91热爆

Pryder bod problemau wedi'u colli heb ymweliadau iechyd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Rhian ac Elsie
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu Rhian yn ffonio am gymorth yn gyson ond ddaeth neb i'w gweld am bron i ddeufis

Mae pryder bod problemau'n ymwneud ag iechyd meddwl rhieni a diogelwch plant wedi cael eu colli yn ystod y pandemig.

Dyna y mae elusen NSPCC Cymru wedi dweud wrth 91热爆 Cymru Fyw ddwy flynedd ar 么l i wasanaethau ymwelwyr iechyd plant ddod i stop i nifer yn ystod y cyfnod clo.

Cafodd nifer o ymwelwyr iechyd eu symud i unedau eraill o fewn ysbytai i ateb y galw yn sgil Covid.

Mae arbenigwr o'r Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru wedi awgrymu na ddylai hynny fod wedi digwydd oherwydd pwysigrwydd y gwasanaeth.

Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru bod newidiadau wedi'u gwneud yn ystod y pandemig ond bod disgwyl i ymweliadau wyneb yn wyneb fod wedi ail-gychwyn o fis Mawrth y llynedd.

'Ffonio a ffonio'

Fe groesawodd Rhian Vaughan Hughes a'i phartner eu merch fach, Elsie, i'r byd yn Ebrill 2020.

Yn rhieni am y tro cyntaf a'u teuluoedd yn byw ymhell, y cam naturiol i Rhian oedd troi at wasanaeth yr ymwelydd iechyd pan ddechreuodd boeni am sut roedd ei merch yn bwydo.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Rhian yn poeni nad oedd Elsie'n bwydo'n iawn ac felly fe ffoniodd wasanaeth yr ymwelwyr iechyd

Wedi iddi gysylltu yngl欧n 芒'i phryderon, cafodd Rhian, sy'n byw yng Nghaerdydd, gyngor dros y ff么n.

Ond ddaeth neb i'w gweld am bron i ddeufis.

"O'n i jyst isio i rywun checio bo fi'n 'neud bob dim yn iawn. Gafon ni ddim hynny," dywedodd.

"Dim ots faint o'n i'n ffonio a ffonio... o'n nhw deud 'o ma'n iawn', 'peidiwch a poeni amdana fo', a ballu."

'Anodd trafod iechyd meddwl ar y ff么n'

Cafodd clinigau arbennig eu sefydlu mewn cymunedau yn ystod y pandemig a chafodd sesiynau dros gyswllt fideo eu cynnal i rai hefyd.

Ond yr unig opsiwn gafodd ei gynnig i Rhian oedd galwad ff么n.

"Pan oeddan nhw'n gofyn sut ma'ch mental health chi, fedrwch chi ddim siarad mor dda [ar y ff么n].

"Ar y pryd dw i'n si诺r bo fi 'di ca'l dipyn bach o broblem efo postnatal depression," dywedodd.

"O edrych yn 么l r诺an, dw i'n si诺r 'swn i 'di gallu neud efo mwy o gefnogaeth ar y pryd felly".

Mae'r bwrdd iechyd wedi ymddiheuro am beidio gallu ymweld 芒 Rhian yn gynt a dywedon y bu'n rhaid gwneud newidiadau i sawl gwasanaeth yn ystod y pandemig.

Yn arferol, mae ymwelwyr iechyd yn mynd i gartrefi babanod newydd yn gyson ar 么l y geni ac yna wrth i'r plentyn dyfu.

Mae datblygiad corfforol babanod yn cael ei fonitro ac mae sylw'n cael ei roi i iechyd meddwl y rhieni a pha mor ddiogel yw'r cartref.

Ond ym Mawrth 2020, daeth hynny i stop i fwyafrif o deuluoedd yng Nghymru oherwydd rheolau Covid.

'Dim un proffesiwn arall fel ni'

Roedd Tesni Rogers yn un o'r ymwelwyr iechyd a gafodd ei symud i weithio mewn adran arall.

