disgwyliadau nhw."