91热爆

Y babis newydd sy'n aelodau oes o'r Urdd

  • Cyhoeddwyd
Y babis newydd yn derbyn eu haelodaeth oes o'r Urdd gan Aled Hughes
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Lois, Alys ac Elena a anwyd ar 25 Ionawr wedi cael eu gwneud yn aelodau oes o'r Urdd

Mae tri o fabanod a anwyd ar ddiwrnod Santes Dwynwen 2022 wedi cael eu gwneud yn aelodau oes o'r Urdd fel rhan o flwyddyn o ddathliadau'r mudiad ieuenctid yn 100 oed.

Teithiodd cyflwynydd Radio Cymru, Aled Hughes, i dair ardal o Gymru i gyfarfod y dair Gymraes fach newydd a gafodd eu geni ar 25 Ionawr a chyflwyno tystysgrifau aelodaeth oes a bathodyn iddyn nhw.

I ddathlu can mlynedd ers ei sefydlu yn 1922, ac mewn partneriaeth gyda Radio Cymru, fe gytunodd yr Urdd ar Raglen Aled Hughes ar Ionawr 25 y byddai unrhyw fabis oedd yn cael eu geni ar y diwrnod hwnnw - a'u teulu'n cysylltu o fewn wythnos - yn cael yr aelodaeth arbennig.

A dyma nhw'r aelodau newydd!

1.Elena o Orseion

Disgrifiad,

Aled yn cyflwyno tystysgrif aelodaeth oes Yr Urdd i Elena fach

Roedd tad Elena, Adrian, wedi gobeithio y byddai ei ferch yn cael ei geni ar y 26ain gan mai dyna ddiwrnod pen-blwydd ei daid - hen daid Elena - ond mae'r dystysgrif oes yn ail agos.

"Roedd fy nhad-cu yn troi'n 90 ar y chweched ar hugain so o'n i wedi gobeithio y byddai hi'n dod ar ei ben-blwydd e," meddai.

"Ond wrth gwrs mae'r babis yma'n dod pan maen nhw'n barod ac oni'n gwybod dim am ganmlwyddiant yr Urdd. Felly ar 么l dodi'r neges ar Facebook ei bod hi wedi ei geni o'n i'n gweld pobl yn hashtagio'r Urdd ac o'n i'n meddwl 'Wel beth ar wyneb y ddaear yw hwn?'

"Ac roedd e'n wobr gysur hyfryd achos mae gen i gymaint o atgofion am yr Urdd," meddai.

Roedd yn syrpreis hyfryd meddai mam Elena, Clare, a'r ffaith ei bod hefyd yn ddiwrnod Santes Dwynwen yn "double-whammy*!

Mae hi eisoes wedi bod yn mynd i ddosbarthiadau babis i ddysgu caneuon Cymraeg meddai Clare, felly fe edrychwn amdani ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd ymhen rhai blynyddoedd!

2.Alys o Langrannog

Disgrifiad,

Aled yn cyflwyno tystysgrif aelodaeth oes Yr Urdd i Alys fach

Ym mhentref un o wersylloedd adnabyddus yr Urdd y mae Alys Megan yn byw.

"Mae'n lyfli!" meddai Sioned, ei mam, sydd drwy gyd-ddigwyddiad 芒 chysylltiad agos gyda gwersyll yr Urdd drwy ei chwaer, Lowri.

"Mae'n chwaer yn gweithio gyda'r Urdd ac mae wedi bod yn rhan ganolog o'n bywydau ni erioed, yn dod o Langrannog - so roedd raid bod hi'n dod ar y 25ain!

"O'n i wedi clywed ei bod yn bosib ar y pumed ar hugain y bydde aelodaeth am fywyd gan yr Urdd ac roedd y ddwy ohonon ni'n chwerthin yn meddwl os fyse hi yn dod ar y 25ain y byse fe yn eitha' doniol ac fe gyrhaeddodd hi!"

Roedd yn goron ar ddiwrnod oedd eisoes yn arbennig i'r teulu, meddai.

Meddai ei chwaer Lowri, sy'n gyfrifol am y gwersyll yn Llangranng: "Fel unrhyw Gardi da roedd pawb yn y teulu yn dathlu yn enwedig y tad, Si么n, bod e'n cael aelodaeth am oes am ddim!

"Mae'r flwyddyn yma'n mynd i fod yn flwyddyn arbennig iawn i'r Urdd ac mae'r dathliadau wedi dechrau gyda bwrlwm yn mis Ionawr."

3. Lois o Lanwnda

Disgrifiad,

Aled yn cyflwyno tystysgrif aelodaeth oes Yr Urdd i Lois fach

"Mae hi wedi cael aelodaeth oes o'r Urdd am bod Taid wedi ffonio fewn," meddai Rhiannon, mam Lois Medi, y drydedd aelod-am-oes newydd.

Gareth Jones o Lanberis yw'r taid y gall Lois ddiolch iddo pan fydd hi'n h欧n.

"Mae'n si诺r y bydd hi wrth ei bodd," ychwanegodd Rhiannon, "o'n i'n mynd i'r Urdd yn blentyn, a mynd i'r Eisteddfod a gwneud lot o chwaraeon, felly dwi'n si诺r y bydd o fudd iddi hi.

"A phan fydd hi'n h欧n mae'n si诺r bydd hi'n cael mynd i Langrannog efo'r ysgol - dwi'n cofio mynd yna pan o'n i'n athrawes yng Nghaerdydd efo plant Ysgol Plas Mawr."

A phwy a 诺yr na fydd y dair fach sy'n aelodau o glwb eitha egsliwsif yn gallu cwrdd 芒'i gilydd yn y gwersyll ger y lli mewn blynyddoedd i ddod.