"Odd e'n bach o sioc," dywedodd Tesni, a symudodd yn 么l i weithio mewn uned gofal dwys lle gafodd ei hyfforddiant ar ddechrau ei gyrfa.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Symudodd Tesni Rogers, sy'n ymwelydd iechyd, i weithio mewn uned gofal dwys yn ystod y cyfnod clo cyntaf

Dywedodd bod gwaith ymwelwyr iechyd yn unigryw ac roedd colli cyswllt wyneb yn wyneb gyda theuluoedd yn anodd.

"Does dim un proffesiwn arall yn iechyd fel beth y'n ni'n neud.

"Beth yw'n gwaith ni yw ni'n mynd mas, ni'n gweithio gyda theuluoedd, ni'n gweithio gyda plant o ddeg dydd oed nes bo nhw'n bump, ni'n cynnig support... ni'n pigo lan y peth lleiaf."

Dywedodd bod rhai gwasanaethau wedi parhau dros y ff么n ond bod hynny'n heriol wrth geisio cael darlun gonest o gartref y teulu.

"O'dd e ddim y service o'n i'n arfer rhoi ond o'n ni'n dal yn rhoi gwasanaethau mas i'r community... ond o'n ni ffili darllen e [y cartref] yr un peth," eglurodd.

"Achos galle rhywun 'weud dros y ffon 'o ie fi'n ymdopi yn iawn' ond wedyn yn dod off y ff么n a bo nhw'n llefen."

'Gwir bryder'

Mae elusen NSPCC Cymru yn pryderu y gallai iechyd meddwl rhieni fod wedi gwaethygu a phroblemau'n ymwneud 芒 diogelwch plant fod wedi'u colli gan nad oedd ymwelwyr iechyd yn mynd i gartrefi.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae ymweliadau ymwelydd iechyd yn allweddol, medd Sarah Witcombe-Hayes

Dywedodd Sarah Witcombe-Hayes, uwch-swyddog ymchwil yr elusen yng Nghymru, bod yr ymweliadau yn "allweddol" wrth gynnig cefnogaeth i deuluoedd ac adnabod unrhyw broblemau.

"Ry'n ni wir yn bryderus y gallai ymweliadau iechyd fod wedi eu colli yn sgil y pandemig," eglurodd.

"Os yw'r ymweliadau hyn yn cael eu colli, gallai fod yna gyfle yn cael ei golli i adnabod unrhyw deuluoedd sy'n profi problemau iechyd meddwl ac unrhyw fabanod neu blant ifanc sydd ddim yn cwrdd 芒'r cerrig milltir datblygiadol yna hefyd.

"Mae diogelu ac amddiffyn plant yn rhan wirioneddol bwysig o r么l yr ymwelydd iechyd, ac mae ganddynt sgiliau unigryw wrth asesu lles plentyn a theulu".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

'Efallai na ddylid fod wedi adleoli cymaint o ymwelwyr iechyd,' medd Michelle Moseley

Yn gyn-ymwelydd iechyd ei hun, mae Michelle Moseley, ymgynghorydd addysg y Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru, yn awgrymu na ddylai ymwelwyr iechyd fod wedi'u hadleoli.

"Roedd yn rhaid i ni gael ein harwain gan Lywodraeth Cymru oherwydd roedd hi'n gyfnod hollol ddi-gynsail," eglurodd.

"Roedd hi'n benderfyniad eithriadol o anodd i wneud [i adleoli ymwelwyr iechyd].

"Cafodd hynny ei wneud am reswm, ond wrth edrych 'n么l, efallai y gallai fod cynlluniau amgen wedi bod ac efallai na ddylen nhw fod wedi eu symud ar y pryd."

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "disgwyl i bob bwrdd iechyd gynnig yr ystod lawn o gysylltiadau" ers Mawrth 2021.

"Fel rhan o'r ymateb i'r pandemig, cafodd newidiadau eu gwneud i Raglen Plant Iach Cymru.

"Mae'n bosib y bydd cysylltiadau'n dal i gael eu cynnig drwy ddull rhithwir yn hytrach nag wyneb yn wyneb, gan ddibynnu ar amgylchiadau'r teuluoedd penodol a barn broffesiynol yr ymwelwyr iechyd."