Adroddiad yn crybwyll diddymu un o ranbarthau rygbi Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae adroddiad ar ddyfodol rygbi yng Nghymru wedi cynnig diddymu un o'r pedwar rhanbarth proffesiynol erbyn 2023-24.
Y Gweilch, Caerdydd, y Scarlets a'r Dreigiau yw'r pedwar t卯m proffesiynol yng Nghymru.
Comisiynwyd yr adroddiad ar gyfer y Bwrdd Rygbi Proffesiynol (PRB), sy'n rhedeg y g锚m yng Nghymru ynghyd 芒'r rhanbarthau ac Undeb Rygbi Cymru (URC).
Bydd y PRB yn astudio'r cynigion gyda'r cyfarfod nesaf i'w gynnal ar 11 Mai.
Pedwar argymhelliad
Ysgrifennwyd yr adroddiad gan Oakwell Sports Advisory, gyda'r ddogfen yn awgrymu pedwar opsiwn neu argymhelliad, gyda thorri un rhanbarth yn un ohonynt.
Roedd awgrymiadau eraill yn cynnwys model amgen o ariannu chwaraewyr, gyda'r trefniant presennol yn gweld URC yn cyfrannu 80% o'r cyflogau i'r 38 chwaraewr domestig gorau, gyda'r rhanbarthau yn cyfrannu'r 20% arall.
Mae cynlluniau hefyd i gyflwyno cytundeb G锚m Broffesiynol Gymreig (WRPA) newydd a chreu strategaeth a chorff masnachol canolog.
Dywed yr adroddiad y byddai diddymu un o'r rhanbarthau yn golygu arbed cyfartaledd o 拢7.8m ar unwaith, gyda Covid-19 wedi cyfrannu at drafferthion ariannol y g锚m yng Nghymru.
Ond gallai'r argymhellion hyn gael eu diystyru gan y PRB.
Mae hefyd yn nodi bod "rhaid i rygbi Cymru ddatblygu model ariannu masnachol cynaliadwy ar unwaith ar gyfer y 10 mlynedd nesaf".
Cyflwynwyd rygbi rhanbarthol yn 2003 ar draul y clybiau gynt, gyda phum t卯m wedi'u creu i ddechrau cyn i'r Rhyfelwyr Celtaidd gael eu diddymu flwyddyn yn ddiweddarach.
Nid dyma'r tro cyntaf i uno gael ei awgrymu, gyda chynlluniau i ymuno'r Gweilch a'r Scarlets gyda'i gilydd yn 2019 cyn i'r cynllun gael ei ohirio.
Dywedodd llefarydd ar ran Undeb Rygbi Cymru: "Comisiynwyd Oakwell gan y Bwrdd Rygbi Proffesiynol (PRB) i gynhyrchu adroddiad yn edrych ar yr opsiynau strategol sydd ar gael i'r g锚m broffesiynol yng Nghymru.
"Mae'n cynnwys nifer o argymhellion sy'n rhan o'r trafodaethau presennol sy'n cael eu cynnal yn y PRB.
"Mae adroddiadau eraill yn llywio'r trafodaethau hyn a byddai'n amhriodol gwneud sylw pellach ar hyn o bryd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2022